Entrepreneuriaeth Gymdeithasol (Ar-lein) (Rhan amser) (MBA)
Nod y rhaglen hon yw darparu astudiaeth fanwl o sefydliadau, sut y gellir eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy, a’r cyd-destun newidiol y maen nhw’n eu gweithredu o’u mewn.
Yr MBA yw’r prif gymhwyster ar gyfer rheolwyr, y rhai sy’n awyddus i fod yn rheolwyr a’r rhai sydd am helpu i lunio dyfodol eu sefydliad.
Gyda rhaglen MBA PCYDDS fydd ddim angen teithio ac nid oes gofynion presenoldeb gan fod y cwbl yn cael ei gyflwyno ar-lein.
Rydym yn gobeithio y bydd ein graddedigion yn rhan o’r gwaith o lywio meddylfryd busnes y byd.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynlluniwyd y rhaglen MBA Entrepreneuriaeth Gymdeithasol er mwyn ymateb i’r angen am fathau newydd o sefydliadau. Rhaglen sy’n cyd-fynd â byd busnes sy’n newid lle mae’r ffocws ar ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’r rhaglen yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am yr heriau cymdeithasol sy’n wynebu cymunedau, am ganlyniadau camau gweithredu, ac am sut y gellir addasu busnesau er mwyn cyfrannu at gymdeithasau, cymunedau, a rhanbarthau yn y dyfodol.
Yn hytrach na chynnwys entrepreneuriaeth gymdeithasol o fewn rhaglen fusnes gonfensiynol, mae pob modiwl o’r rhaglen hon yn trochi myfyrwyr mewn dulliau ac egwyddorion cymunedol, cymdeithasol a moesegol o fewn byd busnes.
Mae gan PCYDDS brofiad sylweddol o gefnogi dysgwyr o bell. Fel dysgwr MBA ar-lein, byddwch yn rhan o raglen astudio sydd wedi’i chynllunio i fod yn berthnasol i’ch gwaith a’ch uchelgais personol chi ar hyn o bryd. Yn ystod y rhaglen hon, byddwch yn trafod y dadleuon a’r materion allweddol sy’n wynebu sefydliadau. Bydd cyfle hefyd gydag eich tiwtoriaid i gysylltu â myfyrwyr MBA eraill ledled y byd er mwyn gallu mynd i’r afael â heriau allweddol. Byddwch yn dysgu gydag eraill mewn gwahanol leoliadau ac mewn gwahanol gyd-destunau busnes, gan roi cyfle i chi ystyried amrywiaeth o ddulliau, arferion da a safbwyntiau gwahanol ar gynaliadwyedd o fewn byd Busnes.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng ein darpariaeth o Ddysgu Rhithwir ar-lein. Yno, byddwch yn cael mynediad at y cyfan o’ch gweithgareddau dysgu allweddol, eich adnoddau a’ch grŵp dysgu, a hynny drwy ddefnyddio’r apiau a’r offer cyfathrebu rhyngweithiol diweddaraf. Bydd gwasanaethau cymorth ein Prifysgol ar gael ar eich cyfer trwy gydol eich astudiaethau.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Byddwch yn cael eich ystyried gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, byddwch angen gradd anrhydedd 2:2 o leiaf, neu gymhwyster cyfwerth priodol, h.y. cymhwyster proffesiynol gan sefydliad cydnabyddedig o Brydain neu dramor.
- Bydd rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi gan sefydliad neu’n cael eu cyflogi gan sefydliad, fel bo modd iddyn nhw ddefnyddio eu cyd-destun proffesiynol yn eu dysgu.
- Cymhelliant ac uchelgais amlwg a phriodol ar gyfer astudio MBA Arwain Cynaliadwyedd.
- Bydd angen bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer mynediad ar Raglenni MBA, sef, yn bennaf, gallu’r ymgeisydd i gwblhau’r rhaglen yn foddhaol ac i elwa ohoni.
- Byddwn yn ystyried derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn bodloni’r meini prawf cyffredinol os gallan nhw ddangos bod ganddyn nhw’r gallu i gwblhau’r rhaglen ar y safon academaidd ofynnol, ac y byddan nhw’n gallu cyfrannu at brofiadau dysgu’r rhaglen ac i elwa ohonyn nhw.
- Ni fydd angen bod yn bresennol yn y DU ar gyfer y rhaglen MBA Arwain Cynaliadwyedd ar-lein/dysgu o bell.
- Dylai ymgeiswyr sydd wedi’u haddysgu a’u hasesu mewn ieithoedd heblaw’r Saesneg allu dangos hyder wrth astudio trwy’r Saesneg ar lefel sy’n cyfateb i IELTS 6.0.
- Bydd ymgeiswyr angen mynediad priodol at offer cyfrifiadurol er mwyn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rithwir y Brifysgol.
