Skip page header and navigation

Sinology (BA Anrh)

Llambed
3 Years Full-time

Mae’r rhaglen yn archwilio crefyddau, ieithoedd a thestunau hynafol Tsieina, ac mae’n cyd-fynd ag amgylchedd academaidd sydd wedi rhoi lle i astudiaethau aml-ffydd ac amlddiwylliannol ers erioed.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Years Full-time

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Why choose this course?

01
Bydd y rhaglen yn gwneud cyfraniadau sylweddol at warchod yr iaith Tsieineaidd hynafol hon, ei diwylliant a’i threftadaeth, trwy ei defnyddio’n ymarferol​.
02
Bydd myfyrwyr yn meithrin gweledigaeth a dealltwriaeth ddofn o werthoedd aml-ffydd ac amlddiwylliannol ehangach.
03
Darperir cymorth ieithyddol priodol ar gyfer Saesneg a Tsieinëeg trwy gyfrwng amrywiol diwtorialau, gweithdai a seminarau.

What you will learn

Gyda’r Celfyddydau Breiniol yn sail iddi, mae PCYDDS wedi bod yn sefydliad sy’n barod i dderbyn gweledigaethau sy’n deillio o astudiaethau testunol, meddwl beirniadol, astudiaeth ieithyddol ac ystyried y cwestiynau mawr sy’n wynebu dynoliaeth: hynny yw, cwestiynau yn ymwneud â ffydd, ysbrydolrwydd, ystyr a phwrpas bywyd yn ei hanfod.

Mae gan Lambed hanes cyfoethog o fod yn agored i syniadau newydd ac amrywiaeth; mae’n fan lle gellir trafod a gwerthuso gwahanol werthoedd, syniadau, ieithoedd a chredoau’n agored mewn lleoliad academaidd parchus a chefnogol. 

Mae’r rhaglen yn anelu at addysgu a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth wrth astudio testunau hynafol Tsieina a’i hiaith a’i diwylliant hynafol.

Trwy ganolbwyntio ar lefel uchel o sgiliau darllen a dehongli testunau Tsieineaidd traddodiadol, bydd myfyrwyr yn meithrin gweledigaeth a dealltwriaeth ddofn o werthoedd aml-ffydd ac amlddiwylliannol ehangach yn ogystal â chyfrannu at eu taith ysbrydol eu hunain.

Bydd y rhaglen yn gwneud cyfraniadau sylweddol at warchod yr iaith Tsieineaidd hynafol hon a’i diwylliant a’i threftadaeth, trwy gymwysiadau ymarferol​.

Nod y rhaglen fydd meithrin myfyrwyr o’r radd flaenaf; myfyrwyr sydd â sgiliau lefel uwch mewn Tsieinëeg hynafol a chyfieithu a dehongli testunol a chyd-destunol; myfyrwyr sydd â lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth o athroniaeth, codau moesol ac arferion cymdeithasol Tsieina hynafol; a myfyrwyr a all ddod yn athrawon yn eu rhinwedd eu hunain er mwyn addysgu eraill am y testunau hynafol hyn.

Cyflwyniad i Foesoldeb a Moeseg Tsieineaidd Draddodiadol mewn Addysg I

(20 credydau)

Saesneg Sinolegol I: Hanes Ysgolheictod Glasurol Tsieineaidd

(20 credydau)

Astudiaeth Graffigol ac Etymolegol o Sinogramau

(20 credydau)

Y Pedwar Llyfr

(30 credydau)

Darlleniadau Dethol o'r Canon Barddoniaeth

(30 credydau)

Saesneg Sinolegol I: Hanes Ysgolheictod Glasurol Tsieineaidd

(20 credydau)

Moesoldeb a Moeseg Tsieineaidd Draddodiadol mewn Addysg II

(20 credydau)

Saesneg Sinolegol II: Cyfieithu Llenyddiaeth Daoaidd

(20 credydau)

Trafodaeth Ddiwylliannol a Deallusol ar y Cofnodion Defodol

(30 credydau)

Seinyddiaeth

(20 credydau)

Y Daodejing

(30 credydau)

Saesneg Sinolegol I: Hanes Ysgolheictod Glasurol Tsieineaidd

(20 credydau)

Addysg Foesol a Moesegol Tsieineaidd Draddodiadol III

(20 credydau)

Canon Newid

(20 credydau)

Eglureg

(20 credydau)

Traethawd Hir: Sinoleg

(40 credydau)

Saesneg Sinolegol III – Cyfieithu Llenyddiaeth Gonffiwsaidd a Bwdhaidd

(20 credyd)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Further information

  • Mae strategaeth asesu’r rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Nod asesiadau ffurfiannol yw defnyddio ffurf ‘asesiad troellog’, gan annog myfyrwyr i ailedrych ar safonau a drafodwyd mewn modiwlau blaenorol a’u rhoi ar waith.

    Mae asesiadau troellog yn cael ei gefnogi ymhellach gan y ffaith bod pob modiwl yn canolbwyntio ar ymgysylltu beirniadol â thestunau canonaidd. Bydd sgiliau a ddatblygwyd mewn modiwlau cynharach yn cael eu hymarfer a’u mireinio mewn modiwlau diweddarach.​

    Mae’r rhan fwyaf o’r modiwlau’n cynnwys asesiad ymarferol, sef cyflwyniad yn Saesneg. Nod y cyflwyniad yw sicrhau datblygiad parhaus sgiliau iaith Saesneg y garfan, ond hefyd sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn sefyllfaoedd sy’n debygol o fod yn debyg i’w sefyllfaoedd gwaith fel athrawon diwylliant Tsieina maes o law.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau