Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol
Os ydych chi’n breuddwydio am serennu o flaen y camera, neu efallai â’ch bryd ar weithio yn yr esgyll, mae ein Rhaglenni Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn hyfforddi myfyrwyr a’u datblygu i fod yn berfformwyr a gweithwyr y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig addysg gynhwysfawr ar draws y rhaglenni, a’ch galluogi i ganfod pwy ydych chi ac i ffynnu.
Mae’r rhaglenni Perfformio, Cerddoriaeth, Dawns a Theatr Gerddorol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Mae ein modylau wedi’u seilio ar arfer ac yn canolbwyntio ar y proffesiwn, a byddan nhw’n eich paratoi â set o sgiliau technegol cryf, â galluoedd creadigol, a dealltwriaeth ddofn o’r diwydiant sy’n eich galluogi i adeiladu portffolio helaeth cyn dechrau ar eich gyrfa, gan roi mantais gystadleuol i chi wrth chwilio am waith mewn disgyblaeth gystadleuol.
Os ydych chi’n angerddol am actio, cerddoriaeth neu ddylunio, mae lle i chi yma. Oherwydd y profiadau ymarferol a’r cysylltiadau â’r diwydiant, cewch ystod eang o gyfleoedd os dewiswch ymuno â ni.
Yn Abertawe, mae ein cwrs Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn dod ag arloesi, perfformio a chynhyrchu ynghyd, gan roi cyfle i chi archwilio sain, cyfansoddi a thechnoleg mewn amgylchedd bywiog, cydweithredol.
Caerfyrddin yw cartref ein graddau BA Actio a BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau. Mae’r rhaglenni hyn yn cyd-fynd a’i gilydd, gan greu gweithluoedd cyflogadwy sydd â digon o brofiad ymarferol i ffynnu yn y diwydiant. Yn fyfyriwr yng Nghaerfyrddin, bydd gennych fynediad at weithdai a theatrau ar y campws, a bydd hyn yn eich galluogi i gyfuno eich astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol.
Yng Nghaerdydd mae Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA), yn cynnig rhaglenni gradd sy’n darparu techneg gadarn i fyfyrwyr, ynghyd â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r campws wedi’i leoli yn Haywood House, yng nghanol prif-ddinas Cymru, ac mae ganddo gysylltiadau cryf â Chanolfan y Mileniwm a BBC Cymru.
Pam Astudio Perfformio, Dawns a Theatr Gerdd yn PCYDDS?
Clearing
Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored
Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol.
Spotlights
Cyfleusterau
Mae dewis astudio Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol gyda ni yn golygu dewis cyfleusterau gwych. O fannau stiwdio mawr, ystafelloedd perfformio a lloriau dawnsio yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin, i ofod gweithdy mawr ar gyfer myfyrwyr Dylunio Set ar gampws Caerfyrddin, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo. Mae gennym hefyd labordai cyfrifiadurol ar gyfer ein myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth Greadigol yn Abertawe.