Skip page header and navigation

Dehongli’r Beibl (Llawn amser) (MA)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Llawn amser

Mae’r MA mewn Dehongli’r Beibl yn rhaglen astudio o ansawdd uchel a gynigir gan arbenigwyr yn y maes Astudiaethau Beiblaidd. Trafodir cyd-destun a llenyddiaeth y Beibl o berspectif hanesyddol a chyfoes.

Mae gennym draddodiad hir a nodedig o ddarparu cyrsiau arbenigol mewn Astudiaethau Beiblaidd, tra bod ein staff yn cyhoeddi ymchwil sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Bu Diwinyddiaeth a Chrefydd yn rhan annatod o fywyd a’r addysgu academaidd ar gampws Llambed ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymptheg. Yr oedd yr addysgu mewn Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd ar y campws ymhlith y rhai cynharaf o’i fath ym Mhrydain a’r cyntaf yng Nghymru. Os ydych yn cofrestru ar ein rhaglen MA, byddwch yn ymuno â chymuned fyd-eang o fyfyrwyr sydd yn elwa ar draddodiad hir a chyfoethog o addysgu o’r safon uchaf.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gallwch ddewis o ystod eang o bynciau diddorol a addysgir gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigwyr ym maes Astudiaethau Beiblaidd.
02
Bydd myfyrwyr yn cyfranogi o ddiwylliant bywiog oherwydd yr ymchwil flaengar a gyhoeddir gan ein staff academaidd.
03
Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach, yn ogystal ag ystod o sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i’r gweithle.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd yn cynnig diwylliant ymchwil cyfoethog a bywiog, ac anogir ei myfyrwyr MA i gymryd rhan yn ei seminarau ymchwil.

Cynigir y rhaglen hon yn rhan amser drwy ddysgu o bell. Darperir holl gynnwys y modylau drwy Amgylchedd Dysgu Rhithiwr (Virtual Learning Environment, VLE) a bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth cyson gan eu tiwtoriaid, un ai un-wrth-un (ebost, Teams, ffôn) neu mewn grwpiau (drwy Teams) neu drwy fforwm trafod y VLE neu wikis.

Byddwn bob blwyddyn yn cynnal ysgol haf breswyl ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig. Caiff myfyrwyr y cyfle i gyfranogi mewn darlithoedd a seminarau ar amryw o bynciau ac i drafod gyda myfyrwyr ymchwil eraill.

Gorfodol

Traethawd Hir MA (Crefydd)

Dewisol

Efengyl Ioan
Y Beibl: Testun a Throsglwyddo
O'r Patriarchiaid i'r Proffwydi: Darllen a Derbyn
Athrawiaeth y Drindod
Diwinyddiaeth Wleidyddol

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Disgwylir y bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch). Eto I gyd, ystyrir pob cais ar sail cryfderau’r unigolyn ac felly gellid cynnig lle ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Mae’n bosibl y cynigir lle ar y Dystysgrif neu’r Diploma Ol-raddedig i ymgeiswyr a chanddynt gradd ail ddosbarth is neu ymgeiswyr heb radd y medrir uwchraddio i lefel Meistr os gwneir cynnydd addas.

  • Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byrion (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), adolygiadau, aseiniadau testunol, ac un traethawd estynedig 15,000 o eiriau.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau