Skip page header and navigation

Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (Rhan amser) (BEng Anrh)

Abertawe
4 Blynedd Rhan amser
112 o Bwyntiau UCAS

Mae cymhlethdod gweithgynhyrchu wedi cynhyrchu dro flynyddoedd diweddar, gyda mwy o bwyslais ar ddefnyddiau a phrosesau newydd, yn ogystal â’r angen i reoli cadwyni cyflenwi a rhwydweithiau integredig ar lefel fyd-eang. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddiweddaru’n unol â hynny, mewn ymateb i’r cymhlethdod hwn, i alluogi i fyfyrwyr fynd i mewn i’r amgylchedd hwn yn llwyddiannus.

Mae’r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn darparu sylfaen trylwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol a chymhwyso’r wybodaeth hon i dechnoleg a defnyddiau gweithgynhyrchu. Byddwch hefyd yn astudio dylunio gyda chymorth cyfrifiadur a gweithgynhyrchu yn ogystal ag offer rhifiadol perthnasol.

Trwy’r cwrs astudio hwn, byddwch yn dysgu am greu mantais gystadleuol trwy gynllunio gweithgynhyrchu, strategaeth, ansawdd a rheoli a datblygu’r sgiliau i ddylunio prosesau gweithgynhyrchu sy’n arwain at gynhyrchion sy’n bodloni gofynion defnyddiau penodol a gofynion eraill.

Byddwch yn datblygu ymagwedd systematig at brosiectau, gan gymryd y camau rhesymegol ac ymarferol sydd eu hangen i wneud i gysyniadau cymhleth ddod yn realiti. Byddwch hefyd yn dysgu i fod yn ymwybodol o risgiau, costau a gwerth ac yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, a chyfrifoldebau proffesiynol ehangach o’r diwydiant mecanyddol a gweithgynhyrchu.

Mae Peirianneg Gweithgynhyrchu fodern yn digwydd mewn marchnad gystadleuol iawn, sy’n newid yn gyflym ac sy’n wahanol iawn i’r argraff draddodiadol o’r sector hwn.

Mae’r cwrs hwn ar gael i astudio’n rhan amser.

Mae’r graddau Baglor a ganlyn wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, i gofrestru ar gyfer Peiriannwr Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer carfanau derbyn myfyrwyr o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:

  • BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (Llawn Amser, 3 Blynedd; Rhan Amser 6 Blynedd; EngC cyf 15962)
  • BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 Blynedd; EngC cyf 15963).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Interniaethau a blwyddyn mewn diwydiant gyda chwmnïau enwog.
02
Prosiectau allgyrsiol fel ‘Peirianwyr heb Ffiniau’ a ‘Her Dylunio Peirianneg IMechE’.
03
Campws o’r radd flaenaf a llawer o offer sydd ar gael i fyfyrwyr rhwng 9-5 bob diwrnod yn yr wythnos.
04
Mynediad 24 awr i gyfleusterau CAD y campws a meddalwedd arall.
05
Mae 98.4% o’n graddedigion o’r flwyddyn ddiwethaf mewn gwaith neu addysg amser llawn.
06
Carfanau a grwpiau addysgu bach.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Nod y rhaglenni Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yw rhoi i fyfyrwyr sylfaen gadarn ym maes peirianneg fecanyddol, drydanol ac electronig.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a defnyddiau gweithgynhyrchu. Bydd y rhaglenni’n ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnegol ac yn galluogi i fyfyrwyr ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd gwaith.

Mae dealltwriaeth drylwyr o awtomatiaeth, roboteg, efelychu digidol a chysyniadau gweithgynhyrchu hefyd yn bwysig os yw peirianwyr yn mynd i ddefnyddio’r technolegau uwch hyn i’w potensial llawn. Caiff y pynciau hyn eu cwmpasu yn ein rhaglen.

Mae gan y brifysgol hanes hir a sefydledig o ddatblygu graddedigion sydd ag arbenigedd mewn disgyblaethau mecanyddol a gweithgynhyrchu.

Gan weithio’n agos gyda nifer o gwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i ddatblygu graddedigion sydd wedi’u paratoi i ymuno â chymuned fyd-eang o beirianwyr Mecanyddol a Gweithgynhyrchu.

Mae ein BEng(Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (Llawn Amser 3 Blynedd; Rhan Amser 6 Blynedd; EngC cyf 15962) a BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 blynedd; EngC cyf 15963) wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reolydd y DU, y Cyngor Peirianneg. Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).

Bydd gradd achrededig yn rhoi i chi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn fwy tebygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cydsyniadau rhyngwladol.

Gorfodol 

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg

(20 credydau)

Gorfodol 

Gwregys Gwyrdd Six Sigma

(20 credydau)

Thermohylifau a Rheolaeth

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Dynameg

(20 credydau)

Prosesau a Deunyddiau Uwch

(20 credydau)

Dulliau Cyfrifiadurol

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 112 pwynt (280 cynt) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Gellir hefyd ystyried profiad diwydiannol wrth benderfynu a yw ymgeiswyr yn gymwys i gael eu derbyn.

    Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.

    Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiectau peirianneg mewn timau ac fel unigolion, gan roi’r cynnwys a ddysgir yn y modylau ar waith.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Trwy raddio o’r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, fe gewch gyfleoedd dysgu, gwybodaeth a set sgiliau sydd eu hangen i ymuno â chymuned fyd-eang o beirianwyr gweithgynhyrchu. Byddwch mewn sefyllfa dda i fodloni anghenion a heriau’r sector hwn sy’n gynyddol technolegol .

    Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad gwerthfawr fel Peirianwyr a Rheolwyr mewn amrywiaeth eang o gwmnïau. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Ford Motor Company
    • Tata Steel
    • Perkin Elmer
    • Caterpillar
    • Mono Equipment
    • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
    • British Rototherm
    • KSR International
    • Aston Martin Lagonda

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau