Skip page header and navigation

Athroniaeth (Rhan amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Rhan amser

Mae ein rhaglen athroniaeth yn gwrs dysgu o bell sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb cyffredinol ym meysydd craidd athroniaeth.

Mae’n diwallu anghenion graddedigion athroniaeth sy’n dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o athroniaeth yn ogystal â graddedigion mewn pynciau perthynol sy’n ceisio datblygu dealltwriaeth soffistigedig o ddadleuon athronyddol.

Gall myfyrwyr ddewis o blith ystod o fodiwlau sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol themâu a meysydd arbenigol, yn ogystal â datblygu eu prosiect traethawd hir eu hunain.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Ar-lein
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
1. Mae'r rhaglen yn seiliedig ar gronfa o arbenigedd sydd wedi’i sefydlu mewn materion cysylltiedig ac mae'n cwmpasu ystod o brosiectau yr ymgymerwyd â hwy dros nifer o flynyddoedd
02
2. Mae'r staff yn weithgar ym maes ymchwil ac yn mynychu cynadleddau academaidd yn rheolaidd
03
3. Cyfle i astudio meysydd blaengar o ddiddordeb academaidd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn o Athroniaeth, mae’r cwrs Athroniaeth (MA) yn diwallu anghenion graddedigion sy’n dymuno parhau gyda’u hastudiaethau yn dilyn eu gradd gyntaf mewn Athroniaeth neu ddisgyblaeth berthynol, e.e. paratoi ar gyfer gradd ymchwil.

Mae’r rhaglen hefyd yn diwallu anghenion athrawon Athroniaeth Safon Uwch, gan fod ei modiwlau’n gorgyffwrdd â rhannau craidd cwricwlwm Athroniaeth Safon Uwch, megis Athroniaeth Crefydd a Moeseg.

Fodd bynnag, mae’r cwrs Athroniaeth (MA) yn ddigon eang i fod yn addas hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau ehangu eu hadnabyddiaeth a’u dealltwriaeth o athroniaeth fel y caiff ei hymarfer yn y byd Saesneg ei iaith heddiw.

Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o blith ystod o fodiwlau sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahanol themâu a meysydd arbenigol. Mae’r modiwlau wedi’u llunio o gwmpas arbenigeddau ymchwil ein staff academaidd, y mae pob un ohonynt yn weithgar ym maes ymchwil ac yn cyhoeddi eu myfyrdodau a’u syniadau’n rheolaidd.

Rhaglen fodiwlaidd yw’r cwrs Athroniaeth (MA). Yn Rhan I, mae myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl 30 credyd (un gorfodol, tri dewisol, sy’n dod i gyfanswm o 120 credyd). Yn Rhan II, mae gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu traethawd hir 15,000 o eiriau.

Gorfodol

Gwybodaeth, Rheswm, a Realiti

Dewisol

Athroniaeth Foesol
Yr Hunan: Dwyrain a Gorllewin
Islam Heddiw
Moeseg Gymhwysol

(30 credydau)

Athroniaeth Amgylcheddol
Y Corff a'r Meddwl: Descartes a Wittgenstein
Cyfarfyddiadau Rhyng-ffydd: Rhyngweithio Crefyddol mewn Byd Cymhleth
Profiad Crefyddol Heddiw

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol. 

  • Mae nifer o wahanol feysydd damcaniaethol ac ymarferol, cyd-destunau daearyddol penodol, a themâu a safbwyntiau hanesyddol yn sail i’r dysgu ar y cwrs Athroniaeth (MA). Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis chi. 

  • Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, fel y gallu i: ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol; cyflwyno dadleuon clir a chydlynol; cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn modd eglur.

    Yn fwy penodol, bydd y rhaglen yn denu myfyrwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, neu sydd eisoes mewn gwaith, mewn meysydd neu sectorau lle bydd dealltwriaeth o faterion athronyddol o fudd.

    Gall hyn gynnwys gweithwyr gwirfoddol, athrawon a hyfforddwyr, academyddion, asiantaethau a phrosiectau cymunedol a’r llywodraeth, rhwydweithiau rhyngddiwylliannol, aml-ffydd penodedig i feithrin cysylltiadau cymunedol, cynlluniau cymodi ac ailadeiladu gydag asiantaethau byd-eang amrywiol a chyrff sy’n lleddfu effeithiau trychineb.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau