Skip page header and navigation

Andy Bevan BSc (Soc.Sci.), Bryste, Hanes Economaidd a Chymdeithasol

Delwedd a chyflwyniad

Andy Bevan o flaen map o’r byd.

Darlithydd

Athrofa Addysg a Dyniaethau

Ffôn: 01570 424712
E-bost: andy.bevan@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Darlithio ar y BA Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Byd-eang ac ar raglenni cysylltiedig.
  • Cyd-drefnu (gyda Dr Alexander Scott) cyfres o ddarlithoedd, ffilm a gweithdai drwy’r wythnos ym mis Hydref 2017 i nodi Canmlwyddiant Chwildro Rwsia
  • Curadu arddangosfa yn llyfrgell Llambed PCYDDS (Medi-Rhagfyr 2017) o bosteri Dmitri Moor a, gyda chymorth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, arddangosfa o dudalennau blaen wedi’u harchifo o’r Cambrian Daily Leader, sy’n cynnwys newyddion o Rwsia yn 1917
  • Ymchwil ar y cyd, ers mis Tachwedd 2020, gyda hanesydd Vincentaidd, Dr Adrian Fraser, i etifeddiaeth yr oes fodern planhigfa caethweision Camden Park yn St Vincent (a brynwyd yn 1821 gan Thomas Phillips, un o brif gymwynaswyr Coleg Dewi Sant, Llambed) – prosiect ymchwil sydd hefyd yn cael ei ffilmio gan Akley Olton, gwneuthurwr ffilmiau Vincentaidd
  • Cyflwyniad ar y cyd, gyda Dr Alexander Scott, o’r enw Thomas Phillips Must Fall, mewn cynhadledd deuddydd, Cymru a’r Byd: Cynefin, Gwladychiaeth a Chysylltiadau Byd-eang, yn Llambed, 6-7 Mehefin 2022 (gweler Cyhoeddiadau isod).

Cefndir

Cefais fy nharo gan syniadau am gynnydd a datblygiad am y tro cyntaf yn fy arddegau pan dreuliais flwyddyn, i ffwrdd o Ysgol Dinefwr, Abertawe, yn y man a alwyd yn ‘Honduras Prydeinig’ ar y pryd. Roedd fy nhad ar secondiad gyda Gweinidogaeth Datblygu Tramor newydd Barbara Castle – ac fe astudiais i yng Ngholeg Sant Ioan, yn Ninas Belize, a redwyd gan Jeswitiaid.             

Yn gadeirydd ar y Sosialwyr Ifanc yn y 1970au ac yn Swyddog Ieuenctid Cenedlaethol y Blaid Lafur yn y 1980au, cefais fy ethol yn gynullydd staff Pencadlys y Blaid Lafur 1983-1988, gan ymdrin yn uniongyrchol â’r prif gymeriadau ar Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid Lafur yn y blynyddoedd cythryblus hynny.

Yn 1988, ymunais â staff VSO, gan gefnogi ymyraethau datblygu technegol, yn bennaf yn Affrica, yn recriwtio personél crefftus a chynllunio eu hyfforddiant addasu cyn ymadael, mewn cydweithrediad agos â’r Grŵp Datblygu Technoleg Canolradd (a sefydlwyd gan E F Schumacher) a’r Ganolfan Dŵr, Peirianneg a Datblygu ym Mhrifysgol Loughborough. Addysgais gyrsiau’n rheolaidd gan gynnwys Technoleg Briodol, Addasu Arfer Gwaith Technegol a Chadw’n Saff a Diogel yn Bersonol ar gyfer Gweithwyr Datblygu. Parheais yn hyfforddwr ar gyfer VSO tan 2004. Tra ‘roeddwn yn VSO, cefais y cyfle i ymgymryd ag ymchwil maes yn Kenya ar gyflenwad dŵr gwledig, economeg sector anffurfiol ac adeiladu mewn cymunedau, ac ar ddarpariaeth addysg dechnegol/alwedigaethol yn Kenya ac Uganda, Zimbabwe, Ghana a Namibia.

