Pensaernïaeth, Adeiladu ac Amgylchedd
Ymunwch â’r mudiad tuag at fyd cynaliadwy, arloesol gyda’n graddau arbenigol.
Lluniwch fyd gwydn, blaengar gyda’n rhaglenni arloesol. Mae ein BSc mewn Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn eich grymuso i fynd i’r afael â heriau byd-eang, dylanwadu ar bolisi hinsawdd, a darparu datrysiadau amgylcheddol effeithiol. Yn y cyfamser, mae’r BEng mewn Peirianneg Ynni ac Amgylcheddolyn cyfuno arbenigedd peirianyddol â gwyddor amgylcheddol, gan eich paratoi i ddylunio systemau ynni adnewyddadwy a seilwaith cynaliadwy.
Ochr yn ochr â’r rhain, mae ein rhaglenni arbenigol mewn BSc Pensaernïaeth, Rheolaeth Adeiladu, Mesur Meintiau, a Pheirianneg Sifil yn rhoi i chi’r wybodaeth dechnegol a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i siapio’r amgylchedd adeiledig. Trwy ddysgu ymarferol mewn labordai a gweithdai, gwaith maes, a phrosiectau diwydiant, mae ein graddau yn agor drysau i yrfaoedd mewn ymgynghoriaeth, arweinyddiaeth cynaliadwyedd, a phroffesiynau adeiladu.
P’un a ydych am arwain y trawsnewidiad i ddyfodol carbon isel neu ddylunio’r mannau rydyn ni’n byw ynddynt, mae ein rhaglenni’n darparu’r wybodaeth a’r sgiliau i ffynnu mewn byd sy’n esblygu’n gyflym.
Pam astudio Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd yn PCYDDS?
Clearing
Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored
Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol.
Architecture, Construction & Environment
Astudiwch yn PCYDDS a lluniwch ddyfodol cynaliadwy. Mae ein graddau mewn Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol, Pensaernïaeth, Rheolaeth Adeiladu, Mesur Meintiau a Pheirianneg Sifil yn cyfuno arbenigedd technegol, creadigrwydd a phrofiad ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn arweinyddiaeth cynaliadwyedd, ymgynghoriaeth, ac arloesedd adeiladu.
Rhaglenni Pensaernïaeth
BSC / MA Pensaernïaeth - graddau achrededig ARB, rydym yn cynnig llwybrau israddedig ac ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth, sy’n caniatáu i chi symud ymlaen tuag at gymhwyster pensaer proffesiynol, a hynny oll o fewn un sefydliad. Mae ein graddau’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol gan eich grymuso i ddylunio gofodau cynaliadwy, ymarferol ac ysbrydoledig. Paratoir Graddedigion am yrfaoedd mewn dylunio pensaernïol, cynllunio trefol, a datblygu prosiectau - gan greu amgylcheddau sy’n gwella bywyd modern ac yn ei gyfoethogi.
Rhaglenni Adeiladu
Mae ein graddau BSc (Anrh) Adeiladu, BSc (Anrh) Mesur Meintiau a BSc (Anrh) Peirianneg Sifil yn eich paratoi i lunio dyfodol yr amgylchedd adeiledig. Byddwch yn datblygu’r sgiliau technegol, rheolaethol ac ariannol i arwain prosiectau cynaliadwy, rheoli costau’n effeithiol a dylunio seilwaith gwydn. Gyda ffocws cryf ar arloesi a chynaliadwyedd, mae graddedigion yn cael eu paratoi’n dda ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sectorau adeiladu, peirianneg ac eiddo.
Rhaglenni Amgylcheddol
Gyrrwch newid cadarnhaol gyda’n graddau BSc (Anrh) Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd a BEng (Anrh) Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u cynllunio ar gyfer y rheiny sy’n angerddol am greu dyfodol mwy gwyrdd a mwy gwydn. Byddwch yn archwilio heriau cynaliadwyedd byd eang, polisi hinsawdd ac atebion ynni adnewyddadwy, gan ennill profiad ymarferol drwy labordai, gwaith maes a phrosiectau diwydiant. Mae graddedigion yn symud ymlaen i rolau mewn ymgynghoraeth amgylcheddol, peirianneg ynni, polisi ac arweinyddiaeth gynaliadwyedd sydd wedi’u cyfarparu i helpu i arwain y newid i fyd carbon isel.
Spotlights
Cyfleusterau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth
Mae mannau stiwdio penodedig ar gael yn ein Hardal Arloesi bwrpasol yng nghanol cymuned llawn addewid SA1 Abertawe. Bydd myfyrwyr yn cael mynediad i weithfannau pwrpasol â chyfrifiaduron personol o fewn y stiwdio gyda phecynnau meddalwedd fel AutoCAD, Revit, Sketchup a’r casgliad llawn o raglenni Adobe CCS gyda phlotyddion A1 cysylltiedig.
Gall myfyrwyr gael mynediad at gyfleusterau gweithdy gyda chyfleusterau gwneud modelau traddodiadol a chyfrifiadurol amrywiol, fel argraffwyr 3D a thorri laser. Gyda chefnogaeth gan *CWIC*, bydd gennych fynediad at ddatblygu technolegau fel dronau ac offer Realiti Rhithwir.
Cyfleusterau Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnwys labordai amgylcheddol ac adnoddau ar gyfer gwaith maes, bydd gennych fynediad i brofiadau dysgu ymarferol. Mae ein hamgylchoedd hardd, o benrhyn eithriadol Gŵyr i’r Bannau Brycheiniog syfrdanol, yn cynnig y gefnlen berffaith ar gyfer dysgu ac archwilio.
Straeon Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth
Straeon Yr Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
Straeon Myfyrwyr Yr Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd
Dewch i weld sut mae ein myfyrwyr Amgylchedd, Ynni a Chynaliadwyedd yn mynd i'r afael â heriau byd-eang, o gadwraeth i ynni adnewyddadwy. Mae'r straeon hyn yn dangos sut mae ein rhaglenni’n grymuso myfyrwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n planed a chenedlaethau'r dyfodol.
Profiad Milena Tomaszewska ar BEng Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol
Profiad Rowan Jack Moses yn PCYDDS.
Profiad Ioan Jeffries yn PCYDDS.
Profiad Rebecca Macfarlane yn PCYDDS.