Rhaglenni Chwaraeon a Byw'n Iach y Drindod Dewi Sant wedi'u cymeradwyo gan y Gymdeithas Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod cyrsiau o fewn ei disgyblaeth academaidd ar gyfer Chwaraeon a Byw’n Iach wedi dod yn Bartner Addysg Uwch y Gymdeithas Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) yn swyddogol. Mae’r bartneriaeth fawreddog hon yn garreg filltir arwyddocaol o ran alinio rhaglenni gradd chwaraeon ac iechyd y Drindod Dewi Sant รข safonau’r diwydiant a gwella cyflogadwyedd graddedigion.
Fel rhan o’r cydweithrediad hwn, mae sawl rhaglen radd Y Drindod Dewi Sant bellach wedi derbyn cymeradwyaeth CIMSPA, sy’n cadarnhau eu perthnasedd i rolau proffesiynol allweddol yn y sector, gan gynnwys Hyfforddwr Campfa a Hyfforddwr Personol. Mae’r gymeradwyaeth hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn graddio gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i ffynnu yn y gweithlu chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Dywedodd Dr Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd Chwaraeon a Byw’n Iach:
โMae’r gymeradwyaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gyflwyno rhaglenni sydd nid yn unig yn academaidd drylwyr ond hefyd wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn perthnasedd galwedigaethol. Mae ein partneriaeth รข CIMSPA yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn meddu ar y cymwyseddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan eu gwneud yn hynod gyflogadwy ac yn barod i gyfrannu’n ystyrlon i’r sector o’r diwrnod cyntaf.โ
Mae’r gymeradwyaeth yn cryfhau ffocws y Drindod Dewi Sant ar gyflogadwyedd a dysgu ymarferol, gan ymgorffori sgiliau a safonau proffesiynol yn y cwricwlwm. Mae myfyrwyr yn elwa o brofiad ymarferol, addysgu sy’n seiliedig ar y diwydiant, a llwybrau clir i gyflogaeth yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Ychwanegodd Geraint Forster, Rheolwr Rhaglen BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff:
โRydym wrth ein bodd bod ein rhaglenni wedi cael eu cydnabod gan CIMSPA. Mae’r gymeradwyaeth hon yn dilysu’r pwyslais ymarferol a galwedigaethol yr ydym yn ei roi ar ein haddysgu. Mae’n gyfle gwych i’n myfyrwyr ennill cymwysterau sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol รข rolau diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi.โ
Mae’r bartneriaeth hon yn dyst i ymroddiad parhaus y Drindod Dewi Sant i ddarparu addysg o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yrfa mewn chwaraeon a byw’n iach, ac yn cryfhau ymhellach ei safle fel sefydliad blaenllaw ar gyfer astudiaethau sy’n gysylltiedig รข chwaraeon yng Nghymru a thu hwnt.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffรดn: 01267 676790