Astudiaethau Addysg: Cynradd (Llawn amser) (BA Anrh)
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Addysg Gynradd? Ydych chi am wneud gwahaniaeth i fywydau plant? Mae ein rhaglen radd BA Astudiaethau Addysg: Cynradd wedi’i chynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ar gyfer y sector addysg.
Bydd y radd hon yn eich trochi mewn cyd-destun eang o addysg, gan ganolbwyntio ar feysydd pwysig fel addysg gynhwysol, sut y mae plant yn dysgu ac arferion addysg proffesiynol. Mae ein rhaglen yn un o’r ychydig rhai yn y DU sy’n benodol ar gyfer astudio addysg yn sector ysgolion cynradd.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael gwybodaeth am reolaeth yn yr ystafell ddosbarth, cynllunio gwersi, y cwricwlwm a dulliau addysgu. Mae’r meysydd hyn yn hanfodol ar gyfer creu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol i bob plentyn.
Mae’r radd Astudiaethau Addysg: Cynradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd o fewn y sector addysg. Er bod llawer o raddedigion yn dod yn athrawon ysgol gynradd, mae eraill yn dilyn rolau mewn iechyd a gwaith cymdeithasol, lle gallant roi eu gwybodaeth a’u sgiliau ar waith i gefnogi plant a theuluoedd.
Mae profiad ymarferol yn rhan hanfodol o’r cwrs hwn. Byddwch yn cael cyfleoedd ar gyfer lleoliadau addysgu lle gallwch roi eich dysgu ar waith mewn lleoliadau byd go iawn. Bydd y lleoliadau hyn yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn gweithio gyda phlant.
Dewiswch ein gradd Astudiaethau Addysg: Cynradd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau dysgwyr ifanc a llunio dyfodol addysg. Datblygwch eich sgiliau, ehangu eich gwybodaeth, a pharatoi ar gyfer gyrfa werth chweil mewn addysg gynradd.
Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cyfunol (ar y campws)
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno theori, polisi ac arfer mewn addysg gynradd, gan ddefnyddio addysgeg, seicoleg a chymdeithaseg. Mae yna bwyslais ar faterion cyfoes ac yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn ymchwil ar raddfa fach, gan feithrin dealltwriaeth ddofn o’r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer.
Bydd y rhaglen yn rhoi’r ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi sy’n berthnasol ar gyfer gweithio gyda phlant oedran ysgol gynradd, gan ystyried:
- Ble a sut mae plant yn dysgu?
- Beth yw’r rhwystrau i ddysgu y mae plant yn eu profi a sut y gellir eu goresgyn?
- Beth yw’r ffactorau allweddol sy’n cael effaith ar addysg gynradd yng Nghymru heddiw?
- Sut mae oedolion yn gweithio’n fwyaf effeithiol gyda phlant mewn lleoliad addysgol?
- Beth yw manteision addysg ddwyieithog?
- Beth yw’r sgiliau pwysicaf sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer y dyfodol?
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini addysg drwy ystod amrywiol o fodiwlau sy’n archwilio datblygiad addysgol, theori ac ymarfer dysgu a hawliau plant.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar addysg gynhwysol a sgiliau ymarferol. Yn ogystal, bydd modiwl sy’n canolbwyntio ar ddarllen, ysgrifennu a rhifyddeg yn gwella eich dealltwriaeth o bynciau craidd addysg gynradd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, a fydd yn eich galluogi i ymchwilio’n fanwl i bwnc o ddiddordeb. Byddwch hefyd yn archwilio astudiaethau a phynciau cwricwlwm ac asesu, gan edrych ar yr effeithiau ar brofiadau dysgu plant.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
88 o bwyntiau tariff UCAS
-
e.e. Safon Uwch: B/A, BTEC: DMM, IB: 29
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ‘Derbyniadau Cyd-destunol’.
Os nad oes gan eich cymhwyster gywerthedd tariff UCAS, nid oes gennych gymwysterau mynediad traddodiadol neu mae gennych ddysgu blaenorol achrededig, cysylltwch â’n tîm ymholiadau gan ein bod yn seilio ein penderfyniadau ar ein hasesiad ein hunain o gymwysterau, gwybodaeth a phrofiad gwaith blaenorol.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
- Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd faglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o radd faglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd arnoch eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
-
-
Mae myfyrwyr yn cyflwyno gwaith mewn amrywiaeth o ffyrdd i’w galluogi i ddatblygu eu sgiliau tîm, yn ogystal â sgiliau dysgu annibynnol.
Ymhlith yr asesiadau mae senarios seiliedig dysgu problemau, cyflwyniadau poster academaidd, portffolios, aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar unigol.
Does dim arholiadau.
-
Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn.
Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).
Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, am brintio a chopi ac am ddeunydd ysgrifennu ac am gynhyrchu traethodau, aseiniadau a thraethodau hir sydd eu hangen i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.
*Dim ond ar Lefel 6 y mae angen DBS os yw myfyrwyr yn dewis cynnal eu hymchwil prosiect annibynnol gyda phlant a phobl ifanc.
Mae angen i fyfyrwyr gael cyfwerth ag 80 awr o brofiad ymarferfol mewn lleoliad megis ysgol, mewn lleoliad gwirfoddol, neu gydag asiantaethau eraill fel iechyd neu ofal cymdeithasol, neu leoliadau dysgu awyr agored. Fe fydd hyn yn golygu costau teithio a lluniaeth.
Mae’r rhaglen yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y Ddisgyblaeth yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain, ac ar gyfer rhai ymweliadau, ddillad addas ar gyfer yr awyr agored.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
- Canada: Coleg Camosun
- Y Ffindir: Prifysgol Humak
- Y Ffindir: Prifysgol Humak (Hydref)
- Y Ffindir: Prifysgol Humak (Gwanwyn)
- Unol Daleithiau: Coleg Presbyteraidd, De Carolina
- Unol Daleithiau: Prifysgol Rio Grande, Ohio
-
Caiff ein graddedigion eu cyflogi mewn amrywiaeth o leoliadau.
Oherwydd natur ein gradd mae gan ein graddedigion y sgiliau, y rhinweddau, y dealltwriaeth a’r galluoedd i weithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys y sector addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a galwedigaethau tebyg, yn ogystal â’r sector gwirfoddol.
Mae ein gradd yn berthnasol i’r graddedigion hynny sy’n dymuno hyfforddi i fod yn athrawon trwy’r llwybr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gan fod y radd yn rhoi’r cefndir a’r dyfnder dealltwriaeth ynghylch y materion hyn sy’n berthnasol i blant ysgol gynradd. Mae graddedigion eraill wedi parhau â’u hastudiaethau gydag amrywiaeth o raglenni meistr.