Image and intro
Hyrwyddwr Dysgu Entrepreneuraidd IICED (Cyhoeddiadau, Prosiectau a Mentrau Cydweithredol), Darlithydd mewn Entrepreneuriaeth
Cyfadran Busnes a Rheolaeth
Ffôn: 01792 481163
E-bost: felicity.healey-benson@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Prif Ymchwilydd a Hyrwyddwr Dysgu Entrepreneuraidd gyda chyfrifoldeb am Gyhoeddiadau, Prosiectau a Mentrau Cydweithredol. Rwy’n llawn egni ac yn llawn perswâd wrth gyfleu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig. Fel un sy’n angerddol iawn am adeiladu a meithrin perthnasau a rhwydweithiau, rwy’n helpu i ddatblygu’r gymuned o fewn ein prosiectau entrepreneuraidd.
Rwy wedi addysgu ar draws ystod eang o fodylau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig (ar-lein ac wyneb yn wyneb) o fewn y portffolios Busnes, Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd, ac Entrepreneuriaeth. Rwy’n Arweinydd Prosiect Cymru ar gyfer EntreCompEdu, un o brosiectau Erasmus+.
Cefndir
Cwblhaodd Felicity ei hastudiaethau doethurol yn 2023; astudiaeth ymchwil ffenomenolegol dair blynedd ar brofiadau bywyd addysgwyr sy’n hwyluso sgiliau meddwl lefel uwch.
Yn rhan o’m swydd yn IICED, rwy’n aelod o Grŵp Llywio EntreCompEdu a ariennir gan Erasmus+, sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau addysg entrepreneuraidd athrawon trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar-lein sydd ar gael yn fyd-eang ac sy’n seiliedig ar Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth Ewrop.
Rwy’n angerddol am gynaliadwyedd ac rwy’n gyd-sefydlydd cwmni deillio y Drindod Dewi Sant, y Gymdeithas Entrepreneuriaeth Gytûn (hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Harmonious Sustainability Ltd.) gyda’r Athro David A. Kirby.
A minnau’n awdur ac yn entrepreneur academaidd, sefydlais Emergent Thinkers.com, sy’n adnabod ac yn rhannu arferion addysgol a busnes newydd i hyrwyddo cynaliadwyedd a chefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol ehangach.
Rwy hefyd yn gyd-sefydlydd hanfod.NL gyda Dr Mike Johnson sy’n creu cymuned ymholi ffenomenolegol fywiog o fewn cyd-destun eang dysgu rhwydweithiol.
Fel Technegydd a Pheiriannydd Kaizen a gweithiwr proffesiynol profiadol ym maes Dysgu a Datblygu, rwy wedi cefnogi newid diwylliant ac ymgorffori egwyddorion gwella parhaus. Rwyf wedi mynd i’r afael â datblygu sgiliau mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth o lawr y siop i’r ystafell fwrdd ar draws ystod o sectorau i gefnogi gwell perfformiad personol a sefydliadol cyn symud i faes addysg.
Bellach mae meddwl beirniadol, creadigol a gofalgar, dysgu entrepreneuraidd ac entrepreneuriaeth gytûn ag addysg yn feysydd ffocws â blaenoriaeth.
- Cymwysterau: BSc, TAR, MBA, MA (HRM), Dip AU, CIPD, Dip. NLP, SAC. Dip, Academic Assoc. CIPD, Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch
Diddordebau Academaidd
Mae gennyf arbenigedd mewn dysgu ar-lein, gan gynnwys datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chreadigol. Mae fy mhortffolio israddedig ac ôl-raddedig yn cynnwys adnoddau dynol, arweinyddiaeth a rheolaeth, busnes a menter, entrepreneuriaeth, marchnata, cynaliadwyedd, a chymwysterau a achredir gan y CIPD, CIPS, CIM, CMI ac ACCA.
Ynghyd â Paul Ranson a Hazel Israel, datblygais y dystysgrif ar-lein newydd Tyst Ôl-radd mewn Sgiliau Menter 2022.
Meysydd Ymchwil
- Entrepreneuriaeth
- Entrepreneuriaeth Gytûn
- Ffenomenoleg
- Datblygu’r 4IR Educator
- Theori Cymhlethdod
- Datblygu sgiliau Meddwl yn Feirniadol a Meddwl yn Greadigol
- Addysgeg Arloesol ac Asesu yn seiliedig ar Dechnoleg
- Dysgu Ar-lein/O bell
- Cynaliadwyedd Cymhwysol
Arbenigedd
- Prosiectau Entrepreneuriaeth yn cynnwys Arweinydd Prosiect Cymru ar brosiect chwe gwlad Erasmus+, EntreCompEdu (gweithredu offeryn DPP ar-lein byd-eang i addysgwyr)
- Wedi helpu Ysgol Gynradd Dafen i ennill Gwobr Arloeswyr Ysgolion EntreCompEdu
- Cyd-sefydlydd Hanfod.NL
- Cyd-sefydlydd The Harmonious Entrepreneurship Society (Ltd.)
- Sefydlydd Emergent Thinkers
- Sefydlydd Pirates in Education (hyrwyddo her gadarnhaol ac ymddygiad sy’n creu newid mewn addysg)
- Yn ogystal â phrosiectau ymgynghori gyda chleientiaid preifat a dielw, rolau gydag Unipart, Metapack, Grŵp Gwalia ac Amazon, rwy wedi darparu cymorth ymgynghori busnes yn gysylltiedig â hyfforddiant a datblygiad a achredwyd gan y Brifysgol ar gyfer datblygiad staff mewnol pwrpasol.