Skip page header and navigation

Gofal (CertHE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser
Cyfweliad

Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gofal ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn berffaith i unrhyw un sydd am ddechrau gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol  sydd eu hangen ar gyfer  rolau gofal cymdeithasol. Mae’n rhaglen hyblyg sy’n croesawu corff myfyrwyr amrywiol, gan gynnwys y rhai heb gymwysterau traddodiadol.

Byddwch yn ymgymryd â dysgu damcaniaethol a hyfforddiant sgiliau ymarferol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn deall y cysyniadau y tu ôl i arferion gofal ac yn ennill profiad ymarferol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fagu eich hyder a’ch paratoi ar gyfer y cyfrifoldebau proffesiynol y byddwch yn dod ar eu traws yn eich gyrfa.

Mae’r ffocws ar gyflogadwyedd mewn sector sydd â galw mawr am weithwyr proffesiynol hyfforddedig. Byddwch yn astudio mewn amgylchedd dysgu cefnogol  sy’n gwerthfawrogi cydweithredu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo’n rhan o gymuned ac yn barod i weithio yn nhirwedd iechyd a gofal cymdeithasol esblygol y DU.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych sylfaen gyflawn mewn ymarfer proffesiynol. Byddwch yn barod i ymgymryd â rolau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae’r cwrs hwn yn gam tuag at astudiaethau academaidd pellach neu yrfa werth chweil mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
156S
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
Cyfweliad

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Rydym yn cynnig ymagwedd dysgu hyblyg fel y gallwch weithio, gofalu am eich anwyliaid a ffitio’r brifysgol yn eich bywyd.
02
Rydym yn ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi ddod o hyd i’r swydd a gyrfa rydych yn eu ceisio.
03
Rydym yn darparu cymorth ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd, yn cynnwys clybiau sgiliau astudio ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth ar gyfer dysgu ac addysgu ar y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gofal yn canolbwyntio ar gyfuno dysgu damcaniaethol â sgiliau ymarferol. Ein nod yw meithrin hyder a chyflogadwyedd mewn amgylchedd dysgu cefnogol  sy’n gwerthfawrogi cydweithredu, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Gofal mewn Cyfathrebu

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Llwyddiant mewn Addysg Uwch

(20 credydau)

Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil

(20 credydau)

Datrys Problemau mewn Gofal Iechyd

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Cyfweliad 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

  • Asesir modylau trwy amrywiaeth o waith cwrs, gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios, ac asesiadau ymarferol.

  • Efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu costau teithio ar gyfer lleoliadau neu weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned, lle bo hynny’n berthnasol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.   

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.  

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.   

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.   

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer rolau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda llwybrau at waith yn y GIG, gwaith cymorth, gofal cartref, a mwy. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall myfyrwyr ddilyn astudiaeth bellach ym Mhortffolio Gofal Iechyd Y Drindod Dewi Sant.

Mwy o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Chwiliwch am gyrsiau