Peirianneg Chwaraeon Moduro (Llawn amser) (HNC)
Bwriedir i’r rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro roi sylfaen gadarn i chi yng ngwyddoniaeth a thechnolegau peirianneg fecanyddol a’r modd y cânt eu cymhwyso wrth ddylunio a datrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun y diwydiant chwaraeon moduro. Nod y rhaglenni yw datblygu eich gallu i weithio gydag eraill i gymhwyso’r gwaith hwn i broblemau yn y byd go iawn.
Bydd eich gradd yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel, o ran y reid a gofynion trin y cerbyd, a pherfformiad ac effeithlonrwydd y pwerwaith. Bydd y cwrs yn defnyddio offer a phrosesau o safon diwydiant i ymchwilio i ddyluniadau cerbydau. Mae’r offer hyn yn cynnwys Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, Caffael Data a phecynnau efelychu datblygedig megis Dynameg Hylifol Cyfrifiadurol a Dadansoddiad Elfen Feidraidd.
Mae meysydd astudio arbenigol yn cynnwys dylunio peiriannau datblygedig, dylunio pwerwaith, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Mae prosiectau annibynnol a grŵp yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r arbenigeddau hyn ymhellach.
Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgir yn y modylau i gymwysiadau Chwaraeon Moduro yn y byd go iawn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd meysydd astudio arbenigol, gan gynnwys uwch ddylunio peiriannau a deinameg cerbydau, yn eich galluogi i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb arbenigol y gellir eu datblygu yn y modylau Grŵp a Phrosiect Mawr.
Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi hefyd gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgir yn y modylau i gymwysiadau chwaraeon moduro yn y byd go iawn.
Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro (Llawn amser 3 Blynedd; cyf EngC 15968) a BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 Blynedd; cyf EngC 15969) wedi eu hachredu’n gyrsiau sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, sef y Cyngor Peirianneg.
Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).
Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
80 pwynt o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
-
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael swyddi ar draws y diwydiant chwaraeon moduro, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i dimau Fformiwla 1 a WRC. Mae graddedigion yn gweithio nawr mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau perfformiad uchel a dylunio aerodynameg.
Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach yn ogystal â gweithio i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs) fel Ford, Jaguar Land Rover a chyflenwyr haen un fel Mahle. Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.