
Cyllid a Chymorth Israddedig
Cyllid Myfyrwyr yn y DU
Cyllid Myfyrwyr yn y DU
Rydym ni’n deall bod cyllido’ch addysg yn rhan allweddol o’ch taith yn y brifysgol. P’un a ydych chi’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon, rydym ni yma i’ch cefnogi wrth i chi ymdopi ag agweddau ariannol ar eich astudiaethau.
Benthyciadau Myfyrwyr
Benthyciadau Myfyrwyr
Ble bynnag rydych chi’n byw, mae’r broses o wneud cais am gyllid myfyrwyr yn syml. Gallwch chi wneud cais ar-lein drwy’r awdurdod cyllid myfyrwyr sy’n berthnasol i’ch gwlad. Mae’n bwysig gwneud cais yn gynnar i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i chi gychwyn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi gyda’ch cais am gyllid myfyrwyr, mae ein timau yma i helpu. Mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth a chyfarwyddyd drwy gydol y broses.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud addysg uwch yn hygyrch i’r holl fyfyrwyr, a dim ond un o’r ffyrdd rydym yn ceisio cyflawni hyn yw ein cymorth cyllid myfyrwyr. Peidiwch â gadel i bryderon ariannol eich dal yn ôl rhag dilyn eich uchelgais academaidd – gwnewch gais am gyllid myfyrwyr heddiw a dechrau ar eich taith gyda ni.
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, mae cymorth ariannol ar gael i chi drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu i dalu am gost ffioedd eich cwrs, yn ogystal â benthyciadau a grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma gipolwg ar beth allai fod ar gael i chi:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Mae’r benthyciadau hyn yn gallu talu am gost lawn eich ffioedd dysgu, er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich astudiaethau heb boeni am daliadau ymlaen llaw.
- Cymorth Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety, bwyd, a deunyddiau astudio, efallai byddwch chi’n gymwys am fenthyciadau a grantiau cynhaliaeth. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n byw wrth astudio.
Os ydych chi’n byw yn Lloegr, mae cymorth ariannol ar gael i chi drwy Student Finance England (SFE). Yn debyg i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, efallai bydd benthyciadau ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth ar gael i chi i dalu am eich costau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Yn debyg i Gymru, mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu am gost ffioedd eich cwrs, gan sicrhau eich bod yn gallu astudio heb rwystrau ariannol.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda’ch costau byw, gallwch chi wneud cais am fenthyciadau cynhaliaeth. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n byw wrth astudio.
Gall myfyrwyr sy’n byw yn yr Alban gael cymorth ariannol drwy’r Student Awards Agency for Scotland (SAAS). Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cyllid ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Cyllid Ffioedd Dysgu: Gall myfyrwyr o’r Alban sy’n astudio yn PCYDDS fod yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu i dalu costau ffioedd eu cwrs.
Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety a bwyd, mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n astudio.
Student Finance Northern Ireland. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:
- Benthyciadau Ffioedd Dysgu: Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu am gost ffioedd eich cwrs, gan sicrhau eich bod yn gallu canolbwyntio ar eich astudiaethau heb bryderon ariannol.
- Benthyciadau Cynhaliaeth: I helpu gyda chostau byw megis llety a bwyd, mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael. Mae’r swm byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ffactorau megis incwm eich cartref a ble byddwch chi’n astudio.
Bursaries
Ysgoloriaethau a Bwrsarïau
Rydym ni’n deall bod cyllido’ch addysg yn rhan allweddol o’ch taith yn y brifysgol. P’un a ydych chi’n byw yng Nghymru, yn dod o Loegr, o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon, rydym ni yma i’ch cefnogi wrth i chi ymdopi ag agweddau ariannol ar eich astudiaethau.
