Skip page header and navigation

Yr Athro Bettina E. Schmidt MA, PhD, Dr.Habil.

Llun a Chyflwyniad

Yn sefyll o flaen cwpwrdd llyfrau, mae’r Athro Bettina Schmidt yn gwenu tuag at y camera wrth ddal dau o’u gweithiau ei hun: “Astudiaeth o Brofiad Crefyddol – Dulliau a Methodolegau”; hefyd, “Ysbrydion a Llesmair ym Mrasil”.

Athro mewn Astudio Crefyddau ac Anthropoleg Crefydd

Yr Athrofa Addysg A’r Dyniaethau


E-bost: b.schmidt@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n addysgu astudio crefyddau ac anthropoleg crefydd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys ar yr MRes Profiad Crefyddol. Rydw i hefyd yn goruchwylio myfyrwyr ymchwil ac yn croesawu ymholiadau mewn meysydd megis anthropoleg crefydd, profiad (crefyddol/ysbrydol) anarferol, crefyddau gwerinol, ac astudiaeth feirniadol o grefyddau.

Fy rolau pellach yn PCYDDS yw: 

  • Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy yn Llambed 
  • Cydlynydd Ymchwil yn y Dyniaethau 

Cefndir

Mae fy nghefndir academaidd ym maes Anthropoleg Ddiwylliannol gyda ffocws arbennig ar anthropoleg crefydd. Rwyf wedi astudio Anthropoleg Ddiwylliannol ynghyd ag Astudiaethau Crefyddol ac Ieithoedd Affricanaidd ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen lle dilynais fy PhD a gradd ôl-ddoethurol (“Cymhwysiad” (Habilitation)) hefyd.

Yn 2004, symudais o’r Almaen i’r DU a dechreuais addysgu astudio crefyddau, yn gyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen, wedyn ym Mhrifysgol Bangor ac yn awr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn ogystal ag ymchwil ac addysgu, rwyf wedi ymgymryd â sawl rôl allanol. Roeddwn i’n Llywydd Cymdeithas Astudio Crefyddau Prydain (BASR) ac yn aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Roeddwn hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd is-banel Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. 

Ar hyn o bryd, rwy’n gwasanaethu ar fyrddau golygyddion sawl cyfres o lyfrau a gyhoeddir gan Bloomsbury a Kohlhammer er enghraifft, ac rydw i hefyd yn cynghori’r ganolfan ymchwil Crefydd a Thrawsnewid yn y Gymdeithas Gyfoes ym Mhrifysgol Fienna. 

Aelod O

  • Cymdeithas Astudio Crefyddau Prydain (Ysgrifennydd 2009–2015, Llywydd 2018–2021)
  • Aelod o fwrdd golygyddion y cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, INDIANA, cyfnodolyn ym maes Astudiaethau America Ladin, a gyhoeddir ym Merlin gan y Sefydliad Ibero-Americanaidd (ers 2004)
  • Aelod o fwrdd golygyddion y cyfnodolyn REVER, Revista de Estudos da Religião, São Paulo (ers 2010)
  • Aelod o fwrdd golygyddol y Journal for the Academic Study of Religion.
  • Aelod o fwrdd golygyddion y gyfres o lyfrau “Die Religionen der Menschheit“ a gyhoeddir gan Kohlhammer Verlag, Stuttgart
  • Aelod o fwrdd golygyddion y gyfres o lyfrau “Critical Studies in Religion/Religionswissenschaft” a gyhoeddir gan Vandenhoek & Ruprecht Verlag, Göttingen (Brill bellach)
  • Aelod o fwrdd golygyddion y gyfres o lyfrau “Bloomsbury Advances in Religious Studies“ 

Diddordebau Academaidd

Mae fy addysgu’n canolbwyntio ar ddulliau damcaniaethol a methodolegol o ymdrin ag astudio crefyddau, yn ogystal ag agweddau amrywiol ar grefyddau cyfoes. Ar y lefel israddedig, rwy’n addysgu’r modylau Anthropoleg Crefydd (lefel 4), Hynafiaid sy’n Fyw a Choed sy’n Siarad: Crefyddau Brodorol Heddiw (lefel 5/6), Archwilio Crefyddau yn America Ladin (lefel 5/6), Siamaniaid, Gweledigaethau, ac Ysbrydion: Archwilio Profiad Ysbrydol a Chrefyddol (lefel 5/6), ac eraill.

Ar y lefel ôl-raddedig, rwy’n addysgu Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau, Profiad Crefyddol Heddiw, Defodau a Chrefyddau, Dulliau Gwaith Maes wrth Astudio Crefyddau, a modylau eraill.

Yn y gorffennol rwyf wedi goruchwylio myfyrwyr PhD ynghylch yr Oes Newydd, Vodou, agweddau amrywiol mewn anthropoleg ddiwylliannol, yn ogystal ag eglwysi’r diaspora Brasilaidd yn y DU, newid a thröedigaeth grefyddol, a chrefydd a chymodi. Ar hyn o bryd, rwy’n goruchwylio myfyrwyr ymchwil gyda phrosiectau ymchwil yn amrywio o astudio mannau cysegredig yn UDA ac agweddau gwahanol ar brofiad crefyddol ac ysbrydol. Rydw i hefyd yn goruchwylio casgliad o draethodau hir myfyrwyr yr MRes Profiad Crefyddol. 

Meysydd Ymchwil

Un o’r elfennau rwy’n canolbwyntio arni yn fy ngweithgareddau ymchwil yw’r diaspora Affricanaidd, gyda gwaith maes empirig yn y Caribî (roedd fy nhraethawd ymchwil PhD, a gyhoeddwyd ym 1995 yn yr Almaen, yn ymwneud â chrefydd a hunaniaeth yn Puerto Rico), America Ladin (roedd fy mhrosiect ymchwil ôl-ddoethurol cyntaf yn ymwneud â gwyliau crefyddol yn Ecuador), UDA (cafodd fy ymchwil ‘cymhwysiad’ ei gynnal yn Ninas Efrog Newydd ymhlith ymfudwyr), a Brasil (ar feddiant gan ysbrydion a llesmair).

Roedd fy mhrosiect ymchwil diwethaf yn ymwneud â dehongli meddiant gan ysbrydion a llesmair. Yn 2010, cynhaliais waith maes ym Mrasil. Yn ogystal ag arsylwi defodau meddiant cyfranogwyr, cyfwelais â phobl o gymunedau crefyddol amrywiol am eu profiad o gael eu meddiannu. Mae canlyniad yr ymchwil wedi’i gyhoeddi yn fy llyfr newydd “Spirits and Trance in Brazil: An Anthropology of Religious Experiences” (Bloomsbury 2016).

Mae fy niddordeb ymchwil presennol ym maes ysbrydolrwydd a lles. Rydw i wedi cynnal arolygon ar-lein ym Mrasil a’r DU er mwyn deall sut mae pobl sy’n gweithio yn y sector meddygol a phobl sy’n ystyried eu bod yn grefyddol neu’n ysbrydol yn canfod lles a’r berthynas rhwng y ddau sector. Yn 2018, dechreuais â chyfweliadau manwl ym Mrasil. Yn ystod y pandemig, casglais wybodaeth am brofiadau ysbrydol a Covid19.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Mae fy ymchwil yn ymwneud â chrefyddau sy’n deillio o Affrica yng ngwledydd America wedi’i ledaenu trwy erthyglau a darlithoedd cyhoeddus, gan arwain at well ymwybyddiaeth gyhoeddus o effaith gadarnhaol y crefyddau hyn ar y rhai sy’n eu dilyn. Ers dechrau fy ngyrfa, rwyf wedi ymrwymo i gyfleu fy ngwaith y tu hwnt i faes academaidd bach anthropolegwyr. 

Er enghraifft, bûm yn ymwneud â chymdeithas ethno-feddygaeth yr Almaen, cymdeithas o academyddion ac ymarferwyr ym maes iechyd y cyhoedd, ac fel aelod (is-lywydd yn ddiweddarach), trefnais gynadleddau, cyfarfod cyhoeddus a rhifynnau arbennig o’r cyfnodolyn (e.e. ynglŷn ag AIDS/HIV yn ei gyd-destun diwylliannol ehangach). 

Ers symud i’r DU yn 2004, bûm yn siarad yn aml mewn cyfarfodydd a drefnwyd gan INFORM (Information Network Focus on Religious Movements) yn Llundain.  Mae arwyddocâd fy nghyfraniad at y ddealltwriaeth o grefyddau sy’n deillio o Affrica yng ngwledydd America yn cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mewn cydnabyddiaeth o’m gwaith, cefais fy ethol yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2022.

Cyhoeddiadau

Detholiad o lyfrau diweddar:

  • 2020, cyd-olygwyd gan Jeff Leonardi, Spirituality and Wellbeing: Interdisciplinary approaches to the study of religious experience and health. Sheffield: Equinox.
  • 2016, cyd-olygwyd gyda Stephen Engler, Handbook of Contemporary Brazilian Religions (Brill Handbooks on Contemporary Religion, cyfrol 13) DenHague: Brill.
  • 2016, golygwyd, The Study of Religious Experience: Approaches and Methodologies. Durham: Equinox.
  • 2016, Spirits and Trance in Brazil: Anthropology of Religious Experiences. Llundain: Bloomsbury.

Detholiad o benodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion diweddar:

  • ‘Living with Spirits: Spirituality and Health in São Paulo, Brazil’. Yn: Other Worlds, Other Bodies: Embodied Epistemologies and Ethnographies of Healing, gol. gan Emily Pierini, Alberto Groisman a Diana Espírito Santo. Rhydychen: Berghahn, 2023, tt. 73-91.
  • ‘The Entanglement of Spirituality, Wellbeing and ‘Spiritual Economy’ in Brazil: The Shift from ‘Living well together’ to ‘Leading a good life’’. Yn: New Spiritualities and the Culture of Well-being (Religion, Spirituality and Health: A Social Scientific Approach, Cyf. 6), gol. gan Geraldine Mossiere. Frankfurt/Efrog Newydd: Springer, 2022, tt. 117-133. doi.org/10.1007/978-3-031-06263-6_8.
  • ‘The silence around non-ordinary experiences during the pandemic’, gyda Kate Stockley. Alternative Spirituality and Religion Review, Cyf. 13 (1) (2022). DOI  10.5840/asrr20226889
  • ‘‘Incorporation does not exist’: The Brazilian rejection of the term ‘possession’ and why it exists nonetheless’. Yn: Spirit Possession: Multidisciplinary Approaches to a Worldwide Phenomenon, gol. gan Éva Pócs ac András Zempléni. Budapest, Fienna, Efrog Newydd: Central European University Press, 2022, tt. 75-92.
  • ‘Alister Hardy: a naturalist of the spiritual realm’, ynghyd ag Alexander Moreira-Almeida a Marta Helena de Freitas.  Religions Cyf. 12 (2021), DOI: 10.3390/rel12090713.
  • ‘Spiritual Healing in Latin America’. Yn: Handbook of Religion, Medicine and Health, Golygyddion: Dorothea Lüddeckens, Pamela Klassen, Justin Stein a Philipp Hetmanczyk. Llundain: Routledge, 2021, tt. 113-125. DOI: 10.4324/9781315207964-10
  • ‘The Experience of Seeing: Spirit Possession as Performance’. Yn: Religion and Sight, gol. gan Louise Child ac Aaron Rosen (Cyfres Religion and the Senses). Sheffield: Equinox, 2000, tt. 122-140.
  • ‘Narratives of Spirituality and Wellbeing: Cultural Differences and Similarities between Brazil and the UK’. Yn: Spirituality and Wellbeing: Interdisciplinary approaches to the study of religious experience and health, gol. gan Bettina Schmidt a Jeff Leonardi. Sheffield: Equinox, 2000, tt. 137-157.
  • ‘Sabedoria e o significado da vida: uma crítica antropológica’, yn: Sapientia:uma arqueologia de saberes esquecidos, gol. gan Christoph Wulf a Norval Baitello Junior. São Paulo: Edições SESC, 2018, tt. 61-83.
  • ‘Die Geisterbesessenheit und die Ethnologie der Religiösen Erfahrung: Eine kritische Auseinandersetzung mit dem Konzept des Heiligen von Rudolf Otto’. Yn: 100 Jahre „Das Heilige“: Beiträge zu Rudolf Ottos Grundlagenwerk, (Theion, Studien zur Religionskunde), gol. gan Wolfgang Gantke a Vlad Serikov. Peter Lang Verlag, 2017, tt. 197-211.
  • ‘Mami Wata in Brazil – the (ongoing) creolization of the water goddesses Oxum and Iemanjá’. Yn: Anthropology and Cryptozoology: Exploring Encounters with Mysterious Creatures, gol. gan Samantha Hurn. Llundain: Routledge, 2016, tt. 157-170.
  • ‘Körperwissen im Candomblé: Ein Einblick in die Geisterbesessenheit Brasiliens’. Yn: Paragrana: International Zeitschrift für Historische Anthropologie, Cyf. 25 (1) (2016), tt. 299-312.

Detholiad o gyhoeddiadau eraill:

  • ‘Spirit Mediumship in Brazil: The Controversy about Semi-Conscious Mediums’. Yn: DISKUS: The Journal of the British Association for the Study of Religions, Cyf. 17 (2), 2015, tt. 38-53. DOI: http://dx.doi.org/10.18792/diskus.v17i2.70
  • ‘Mediumship in Brazil: The Holy War against Spirits and African Gods’. Yn: Talking With the Spirits: Ethnographies from Between the Worlds, gol. gan Jack Hunter a David Luke. Brisbane: Daily Grail, 2014, tt. 206-227.
  • ‘Animal Sacrifice as Symbol of the Paradigmatic Other in the 21st Century: Ebó, the Offerings to African Gods, in the Americas’. Yn: Sacrifice and Modern Thought, gol. gan Johannes Zachhuber a Julia Meszaros. Rhydychen: Oxford University Press, 2013, tt. 197-213.
  • ‘The Spirit White Feather in São Paulo: The Resilience of Indigenous Spirits in Brazil’. Yn: Critical Reflections on Indigenous Religions, gol. gan James Cox. (Cyfres Vitality of Indigenous Religions). (Llundain: Ashgate, 2013), tt. 123-141.
  • ‘‘When the gods gives us the power of ashé’ –Afro-Caribbean Religions as Source for Creative Energy’. Yn: Handbook of New Religions and Cultural Production, gol. gan Carole M. Cusack ac Alex Norman. (Cyfres Brill Handbooks on Contemporary Religion) DenHague: Brill, 2012, tt. 445-461.
  • ‘O espiritismo porto-riquenho como fundamento da identidade porto-riquenha’. Yn: Espiritismo e Religiões Afro-Brasileiras: História e Ciências Sociais, gol. gan Artur Cesar Isaia ac Ivan Aparecido Manoel. São Paulo: UNESP, 2012, tt. 163-175.
  • ‘Anthropological Reflections on Religion and Violence’, yn: Blackwell Companion to Religion and Violence, gol. gan Andreas Murphy. Rhydychen: Blackwell, 2011. tt. 66-75.
  • ‘Meeting the Spirits: Espiritismo as Source for Identity, Healing and Creativity’. Fieldwork in Religion Cyf. 3.2 (2009), tt. 178–195.
  • Caribbean Diaspora in the USA: Diversity of Caribbean Religions in New York City. Aldershot, Hampshire: Ashgate, 2008.

Gwybodaeth bellach

Aelod panel

  • Gweithgor ASA i ddatblygu’r datganiad meincnodi cenedlaethol ar gyfer rhaglenni gradd lefel Meistr mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth
  • Gweithgor ASA i adolygu’r datganiad meincnodi cenedlaethol ar gyfer rhaglenni gradd israddedig mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

Adolygu cymheiriaid

  • Is-banel Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol REF2021, Dirprwy gadeirydd Is-banel 31 (TRS)
  • Is-Banel Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol REF 2014 
  • Coleg Adolygu Cymheiriaid AHRC 

Athro Gwadd

  • Pontifícia Universidade Católica de São Paulo, Adran Astudiaethau Crefyddol, São Paulo, Brasil
  • Prifysgol Ddinesig Efrog Newydd, Coleg Brooklyn, Adran Astudiaethau Puerto Ricaidd a Latino, Efrog Newydd, UDA
  • Universidad Nacional de San Antonio Abad, Departamento de Antropología, Cusco, Periw
  • Universidad Complutense, Departamento Historia de América II, Antropología de América, Madrid, Sbaen 

Graddau ymchwil a arholwyd:

Ers 2008, arholwyd tua 23 traethawd ymchwil gradd ymchwil ar gyfer prifysgolion yn y DU, yr Almaen, Awstria ac Awstralia. 

Trefnu cynadleddau

  • Trefnu cynhadledd hanner canmlwyddiant Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy yn Llambed, yn 2019
  • Trefnu cynadleddau blynyddol y Ganolfan Ymchwil Profiad Crefyddol, 2014-2017
  • Trefnu cynhadledd ryngwladol ar Ddehongli Meddiant gan Ysbrydion ym Mhrifysgol Bangor yn 2008
  • Trefnu cynhadledd flynyddol Cymdeithas Astudio Crefyddau Prydain (BASR) ym Mhrifysgol Bangor yn 2009 (fel y trefnydd cynhadledd lleol)

Darlithoedd gwadd

  • Darlith wadd ym Mhrifysgol Bern, y Swistir yn 2018
  • Prif ddarlith yn y gynhadledd “Contemporary Religion in Historical Perspective: Publics and Performances”, y Brifysgol Agored yn 2018
  • Prif ddarlith yn y Pontifícia Universidade Católica de São Paulo i ddathlu 40 mlynedd o astudio crefyddau yn y brifysgol yn 2018
  • Darlith wadd yng nghynhadledd 2017 Cymdeithas Astudio Crefyddau’r Almaen ym Marburg
  • Prif ddarlith yn yr Universidade Cátolica de Brasil, ym Mrasilia, i agor y flwyddyn academaidd newydd, yn 2016
  • Siaradwr gwadd yn y gynhadledd Sabedoria yn São Paulo, Brasil yn 2015
  • Darlith wadd yn y Coleg Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Mahidol, Bangkok, Gwlad Thai yn 2014
  • Darlith wadd yn y gynhadledd ‘Spirit Possession: European contributions to comparative studies’, Academi Ymchwil Hwngari, Pecs, Hwngari yn 2012
  • Darlith wadd yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Astudiaeth Gymharol o Brofiad Crefyddol yn y Taiwan Cyfoes, Sefydliad Graddedigion ar gyfer Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Genedlaethol Chengchi, Taiwan yn 2011
  • Sawl darlith wadd ym Mrasil (yn yr Universidade Estadual de Londrina, yn Londrina, yn yr Universidade Federal de Santa Catarina, yn Florianopolis, yn yr Universidade Federal do Rio Grande do Sur, yn Porto Alegre, yn yr Unidersidade de São Paulo, yn São Paulo ac yn y Pontifícia Universidade Católica de São Paulo, yn São Paulo) yn 2010 a 2018
  • Papurau gwadd mewn seminarau ymchwil yn y DU a’r Almaen (e.e., Caeredin, St Andrews, SOAS, Caerdydd, Rhydychen, Durham)

Detholiad o ddarlithoedd gwadd a phapurau cynhadledd diweddar

Chwefror 2018: ‘The contentious field of the study of religious experience: The challenging influence of Rudolf Otto, Andrew Lang and other founding fathers’, Y Brifysgol Agored.

Medi 2017: ‘Anthropology of Religious Experience: a deictic approach to the study of mediumship’, Cologne.

Awst 2016: ‘Anthropology and the study of religious experience. Spirit possession and wellbeing in Brazil’, Universidade Federal de Santa Catarina, yn Florianopolis, Brasil.

Awst 2013: ‘The Trouble with Spirit Possession in Brazil’. 17eg Gyngres y Byd Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Anthropolegol ac Ethnolegol, Manceinion.

Medi 2013: ‘The shifting religious landscape of Brazil: Problems with the national census data’, Cymdeithas Ewrop ar gyfer Astudio Crefyddau, Hope Lerpwl.

Medi 2012: ‘Incorporation does not exist’ – the Brazilian rejection of the term ‘possession’ and why it exists nonetheless’. Yn y Gynhadledd ‘Spirit Possession: European contributions to comparative studies’, Pecs, Hwngari.