Dathlu crefft a chreadigrwydd arddangoswyr technegol yng Ngholeg Celf Abertawe
Mae Adeilad Dinefwr yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn adnabyddus fel canolfan fywiog o greadigrwydd, sy’n gartref i lawer o gyrsiau celf a dylunio israddedig ac ôl-raddedig y brifysgol. Mae’r sylw nawr yn troi nawr at sgiliau eithriadol ei harddangoswyr technegol, wrth iddynt gyflwyno arddangosfa sy’n dangos eu celfyddyd, eu harbenigedd a’u hangerdd dros greu.

Gan gynnwys gwaith gan Morwenna Chapman, Cameron Ridgeway, Lyndon Davies, Dafydd Williams, a Natasha John, mae’r arddangosfa, y gellir ei gweld tan 3 Hydref, yn tynnu sylw at y disgyblaethau technegol amrywiol sy’n cefnogi myfyrwyr bob dydd yn eu teithiau creadigol. O dorlun leino, torlun pren, a sgrin brintio i ffotograffiaeth gan ddefnyddio colodion plât gwlyb ac arferion ystafell dywyll arbrofol, ac o wrthrychau a ddarganfuwyd ar y traeth wedi’u hail-gastio mewn slip porslen wedi’i danio i dymheredd uchel i ddarlunio digidol ac analog, mae’r arddangosfa’n dathlu’r manwl gywirdeb a’r arloesedd sy’n sail i’r crefftau hyn.
Meddai Katherine Clewett, Curadur a Rheolwr Rhaglen Celf a Dylunio Sylfaen: “Trwy ddod â’r gweithiau hyn i’r amlwg, rydym yn gobeithio ysbrydoli ein myfyrwyr newydd a’n carfan bresennol i archwilio’r posibiliadau o fewn eu harferion creadigol eu hunain. Mae amrywiaeth y technegau sy’n cael eu harddangos yn adlewyrchu’r cyfleoedd di-rif sydd ar gael yn yr adeilad hwn i archwilio ac arbrofi, ac rydym yn annog ymwelwyr i fyfyrio ar y potensial ar gyfer twf, arloesi a chydweithredu sy’n bodoli yma.”
Mae’r arddangosfa nid yn unig yn dathlu doniau rhyfeddol y staff technegol ond hefyd yn dangos potensial anhygoel y cyfleusterau a’r adnoddau sydd ar gael yng Ngholeg Celf Abertawe.
Ychwanegodd Katherine: “Mae’r arddangosfa hon yn deyrnged i’r staff technegol. Mae’n ddathliad o’u gwaith, ac yn ein hatgoffa bod ymwneud â chrefft yn esblygu’n barhaus, bob amser yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl.”
Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Drwy’r arddangosfa hon, mae Coleg Celf Abertawe yn anrhydeddu arbenigedd yr arddangoswyr technegol sy’n chwarae rhan hanfodol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr, gan arddangos nid yn unig yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn Adeilad Dinefwr ond hefyd yr hyn sy’n bosibl pan fydd meistrolaeth dechnegol yn cwrdd â gweledigaeth greadigol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071