Skip page header and navigation

Amy Bendall BA (Anrh), MSc, GMBPsS

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cynorthwyydd Ymchwil

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: a.bendall@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n ymgymryd ag ystod eang o dasgau’n ymwneud â chynllunio, dylunio a gweithredu prosiectau ymchwil cyfredol gyda’r Hwb Ymgynghori Gwerthuso ac Ymchwil Seicolegol (PERCH), gan gefnogi’r ymchwilwyr arweiniol i gynnal gweithgarwch ymchwil empirig a chadarn.

Cefndir

Dechreuais fy ngyrfa yn fyfyriwr hŷn, gan ddychwelyd i addysg yn 2013 ar ôl i’m merch ddechrau yn yr ysgol. Astudiais am fy BA (Anrh) rhwng 2015-2018, ac yna cwblheais fy MSc rhwng 2019 a 2021.

Derbyniais rôl ran-amser yn Gynorthwyydd Ymchwil dros dro gyda PERCH ym mis Medi 2021, a bûm yn gweithio ar brosiect yn archwilio’r berthynas rhwng gweithleoedd a lles staff.

Ym mis Medi 2022, dychwelais i PERCH mewn rôl lawn amser yn Gynorthwyydd Ymchwil, gan barhau â’r cynnydd ar fy mhrosiect blaenorol, a dod yn rhan o sawl astudiaeth ymchwil arall, rhai cyfredol a rhai a oedd yn dal yn y cyfnod cynllunio.

Diddordebau Academaidd

Ar hyn o bryd, nid yw fy rôl yn cynnwys unrhyw gyfrifoldebau addysgu na gweithgarwch ymchwil sy’n benodol i un maes academaidd ac mae gen i ddiddordeb eang mewn methodolegau ymchwil seicolegol cymhwysol. Mae gen i ddiddordeb personol hefyd yn y prosesau gwybyddol sy’n sail i newid ymddygiadol, yn arbennig mewn perthynas â grwpiau ar y cyrion fel pobl ag anableddau, a phlant a phobl ifanc difreintiedig.

Meysydd Ymchwil

Rwy’n ymchwilydd dechrau gyrfa y mae fy niddordebau penodol wedi’u gwreiddio mewn seicoleg gymdeithasol ac iechyd. Ymhlith rhai o’r prosiectau blaenorol a chyfredol rydw i wedi eu cwblhau/bod yn rhan ohonynt y mae:

  • Archwiliad cydweithredol o seiliau seicolegol ymddygiadau o blaid yr amgylchedd.
  • Astudiaeth ymchwil meintiol annibynnol, yn archwilio grym rhagfynegol ideolegau gwleidyddol tuag at gydymffurfiaeth ag ymyriadau iechyd COVID-19.
  • Astudiaeth hydredol yn gwerthuso effeithiolrwydd menter Ehangu Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru.
  • Archwiliad ansoddol yn astudio effaith gorchuddion coesau prosthetig ar iechyd meddwl a lles pobl sydd wedi colli aelodau o’r corff.

Arbenigedd

N/A