O ran cymwysterau a meini prawf mynediad y Rhaglenni MBA, gall yr ymgeisydd feddu ar:-
- (i) Radd baglor heb anrhydedd mewn pwnc cysylltiedig gan brifysgol yn y DU yn ogystal â thystiolaeth o brofiad perthnasol (dwy flynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
- (ii) Gradd baglor ag anrhydedd mewn pwnc sydd ddim yn gysylltiedig gan brifysgol yn y DU yn ogystal â thystiolaeth o brofiad perthnasol (dwy flynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
- (iii) Gradd ardystiedig gan sefydliad y tu allan i’r DU sy’ cyfateb i’r rhai a bennir yn (i) a (ii) uchod.
- (iv) Cymwysterau sydd ddim yn raddau, fel Diploma Cenedlaethol Uwch, mewn pwnc cysylltiedig (e.e. EdExel), neu gymwysterau tramor cyfatebol, pan fo’r ymgeisydd â phrofiad priodol trwy eu cyflogaeth (tair blynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
- (v) Cymwysterau gan Gyrff Proffesiynol perthnasol eraill, sydd ar lefel is na Gradd Anrhydedd y DU ond sy’n dangos profiad proffesiynol perthnasol (tair blynedd fel arfer, neu brofiad cyfatebol).
Gall ymgeiswyr sydd wedi gweithio mewn meysydd cysylltiedig, sydd â phrofiad mewn maes/disgyblaeth/pwnc cysylltiedig, profiad gwirfoddol diffiniedig, neu brofiad maes cyflogaeth cysylltiedig gael eu derbyn ar y rhaglen heb radd neu gymwysterau sy’n cyfateb i radd os gallan nhw ddangos eu potensial i fodloni gofynion dysgu’r rhaglen.
Mynediad Uwch gyda Chredyd APL/APCL
Bydd ymgeiswyr sydd ag achrediad proffesiynol perthnasol a derbyniol yn cael eu hystyried fel eithriadau. Sylwer: nid yw achrediadau sydd eisoes wedi’u derbyn o fewn yr adran cymwysterau yn dderbyniol.
Cyfweliadau
Fel arfer, bydd pob ymgeisydd ar lefel ôl-raddedig yn cael cyfweliad. Gallwn gynnig lle ar sail y ffurflen gais yn unig, gan gynnwys hanes academaidd, y datganiad personol a’r geirda.
Bydd gofynion ychwanegol ar fyfyrwyr rhyngwladol pan nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, a bydd angen iddyn nhw ddangos bod eu Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn bodloni gofynion y Rhaglenni MBA.
Fel arfer, bydd angen sgôr prawf IELTS o 6.0, neu 232 ar gyfer y prawf cyfrifiadurol neu dystiolaeth neu eirda sy’n dangos eich bod wedi gweithio trwy gyfrwng y Saesneg am gyfnod o fwy na blwyddyn. Cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol am gymorth gyda’r prawf neu i ddarparu tystiolaeth arall. international.registry@uwtsd.ac.uk
-
Bydd yr holl asesiadau’n cael eu cyflwyno ar-lein, ac maen nhw’n adeiladu ac yn myfyrio ar y gweithgareddau cydweithredol sy’n digwydd o fewn y modiwlau. Bydd y tiwtor yn rhoi adborth ffurfiannol a chrynodol, a byddan nhw ar gael i egluro eu hadborth ymhellach drwy e-bost, galwad ffôn a/neu Skype, os bydd y myfyriwr yn dymuno hynny. Bydd adborth ar gyfer y camau cynnydd a’r dyfarniad yn cymryd lle yn unol â rheoliadau safonol y Brifysgol ar gyfer rhaglenni Meistr. Bydd trefniadau ar gyfer ail-sefyll yn cael eu darparu drwy Amgylchedd Dysgu Rithwir y Brifysgol.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau, fel ar gyfer y traethawd hir, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd myfyrwyr y rhaglen yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o sefydliadau, y cyd-destun allanol y maen nhw’n gweithredu ynddo, a sut y cant eu rheoli trwy ymgysylltu â’u harferion mewn modd beirniadol.
Mynediad at yrfa neu ddatblygiad gyrfa o fewn unrhyw sefydliad (cwmni dielw/anllywodraethol/rhyngwladol sydd â ffocws cryf ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol - CSR) sy’n ceisio esblygu trwy gael unigolion allweddol a all eu harwain trwy’r daith CSR a/neu werthoedd effaith gymdeithasol.
Mae’r swyddi allweddol posibl yn cynnwys: Arweinydd entrepreneuraidd cymdeithasol; Arweinydd effaith gymdeithasol; Rheolwr Cynaliadwyedd/CSR; Arweinydd mewn Datblygu Adnoddau Dynol; Rheolwr Prosiect; Ymgynghorydd; Asiant Newid mewn Busnes, Diwydiant, Datblygu; Y Celfyddydau; mentrau cymdeithasol; llywodraeth; cyrff anllywodraethol; Elusennau, iechyd neu addysg.