Cyn-fyfyriwr PCYDDS yn agor stiwdio lles foethus yng Nghaerdydd
Mae Kelly Powling, cyn-fyfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi lansio OREN Wellness, stiwdio lles foethus yng Nghaerdydd. Cafodd ei henwi’n ddiweddar yn un o Sêr y Dyfodol Cymru gan Insider Media, ac mae’n rhan o don newydd o entrepreneuriaid ifanc sy’n cael effaith ar draws y rhanbarth.
Mae’r stiwdio, a agorwyd yn gynharach eleni, yn cynnig cymysgedd wedi’i guradu o ddosbarthiadau ffitrwydd ac ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys Pilates diwygiedig, yoga, ystafell adfer, a stiwdio isgoch. Wedi’i chynllunio i gefnogi lles corfforol a meddyliol, mae OREN yn annog ymwelwyr i arafu, i symud gyda bwriad, a gadael yn teimlo’n well o’r tu mewn i’r tu allan.
Fe wnaeth llwybr Kelly at entrepreneuriaeth ddechrau ar ôl cwblhau ei Thystysgrif Addysg Uwch (CertHE) mewn Rheolaeth Digwyddiadau yn PCYDDS yn 2017. Ar ôl ei hastudiaethau, treuliodd ychydig o amser yn teithio trwy Asia ac Awstralia - profiad a helpodd i lunio ei hyder, ei hannibyniaeth a’i synnwyr o gyfeiriad. Ar ôl dychwelyd i Gymru, sefydlodd Fierce Femmes, rhwydwaith menywod sy’n cynnal digwyddiadau ysbrydoledig a breciniawau busnes i rymuso a chysylltu menywod. Gosododd y gymuned ffyniannus hon y sylfaen ar gyfer ei menter nesaf.
“Rydw i wastad wedi cael fy nenu at ddod â phobl at ei gilydd,” meddai Kelly. “Fe wnaeth Fierce Femmes sbarduno fy angerdd am greu mannau ystyrlon, ac esblygodd hynny i fod yn OREN – man lle mae pobl yn dod i symud, i adfer, ac i ailgysylltu â nhw eu hunain.”
Darganfu Kelly ei hangerdd am adrodd straeon creadigol trwy gyfres o brosiectau amrywiol, o flogio bwyd i gyd-sefydlu stiwdio podlediadau. Mae’r mentrau hyn nid yn unig wedi sbarduno ei diddordeb mewn brandio ac adeiladu cymunedau ond hefyd wedi ei harfogi gyda’r sgiliau y mae hi bellach yn eu sianelu i bob agwedd ar OREN Wellness. Mae ei gallu i gysylltu syniadau a phobl yn nodwedd ddiffiniol o’i thaith entrepreneuraidd.
Wedi’i henwi’n ddiweddar yn un o Sêr y Dyfodol Cymru 2025 gan Insider Media - cydnabyddiaeth fawreddog sy’n dathlu entrepreneuriaid o Gymru dan 40 oed sy’n cyflawni’n uchel - mae’r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at ei gweledigaeth feiddgar a’i harweinyddiaeth greadigol, sy’n parhau i lunio ei dylanwad cynyddol yn nhirwedd busnes Cymru.
Fel perchennog busnes, mae Kelly yn cael llawenydd wrth weld ei gweledigaeth yn dod yn fyw.
“Y rhan orau yw gwylio pobl yn profi rhywbeth rydych chi wedi’i adeiladu o’r dechrau,” meddai. “Y rhan anoddaf yw nad yw byth yn stopio mewn gwirionedd - ond mae pob her yn dysgu rhywbeth i chi.”
Er bod Kelly wedi gadael y brifysgol ar ôl ei blwyddyn gyntaf oherwydd amgylchiadau personol, mae hi’n rhoi clod i PCYDDS am roi cyfle iddi pan nad oedd eraill wedi gwneud hynny.
“Doeddwn i ddim wedi gwneud yn dda yn fy arholiadau Safon Uwch, ond gwelodd PCYDDS rywbeth ynof fi a rhoi’r cyfle i mi i ymuno â’r cwrs. Fe wnaeth y profiad hwnnw fy helpu i ddarganfod beth roeddwn i wir eisiau ei wneud.”
Heddiw, mae Kelly yn arwain OREN Wellness gyda chreadigrwydd a phwrpas, gan oruchwylio popeth o reoli tîm i ddatblygu ymgyrchoedd. Dengys ddull meddylgar, ymarferol o adeiladu busnes, gan dynnu ar ei phrofiad mewn marchnata, digwyddiadau, a chreu llwyfannau sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Rydym yn falch o ddathlu cyflawniadau Kelly a’r effaith gadarnhaol y mae OREN Wellness eisoes yn ei chael yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996