Skip page header and navigation

Mae symudiadau ‘Black Lives Matter’ a ‘Rhodes Must Fall’ wedi dwyn sylw o’r newydd at gymynroddion parhaus caethwasiaeth, hiliaeth a gwladychiaeth ym mhob agwedd o gymdeithas - gan gynnwys addysg uwch.

Yn y darn hwn, mae Dr Alexander Scott, Darlithydd Hanes Modern ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn archwilio’r materion cyfoes hyn ac yn trafod cysylltiadau dinasoedd, prifysgolion ac unigolion amlwg â chaethwasiaeth drawsatlantig a diddymiad.

Dr Alexander Scott.
Dr Alexander Scott.

Fel academydd gwrywaidd, gwyn, does gen i ddim profiad na gwybodaeth uniongyrchol am yr anghyfiawnderau a’r gwahaniaethu sy’n ysgogi protestiadau Black Lives Matter ar draws y byd.

Serch hynny, mae fy magwraeth, fy addysg a fy ngyrfa broffesiynol wedi’u hamgylchynu gan hanes a gwirionedd cyfoes hiliaeth a gwladychiaeth.

I rywun o Lerpwl, mae hanes ymerodraeth a chaethwasiaeth yn anodd ei anwybyddu. Caethwasiaeth ar draws yr Iwerydd oedd y rheswm fod Lerpwl yn bod yn y lle cyntaf, gan drosi pentref pysgota di-nod yn un o ddinasoedd cyfoethocaf y byd yn ystod y cyfnod Sioraidd a Brenhines Fictoria. O ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at ddileu’r fasnach caethweision yn 1807, trawsgludwyd o ddeutu 1.3 miliwn o bobl Affrica i’r Americas ar longau a gofrestrwyd yn Lerpwl. Mae hyn yn cyfrif am o ddeutu 12% o gyfanswm y teithiau caethweision a wnaed dros gyfnod o bedwar can mlynedd o gaethwasiaeth traws-Iwerydd. I bob pwrpas, Lerpwl oedd prifddinas y fasnach mewn caethweision.

Fel plentyn, mae gennyf atgofion byw o ymweld ag arddangosfa ar gaethwasiaeth yn Amgueddfa Forol Glannau Merswy. Yn benodol, rwy’n cofio gweld yr arddangosiad Middle Passage a chael braw wrth weld model o gi cynddeiriog yn rhan o arddangosiad yn ail-greu’r tu fewn i long.

Fe’m ganwyd yn Lerpwl yn y 1980au, a’m magu yng nghysgod trosiadol y tensiynau hiliol. Roedd fy mam yn dysgu mewn ysgolion cynradd yn Toxteth, yr ardal yn ne Lerpwl oedd yn hanesyddol yn gartref i’r rhan fwyaf o boblogaeth ddu a lleiafrifol ethnig y ddinas. Roedd Toxteth gyfystyr â’r anghydfod yn 1981 lle bu aelodau o’r gymuned leol yn ymladd yn ôl yn erbyn trais yr heddlu a gwahaniaethu hiliol. Roedd y terfysgoedd yn nodwedd fynych o’r cof gwerin drwy gydol fy mhlentyndod.

Mewn gwirionedd, roedd yr arddangosiad yn yr Amgueddfa Forwrol a gododd fraw arnaf i yn rhan o’u gwaddol anuniongyrchol. Crëwyd yr oriel ‘Transatlantic Slavery: Against Human Dignity,’ yn 1994 mewn ymateb i adroddiad a nodai fod gwahaniaethu hiliol wedi’i wreiddio yng nghymdeithas Lerpwl. Gyda’r teitl arwyddocaol Loosen the Shackles, taflodd Adroddiad Gifford yn 1989 oleuni ar yr amddifadedd eithafol a brofwyd gan y gymuned Affricanaidd-Caribîaidd a’i diffyg cynrychiolaeth yn sefydliadau cyhoeddus y ddinas.

Treuliais gyfnodau ffurfiannol fy mywyd fel oedolyn hefyd mewn dinasoedd oedd â chysylltiadau â chaethwasiaeth. Es i’r brifysgol yng Nghaerhirfryn, y pedwerydd porthladd caethwasiaeth mwyaf ym Mhrydain, a chefais flwyddyn dramor yn St Louis, dinas â phoblogaeth fwyafrifol Affricanaidd Americanaidd sy’n dal i ddangos arwyddion arwahanu hiliol. Yn ystod fy nghyfnod yno, byddai Prifysgol Missouri St Louis yn trefnu teithiau i fyfyrwyr rhyngwladol siopa yn Ferguson, ardal ar gyrion y ddinas. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach daeth Ferguson yn adnabyddus drwy’r byd pan saethodd swyddog heddlu’r myfyriwr Affricanaidd Americanaidd di-arf, Michael Brown, yn farw.

Fel myfyriwr ôl-raddedig, ymchwiliais yn ddyfnach i hanes hiliaeth ac imperialaeth Lerpwl. Roedd fy noethuriaeth yn edrych ar sut y ffynnodd amgueddfeydd y ddinas drwy eu cysylltiadau masnach â threfedigaethau Prydeinig, yn enwedig yng Ngorllewin Affrica. Roedd elfen arall o fy ymchwil yn edrych ar y siwdowyddoniaeth hiliol a ddefnyddid i drefnu orielau anthropolegol yr amgueddfa ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Pan ymunais i â PCDDS yn 2015, gallwn fod wedi disgwyl na fyddai cyswllt rhwng fy ngweithle newydd â hanes hil ac ymerodraeth. Gall canolbarth Cymru deimlo’n bell o’r grymoedd mawr a ffurfiodd hanes modern.

Ond yr hiraf rwyf i yn Llambed, y mwyaf rwyf i wedi dod i ddeall bod y dref a’i phrifysgol ynghlwm â llwybrau hanesyddol ehangach.

Mae ymchwil gan Chris Evans ac eraill er enghraifft wedi canfod cysylltiadau rhwng diwydiant gwlân y canolbarth a chaethwasiaeth traws Iwerydd.

Yn arwynebol, gellir ystyried bod y Coleg Dewi Sant gwreiddiol, a sefydlwyd yn 1822, ar ‘ochr gywir’ y dadleuon hanesyddol hyn. Roedd ei sylfaenydd Thomas Burgess yn cefnogi rhyddfreinio’n gyhoeddus. A chyn dod yn Esgob Tyddewi, cyhoeddodd Burgess Considerations on the Abolition of Slavery yn 1788, pamffled oedd yn datgymalu’r dadleuon diwinyddol a ddefnyddid gan apolegwyr y fasnach gaethwasiaeth.

Roedd Burgess yn gyfaill i William Wilberforce, Hannah More, Henry Thornton ac aelodau eraill o Sect Clapham, set o ddiwygwyr efengylaidd oedd yn nodedig am eu gwrthwynebiad i gaethwasiaeth. Ymhellach, daeth Wilberforce a Thornton yn noddwyr Coleg Dewi Sant.

Roedd cymwynaswr allweddol arall, John Scandrett Harford, a roddodd y tir y mae prif adeiladau’r brifysgol yn dal i sefyll arno, hefyd yn wrthwynebus iawn i gaethwasiaeth.

Popeth yn iawn hyd yma.

Ond ceir darlun mwy cymhleth dan yr wyneb.

Roedd Harford a’i dad yng nghyfraith Richard Hart Davis, cyn berchennog Ystâd Peterwell yn Llambed, ill dau’n frodorion o Fryste, gyda chyfoeth eu teuluoedd yn deillio i raddau helaeth o fasnach drawsiwerydd.

Beth bynnag eu credoau gwleidyddol roedd Harford a Davis o Fryste yn byw ac yn gweithio’n agos at ganolbwynt allweddol y fasnach drionglog mewn caethweision.

Ymhellach, roedd Harford a Davis yn aelodau o’r Society of Merchant Venturers – sefydliad oedd â nifer o fasnachwyr caethweision yn gymrodyr, ac a chwaraeodd ran fawr ym mywyd dinesig Bryste am sawl canrif. Yn 1895, cyllidodd y Merchant Venturers gerflun er cof am Edward Colston, swyddog gyda’r Royal African Company a ffigur pwysig yn y fasnach caethweision. Yn 2019, rhwystrodd y gymdeithas ymdrechion i osod plac newydd ger cerflun Colson, a ddymchwelwyd ar 7 Mehefin yn yr hyn sydd eisoes yn foment arwyddocaol yn hanes Prydain.

