Bettina Schmidt
Cefndir
Mae cefndir academaidd yr Athro Bettina Schmidt mewn Anthropoleg Ddiwylliannol gyda ffocws arbennig ar anthropoleg crefydd a phrofiad crefyddol. Astudiodd ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen lle derbyniodd ei PhD a gradd ôl-ddoethurol (“Cymhwysiad” (Habilitation)) hefyd.
Yn 2004, symudodd Bettina i’r DU a dechreuodd addysgu astudio crefyddau, yn gyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen, yna ym Mhrifysgol Bangor, ac wedyn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ers 2010.
Dros y blynyddoedd, mae hi wedi bod yn Llywydd Cymdeithas Astudio Crefyddau Prydain (BASR) ac wedi gwasanaethu yn Ddirprwy Gadeirydd is-banel Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Ers 2021, mae hi wedi bod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Bettina’n gwasanaethu ar fyrddau golygyddion amryw gyfresi llyfrau a gyhoeddir, er enghraifft, gan Bloomsbury a Kohlhammer, a hefyd yn cynghori’r ganolfan ymchwil Crefydd a Thrawsnewid mewn Cymdeithas Gyfoes ym Mhrifysgol Fienna.
Pynciau Arbenigol
- Sstudio profiad crefyddol
- Anthropoleg Crefydd
- Crefyddau sy’n deillio o Affrica
- Llesiant ac Ysbrydolrwydd
- America Ladin
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Mae diddordebau ymchwil presennol Bettina ym maes ysbrydolrwydd a llesiant. Mae hi wedi cynnal ymchwil ym Mrasil ac yn y DU er mwyn deall sut mae pobl sy’n gweithio yn y sector meddygol, a phobl sy’n ystyried eu bod nhw’n grefyddol neu’n ysbrydol, yn canfod llesiant a’r berthynas rhwng y ddau sector. Yn fwy diweddar, dechreuodd astudiaeth ar brofiadau ysbrydol yn ystod y pandemig.
Cymwysterau
- MA mewn Anthropoleg Ddiwylliannol gydag Astudio Crefyddau ac Ieithoedd Affricanaidd, Prifysgol Marburg, yr Almaen
- PhD mewn Anthropoleg Ddiwylliannol, Prifysgol Marburg, yr Almaen
- Cymhwysiad (Habilitation) (gradd ôl-ddoethurol) mewn Anthropoleg Ddiwylliannol, Prifysgol Marburg, yr Almaen
Ieithoedd a Siaradwyd
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Addysgu Academaidd
Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol
Dolen i Broffil Orcid
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- 2020, cyd-olyg. gan Jeff Leonardi, Spirituality and Wellbeing: Interdisciplinary approaches to the study of religious experience and health. Sheffield: Equinox.
- 2016, cyd-olyg. gyda Stephen Engler, Handbook of Contemporary Brazilian Religions (Brill Handbooks on Contemporary Religion, cyf. 13) DenHague: Brill.
- 2016, golygwyd, The Study of Religious Experience: Approaches and Methodologies. Durham: Equinox.
- 2016, Spirits and Trance in Brazil: Anthropology of Religious Experiences. Llundain: Bloomsbury.
- 2025, Axé as the cornerstone of Candomblé philosophy and its significance for an understanding of well-being (bem estar). Religious Studies Cyf. 61 (2), 453-465. doi:10.1017/S0034star). Religious Studies Vol. 61 (2), 453-465. doi:10.1017/S0034412523001154
- 2025, Trance and Possession Practices. Yn: The Routledge Handbook of Research Methods in the Study of Indigenous Religions, gol. gan Graham Harvey ac Afe Adogame. Abington/Efrog Newydd: Routledge, tt. 104-116.
- 2025, Demonic Possession and the Holy Spirit: Insights into the Contested Debate of Ecstatic Religious Experiences in Brazil. Yn: Bloomsbury Handbook on Religious Ecstasy, golygwyd gan Alison Marshall et al. Llundain: Bloomsbury, tt. 177-191.
- 2024, gyda Kate J. Stockly, Experiences of Divine Bliss, Anger and Evil during the Pandemic: Non-ordinary Experiences during Lockdown. Sociedade e Estado Cyf. 39 (3): e53575. DOI: 10.1590/s0102-6992-20243903e53575
- 2024, “It makes me complete” – Anthropological Insights into Spirit Possession as Cultural Practice in Brazil. Yn: Ideas of Possession: Interdisciplinary and Transcultural Perspectives, golygwyd gan N. M. Bauer a J. A. Dooley. Rhydychen: Oxford University
- 2024, The ‘religio-therapeutic dimension’ of Espiritismo in Brazil and its Place within the Study of Religions. Yn: Taking Seriously, Not Taking Sides: Challenges and Perspectives in the Study of Religions, (Religion and Transformation in Contemporary Eur