O 2000-2014, cyd-reolais brosiectau’r Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd yng Nghymru ac o Gymru ac yn 2015 ymunais â staff PCYDDS yn Uwch Swyddog Prosiect ar y prosiect Cynghreiriau Gwledig a ariannwyd gan yr UE.

Diddordebau Academaidd

Modylau Lefel 4

  • Datblygu Cynaliadwy mewn oes o Globaleiddio (2016-2020)
  • Gweithio mewn Datblygiad: Paratoi Ymarferol (2017-2019)
  • Ymyrraeth Ddyngarol (2017-2019)
  • Grym ac Anghydraddoldeb (2021/2022)

Cyfrannu at:

  • Moesoldeb, Moeseg a Rheswm (2021/2022)
  • Y Prosiect Trefedigaethol a’r Dyniaethau (2021/22, 2022/23)
  • Diwylliannau ac Athroniaethau Gwleidyddiaeth (2022/23)

Modylau Lefel 5/6

  • Gwladwriaethau Ôl-drefedigol a Chymdeithas Ddinasyddol
  • Gweithredaeth, Protest ac Ymgyrchu dros Gyfiawnder Byd-eang
  • Twf Poblogaeth, Trefoli a Chynaliadwyedd
  • Economi Gwleidyddol Rhyngwladol
  • Materion Cyfredol mewn Gwleidyddiaeth Gymharol
  • Tsieina yn y Byd
  • Anthropoleg Economaidd a Chyn-Gymdeithasau (2022/23)

Modwl Lefel 7

Yn 2018, bues yn Diwtor Gwadd ym Mhrifysgol Abertawe ar Hawliau Dynol, Ymyrraeth Ddyngarol a Chyfiawnder Byd-eang ar y rhaglen MA Datblygu Rhyngwladol a Hawliau Dynol.

Meysydd Ymchwil

  • Trosglwyddo o gynhaliaeth i economïau arian parod
  • Rôl y sector anffurfiol mewn datblygu economaidd
  • Llywodraeth UP yn Chile 1970–73
  • Cymariaethau rhyngwladol mewn rhaglenni Gwasanaethau Dinasyddion
  • Yr Iwerydd Chwyldroadol yn y 17eg ganrif–19eg ganrif gynnar
  • Astudiaethau achos mewn Datblygu Anhafal a Chyfunol

Arbenigedd

  • Damcaniaeth ar arfer mewn “technolegau priodol”
  • Cyflenwad dŵr gwledig a’r defnydd o sgiliau a defnyddiau sydd ar gael yn lleol
  • Cynnwys cymunedau mewn newid technegol
  • Y Blaid Lafur a hanes undebau llafur y 1970au a 1980au
  • Gwleidyddiaeth gyfoes Cymru

Cyhoeddiadau

  • Culture, Cash and Housing – Community and Tradition in Low-income Building (1992). Mitchell, M a Bevan, A: VSO/IT Books, Llundain
  • A Real Citizen Service for Wales (2014). Bevan, A: Sefydliad Materion Cymreig/Comisiwn Cynulliad Cymru, Caerdydd 
    Mae modd lawrlwytho o’r Sefydliad Materion Cymreig

Fideos YouTube:

  • Consuming the Planet (25 mun): Cyflwyniad i UM PCYDDS Wythnos Byddwch Wyrdd, Mai 2021: 
  • Thomas Phillips Must Fall (30 mun): Cyflwyniad gan Dr Alexander Scott ac Andy Bevan ar gymwynaswr PCYDDS, Thomas Phillips, a’i berchenogaeth o gaethweision yn St Vincent.
  • Power and Inequality (5:27 mun) clip ffilm o raglen ddogfen gan Akley Olton.

Blogiau’r Sefydliad Materion Cymreig: