Skip page header and navigation

Crefydd, Athroniaeth a Moeseg (Rhan amser) (BA Anrh)

Llambed
6 Mlynedd Rhan amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Nod ein rhaglen Crefydd, Athroniaeth a Moeseg yw meithrin ymwybyddiaeth feirniadol yn ein myfyrwyr o rolau crefyddau yn y byd hanesyddol a’r byd sydd ohoni, gan ddangos y prif ddatblygiadau yn hanes athroniaeth a dadleuon a damcaniaethau athronyddol allweddol i chi.  Bydd hyn yn eich addysgu i feddwl yn eglur, i ddadlau mewn ffordd sydd â strwythur a threfn, i gyflwyno safbwynt gydag awdurdod ac yn gryno, ac i gydnabod a rhoi lle i amrywiaeth o wrthddadleuon,  tra byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a fydd yn eich helpu gyda’ch dewisiadau o ran gyrfa. 

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio modylau a gynigir yn y rhaglen BA Athroniaeth.  At hyn, mae’r radd hefyd yn cynnig y cyfle i ymgyfarwyddo â manylion traddodiadau crefyddol ac i wneud cymariaethau rhwng credoau ac arferion gwahanol grefyddau, yn enwedig yng nghyd-destun byd sy’n dod i delerau â’i amrywiaeth ddiwylliannol a chrefyddol. Bydd y rhaglen yn archwilio rôl crefydd yn y byd ac yn astudio tarddiad a datblygiad traddodiadau crefyddol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Mlynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Addysgu ymdrochol arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un.
02
Lle i feddwl yn annibynnol a chyfleoedd i ddilyn eich diddordebau eich hunan.
03
Cyfle i gyfuno eich astudiaethau â modylau o bynciau eraill y Dyniaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen nid yn unig yn archwilio’r cwestiynau athronyddol a chrefyddol mawr, ond hefyd yn archwilio’r effaith mae dadleuon athronyddol, crefyddol a moesegol yn ei chael ar y byd cyfoes.

Bydd yn archwilio amrywiaeth eang o faterion hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol ac yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael nid yn unig â dadleuon oesol ond hefyd heriau cyfoes.

Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
  • Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
  • Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
  • Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar ba flwyddyn y cynigir y modylau.

Gorfodol 

Athroniaeth yr Hen Fyd

(20 credydau)

Rhyddid, Cydraddoldeb a Chyfiawnder: Cyflwyniad i Athronyddiaeth Wleidyddol

(20 credydau)

Archwilio Astudio Crefydd a Diwinyddiaeth

(20 credyd )

Gorfodol 

(Yn cynnwys modwl 20 credyd dewisol a gymerir o raglenni eraill yn y Dyniaethau)

Cyflwyniad i Foeseg
Y Cwestiynau Mawr

(20 credyd )

Dewisol A/B

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Cyrff Cymhleth: Cwestiynu Rhywedd, Crefydd a Rhywioldeb

(20 credyd)

Athroniaeth y Meddwl: Dynion, Anifeiliaid a Pheiriannau

(20 credyd)

Dewisol A/B

Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Metaffiseg ac Epistemoleg

(20 credydau)

Moeseg bywyd

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Crefyddau yn Affrica

(20 credyd)

Athroniaeth yr 20fed Ganrif

(20 credyd)

Dewisol A/B

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Cyrff Cymhleth: Cwestiynu Rhywedd, Crefydd a Rhywioldeb

(20 credyd)

Athroniaeth y Meddwl: Dynion, Anifeiliaid a Pheiriannau

(20 credyd)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

  • Dewisol A/B

    Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
    Metaffiseg ac Epistemoleg

    (20 credydau)

    Moeseg bywyd

    (20 credydau)

    Menywod a Chrefydd

    (20 credydau)

    Crefyddau yn Affrica

    (20 credyd)

    Athroniaeth yr 20fed Ganrif

    (20 credyd)

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 – 112 o bwyntiau UCAS. 

  • Asesir yn bennaf drwy aseiniadau gwaith cwrs.

  • Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys rolau o fewn addysg grefyddol a/neu astudiaeth ôl-raddedig. 

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau