Skip page header and navigation

Lefel 4 - SKIP-Cymru (Hyfforddiant Kinesthetig Llwyddiannus ar gyfer Plant Cyn-ysgol/Cynradd) (Cwrs Byr, Israddedig, Dysgu Gydol Oes)

Dysgu Cyfunol
2 ddiwrnod hyfforddiant wyneb yn wyneb a 5 awr o ddysgu hyblyg
Gradd

SKIP-Cymru (Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant Cyn-ysgol/Cynradd) 

Hyfforddiant achrededig wedi’i argymell gan y Llywodraeth i gefnogi iechyd a llesiant mewn dysgu sylfaenol.

Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygiad corfforol plant, gan roi i chi’r wybodaeth i’w defnyddio’n effeithiol yn ymarferol. 

Byddwch chi’n dyfnhau eich arbenigedd mewn hyrwyddo symudiad o ansawdd uchel, gan eich galluogi chi i ddarparu profiadau sy’n briodol i ddatblygiad i blant a chefnogi teuluoedd yn y broses.

Trwy ddau weithdy wyneb yn wyneb dan arweiniad arbenigwyr trwy gydol y tymor, cewch gyfle i gydweithio â gweithwyr proffesiynol blaenllaw, mireinio eich dull gweithredu, a mynd i’r afael â heriau penodol sy’n unigryw i’ch ysgol neu’ch lleoliad.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n: 

  • Meddu ar radd.
  • Gweithio gyda grwpiau o blant i adfyfyrio ar weithredu.
  • Cynllunio neu reoli rhaglenni datblygiad corfforol (dosbarth cyfan, neu grŵp cymunedol).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 ddiwrnod hyfforddiant wyneb yn wyneb a 5 awr o ddysgu hyblyg
Gofynion mynediad:
Gradd

£150

Pam mae angen yr hyfforddiant hwn arnoch

01
SKIP-Cymru yn gosod y sylfeini ar gyfer Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Llesiant
02
Cefnogi 12 egwyddor addysgeg Cwricwlwm Cymru
03
Gwella hyder, cyfathrebu a pherfformiad academaidd plant
04
Cefnogi iechyd corfforol a meddyliol plant
05
Mae ymarferwyr yn dysgu sut i ddadansoddi symudiad a chreu amgylcheddau sy'n cefnogi datblygiad corfforol plant mewn dull cynhwysol sy'n seiliedig ar chwarae
06
Tystiolaeth o'ch effaith ar ganlyniadau disgyblion

Beth byddwch chi'n ei ddysgu

Elfennau allweddol:

Hyfforddiant wyneb yn wyneb                                                                       

Bydd angen i chi fynychu dau ddiwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb dros dymor gyda gweithdai theori a rhai ymarferol.

Dysgu o Bell                                                                                                           

Cyflwynir damcaniaethau a chynnwys Dysgu o Bell trwy blatfform e-ddysgu ar-lein rhyngweithiol, y gellir ei gyrchu yn eich amser eich hun. Byddwch yn cwblhau 5 awr o theori ar-lein hyblyg.

Offer                                                                                                                       

Er mwyn cael yr effaith fwyaf ar ddatblygiad corfforol plant, mae angen mynediad at ystod o offer priodol. Gallwn ni eich cynorthwyo chi gydag archwiliad o’ch darpariaeth bresennol.

  • Datblygiad corfforol o enedigaeth i ganol plentyndod, gan gynnwys integreiddio echddygol synhwyraidd a cherrig milltir datblygiadol

  • Sut mae symud yn cyfrannu at ddatblygiad plant ehangach, gan gynnwys datblygiad gwybyddol, sgiliau cymdeithasol, iaith a chyfathrebu, hunan-barch, hyder a gwytnwch

  • Dulliau ar gyfer datblygu geirfa symud eang sy’n cefnogi amrywiaeth ac ansawdd mewn gweithgarwch corfforol

  • Theorïau datblygiad echddygol a sut y gallwch chi ddefnyddio’r rhain drwy ystod o strategaethau yn eich ymarfer  

  • Sut i ddadansoddi symudiad a chreu amgylcheddau sy’n cynorthwyo datblygiad corfforol plant gyda dull cynhwysol sy’n seiliedig ar chwarae

  • Strategaethau ar gyfer gweithio gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi datblygiad eu plant gartref

Further information

  • Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n: 

    • Meddu ar radd.

    • Gweithio gyda grwpiau o blant i adfyfyrio ar weithredu.

    • Cynllunio neu reoli rhaglenni datblygiad corfforol (dosbarth cyfan, neu grŵp cymunedol).

  • Adroddiad adfyfyriol (2000 o eiriau)

    • Mae asesu trwy adroddiad adfyfyriol yn eich galluogi chi i gael canfyddiad dwfn ar sut mae’r broses hon yn effeithio ar eich ymarfer a deilliannau plant

    Cyflwyniad ymarferol (20 munud).

    • Darparu tasg ymarferol i gymheiriaid yn ystod diwrnodau hyfforddi wyneb yn wyneb.

    • Cyflwyno cynllun a thystiolaeth fideo o ddarparu sesiwn datblygiad corfforol i grŵp o blant ynghyd â hunanwerthusiad byr.

  • £150 y pen.

  • Darganfyddwch sut mae SKIP Cymru yn gwneud gwahaniaeth mewn ysgolion. Yn y fideos byr hyn, mae athrawes feithrin, arweinydd iechyd a lles a phennaeth o Abertawe yn rhannu eu profiadau o fynychu hyfforddiant SKIP-Cymru - o wella sgiliau a hyder plant i gefnogi eu dysgu.

  • “Rydym yn credu y dylai rhaglenni fel SKIP Cymru gael eu gweithredu ledled y wlad i sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’r Sgiliau Modur Sylfaenol hanfodol y maen nhw’n ei wneud. Mae’n rhaid iddyn nhw baratoi ar gyfer bywyd diweddarach.”
    Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru/ Health and Social Care Committee, Senedd Cymru

    “Derbyniodd yr holl staff hyfforddiant Datblygu a Chefnogi Datblygiad Corfforol mewn Plentyndod Cynnar, gan drawsnewid ethos yr ysgol gan fod pob aelod o staff bellach yn gweld pwysigrwydd symud. Cafwyd effaith gadarnhaol enfawr ar ddatblygiad modur y plant, fodd bynnag, trosglwyddwyd hyn hefyd i’w brwdfrydedd, canolbwyntio, ymgysylltu ac ymddygiad cadarnhaol mewn meysydd dysgu eraill.”
    Pennaeth, Sir Benfro/ Headteacher, Pembrokeshire

    “Cawsom arolygiad Ofsted, ac arsylwyd ar fy ngwers Addysg Gorfforol. Gwnaeth yr arolygydd arweiniol argraff ar yr ystod o weithgareddau deniadol a oedd yn darparu ar gyfer holl anghenion y plant ac roedd ganddo ddiddordeb mewn clywed am fuddion yr offer sy’n briodol yn ddatblygiadol ac agweddau eraill o’r hyfforddiant. Amlygwyd y sesiwn addysg gorfforol yn adroddiad swyddogol Ofsted; Mae’n enwog am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau dwfn.”
    Athro, Lloegr/ Teacher, England