Skip page header and navigation

Dr Jenny Day BA, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cymrawd Ymchwil | Golygydd Cynorthwyol (Geiriadur Prifysgol Cymru)

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)


Ffôn: 01970 636543 
E-bost: j.day@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Jenny Day yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan ers 2015, ac yn gweithio ar hyn o bryd ar brosiect ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’.

Mae hi’n rhan o dîm golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2013.

Mae hi’n dysgu ar y modiwl ‘An Introduction to Celtic Literatures’ (HPCS4005)

Cefndir

Fel rhan o dîm prosiect y ‘Tirweddau Cysegredig’ mae Jenny wedi bod yn golygu’r cerddi a ganodd Gutun Owain i ddau o abadau Glyn-y-groes yn y bymthegfed ganrif, gan archwilio’r hyn y mae’r rhain, ynghyd â cherddi eraill, yn ei ddweud wrthym am yr abaty Sistersaidd pwysig hwn.

Bu Jenny’n gweithio ar nifer o brosiectau blaenorol y Ganolfan. Bu’n golygu ac yn cyfieithu bucheddau Martin o Tours, Dewi Sant a Mair o’r Aifft yn rhan o brosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ (2015–17), ac ar gyfer y prosiect ‘Llif a Llifogydd’ (2017–18) bu’n casglu ac yn dadansoddi enwau lleoedd o Lyfr Llandaf sy’n ymwneud â dŵr, gan ddefnyddio’r rhain ar y cyd â ffynonellau llenyddol i archwilio sut y câi adnoddau dŵr eu defnyddio a’u canfod yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol.

Cyn hyn, bu Jenny’n gweithio ar brosiect peilot am eiriau newydd i’r Geiriadur, ac ar wefannau prosiect Guto’r Glyn, hefyd yn y Ganolfan. Dechreuodd ei gyrfa fel gwyddonydd, ond ar ôl astudio’n rhan-amser ar gyfer BA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ati i gwblhau doethuriaeth yn 2010 dan y teitl ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’.

Diddordebau Academaidd

  • ‘An Introduction to Celtic Literatures’ (HPCS4005)

Meysydd Ymchwil

Un o brif ddiddordebau ymchwil Jenny yw barddoniaeth Gymraeg a’r hyn y gall ei ddatgelu ynghylch amryw agweddau ar fywyd yn yr Oesoedd Canol. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar bortread y beirdd o arfau ac arfwisgoedd mewn cerddi o wahanol gyfnodau, o’r  ‘Gododdin’ i waith y cywyddwyr, ac ar hyn o bryd mae’n archwilio’r darlun o fynachlog ac ystadau ehangach Glyn-y-groes a geir yng ngherddi Gutun Owain a’i gydoeswyr.

Mae ganddi brofiad mewn golygu a chyfieithu rhyddiaith a barddoniaeth ganoloesol, a diddordeb arbennig yn hanes testunol diweddarach bucheddau’r seintiau a sut y cawsant eu haddasu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.

Arbenigedd

  • barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg ganoloesol
  • bucheddau’r seintiau a hanes eu cyltiau yng Nghymru
  • arfau a rhyfel yn yr Oesoedd Canol

Cyhoeddiadau

‘Buchedd Martin’ [golygiad newydd a chyfieithiad], gwefan ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’ (2020) 

Ewin o ddur, onn a ddwg: y rhest gwaywffon a’r beirdd’, Dwned, 25 (2019), 11–45

Llachar fy nghleddau, lluch ydd ardwy—glew: rhai agweddau ar ddelweddaeth y cleddyf ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol’, Dwned, 23 (2017), 41–77

‘Agweddau ar gwlt Martin o Tours mewn llenyddiaeth Gymraeg hyd c.1525’, Llên Cymru, 40 (2017), 3–39

‘Weapons and fighting in Y Gododdin’, Studia Celtica XLIX (2015), 121–47

‘Brigandines in two fifteenth-century request poems’, Studia Celtica XLVII (2013), 167–82

‘ “Arms of stone upon my grave”: weapons in the poetry of Guto’r Glyn’, yn Dylan Foster Evans, Barry J. Lewis ac Ann Parry Owen (goln.), ‘Gwalch Cywyddau Gwŷr’: Ysgrifau ar Guto’r Glyn a Chymru’r Bymthegfed Ganrif (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 2013), 233–81

‘Shields in Welsh poetry up to c.1300: decoration, shape and significance’, Studia Celtica XLV (2011), 27–52