Gan danlinellu ei gysylltiadau â chaethwasiaeth trawsiwerydd, roedd gan Harford berthynas agos gyda Philip John Miles, banciwr a miliwynydd oedd yn berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica a Trinidad. Roedd y pâr yn bartneriaid ym manc Miles Harford, sefydliad lle’r adneuwyd tanysgrifiadau ar gyfer sefydlu coleg Llambed. Dilynodd Philip John Miles enghraifft Harford hefyd drwy gyfuno diddordebau busnes ym Mryste a Chymru, gan brynu ystâd Priordy Ceredigion yn 1832.

Os yw partneriaeth Miles a Harford yn cynrychioli cyswllt ymylol rhwng y brifysgol a pherchnogaeth caethweision, mae ffigur Thomas Phillips yn cynnig un lawer cryfach.

Roedd Phillips, a sefydlodd ysgol Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin hefyd, yn un o gymwynaswr mawr Coleg Dewi Sant, gan sefydlu nifer o ysgoloriaethau a rhoi 20,000 o gyfrolau iddo – cyfraniad sy’n un o sylfaeni casgliadau arbennig llyfrgell y brifysgol.

Llawfeddyg dysgedig a deithiodd yn helaeth i’r British East India Company oedd Phillips, ac roedd ei ddiddordebau busnes amrywiol yn cynnwys perchnogaeth planhigfa Camden Park yn St Vincent – eiddo y derbyniodd ef, fel Miles a pherchnogion caethweision eraill, iawndal amdano pan ddiddymwyd caethwasiaeth yn 1836.

Gwnaed yn fach o statws Phillips fel perchennog caethweision mewn hanesyddiaeth flaenorol - ac yng nghyhoeddusrwydd y brifysgol ei hun.

Fel yr eglura’r cofnod ar wefan Gwaddol Perchnogaeth Caethweision Coleg y Brifysgol Llundain, does dim sôn am ddiddordebau caethwasiaeth Phillips yn ei gofnod yn y Oxford Dictionary of National Biography.

Ysgrifennwyd bywgraffiad Phillips gan y Canon DT William Price, cyn ddarlithydd o Lambed ac awdur hanes awdurdodol Coleg Dewi Sant, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1977. Mae hanes Price yn dewis peidio â thrafod caethwasiaeth na’r diddymu.

Mae gwerthusiadau mwy diweddar hefyd wedi tueddu i fabwysiadu agwedd amddiffynnol at Phillips.

Roedd catalog a ysgrifennwyd i nodi arddangosfa’n dathlu bywyd Phillips yn awgrymu mai ‘landlord absennol’ yn unig oedd Phillips ym mhlanhigfa St Vincent a’i fod yn ‘ofalus ynghylch lles ei gaethweision cyn iddynt gael eu rhyddhau.’

Er bod y syniad o ‘berchennog caethweision da’ ynddo’i hun yn un arswydus, nid yw ymchwil diweddar yn cefnogi’r ddelwedd hon o Phillips fel un cymharol haelionus. Nododd Nicholas Draper y bu farw chwarter o boblogaeth caethweision Camden Park rhwng 1822 a 1825, a bod yr un gyfran o golledion wedi’i chofnodi rhwng 1825 a 1828.

Mae angen gwneud gwaith i ddehongli cysylltiadau Llambed a’r brifysgol â chaethwasiaeth ac ymerodraeth. Megis crafu’r wyneb mae fy ymchwil hyd yma. Mae casgliadau arbennig PCDDS yn cynnwys trysorfa o ddogfennau ar ymerodraeth a chaethwasiaeth, gyda fersiynau gwreiddiol o destunau gan ddiddymwyr fel Olaudah Equiano a Granville Sharp. Mae Nicky Hammond o Lyfrgell ac Archif Roderic Bowen wedi dechrau casglu hanesion bywydau graddedigion a ddaeth yn genhadon yn ymerodraeth ffurfiol ac anffurfiol Prydain. Ac mae ein myfyrwyr yn gwneud defnydd rhagorol o archifau’r brifysgol mewn prosiectau ymchwil ar Gymru, caethwasiaeth ac ymerodraeth, yn cynnwys gwaith gan yr ôl-raddedigion Hilary Slack a Shemaraiah Bloomfield-Johnson.

Mae addysgu modiwlau fel ‘Routes and Roots of the Black Atlantic: Cultural Histories of the African Diaspora’ ac ‘Age of Empire: The Colonial Project and the Humanities’ wedi cynnig y cyfle i mi drafod agweddau at goffáu’r gorffennol trefedigaethol gydag israddedigion. Yr elfennau mwyaf cyffrous yn y modiwlau hyn yw dysgu gan y myfyrwyr. Yn aml rwyf i fy hun yn gorfod ‘dal i fyny’ gyda’u safbwyntiau nhw. Mae hyn yn adlewyrchu natur y trafodaethau cyfredol, a arweinir gan fyfyrwyr yn hytrach nag academyddion. Dechreuodd Rhodes Must Fall fel mudiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cape Town, ac mae ei ddylanwad wedi lledu i gampysau ar draws y byd.

Fodd bynnag does dim lle i fod yn hunanfoddhaus wrth drafod gorffennol dadleuol prifysgolion.

Mae prifysgolion yn rhan o’r system o hiliaeth y mae Black Lives Matter yn protestio yn ei herbyn. Mae amrywiol rwystrau strwythurol yn llesteirio mynediad at addysg uwch i aelodau o’r cymunedau du a lleiafrifol ethnig. Maent hefyd yn rhwystro cyfleoedd gyrfa pobl liw yn y byd academaidd.

Mae hyn yn arbennig o wir am fy nisgyblaeth i.

Yn 2018, cyhoeddodd y Gymdeithas Hanes Frenhinol adroddiad yn amlygu’r diffyg cynrychiolaeth ym maes hanes fel disgyblaeth academaidd. Dangosodd ei ganfyddiadau fod carfannau cyrsiau hanes yn cynnwys cyfrannau is o fyfyrwyr du a lleiafrifol ethnig (11.3%) na phoblogaeth israddedig gyffredinol y DU (23.9%). Mae’r sefyllfa’n fwy dwys fyth ar lefel ôl-raddedig, gyda 8.6% yn unig o fyfyrwyr ymchwil o gefndiroedd BME.

Mae’r broblem yn waeth o lawer ar flaen y ddarlithfa. Mae’r mwyafrif llethol o haneswyr academaidd yn wyn (93.7%). Dim ond 0.5% o staff hanes sy’n uniaethu’n ddu. Yn wir, mae’r siawns o gael eich addysgu gan ddarlithydd o dras Affricanaidd ym mhrifysgolion y DU ar ei orau’n 1/200.

Fel y pwysleisiodd Meleisa Ono-George, nid yw prifysgolion yn ‘safleoedd niwtral, ar wahân i strwythurau hanesyddol a gwreiddiedig anghydraddoldeb a phŵer.’ Yn hytrach, fe ‘chwaraeon nhw rôl ganolog yn hanesyddol yn y prosiect trefedigaethol gan greu a chynnal anghydraddoldebau cymdeithasol hyd heddiw.’

Mae Black Lives Matter a Rhodes Must Fall yn galw am lawer mwy na dymchwel cerfluniau neu newid enwau neuaddau preswyl. Maent yn galw am dad-drefedigaethu cwricwla prifysgolion ac am well cynrychiolaeth i bobl liw drwy’r academi gyfan.

Rhaid i brifysgolion ddatblygu strategaethau cydraddoldeb i fynd i’r afael â hiliaeth systemig ac anghydraddoldebau hanesyddol. Dylai fod gan y rhain weithredoedd mesuradwy wedi’u diffinio’n glir. Mae Prifysgol Glasgow wedi dangos un ffordd ymlaen. Yn 2019, sefydlodd raglen o gyfiawnder adferol yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad ar gysylltiadau cymwynaswyr hanesyddol â’r fasnach mewn caethweision.

Bydd myfyrwyr yn ein dal yn atebol am hyn.

Dyw haneswyr gwyn yn creu podlediadau hunanfoddhaus ddim yn agos at fod yn ddigon.

Dr Alexander Scott

Mae Dr Alexander Scott yn hanesydd diwylliannol, gyda phwyslais ar hanes dinasoedd ac amgueddfeydd. Mae ganddo PhD mewn Hanes o Brifysgol Caerhirfryn, ac mae wedi bod yn Ddarlithydd mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ers 2015. Archwiliodd ei gyhoeddiad diweddaraf hanes masnach anifeiliaid Fictoraidd, ac arddangosfeydd o rywogaethau egsotig fel gorilaod a tsimpansî. Mae Dr Scott yn dysgu ystod o fodiwlau ar bynciau fel hanes trefol, hanes sinema, hanes gwladychiaeth a hanes du yr Iwerydd.


Gwybodaeth Bellach

Siân-Elin Davies

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: sian-elin.davies@uwtsd.ac.uk  
Ffôn: 01267 676908

Rhannwch yr eitem newyddion hon