Skip page header and navigation

Ymwybyddiaeth Ofalgar a Llesiant ar gyfer Ymarferwyr Proffesiynol (PGCert)

Dysgu o Bell
6 mis Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn cynnig y cam nesaf ar ôl cwblhau cwrs 8 wythnos, a chyfle i ddatblygu eich dysgu ym maes eich gweithgarwch proffesiynol, beth bynnag yw hynny.  Byddwch yn ystyried sut y gall ymagweddau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar at lesiant gyfoethogi ffyrdd personol, cyfundrefnol a chymunedol ehangach o fod yn yr 21ain Ganrif.  Er mai dysgu ar-lein ydyw, mae sesiynau galw heibio arfer wythnosol wedi’u llunio i greu ymdeimlad o gymuned ymhlith myfyrwyr, lle bynnag rydych chi.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
6 mis Llawn Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyflwynir y Dystysgrif drwy ddulliau dysgu cyfunol ac o bell, fel y gallwch fod yn rhan ohono ble bynnag yr ydych yn byw neu beth bynnag yw eich ymrwymiadau gwaith.
02
Nod sesiynau arfer galw heibio ar-lein wythnosol i feithrin ymdeimlad o gymuned a phrofiad a rennir.
03
Yn eich galluogi i gymryd eich diddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar i’r lefel nesaf, gan ei gymhwyso i’ch maes gwaith neu ddiddordeb mewn ffordd sy’n gallu ychwanegu gwerth at eich gweithgareddau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn ffocysu ar feysydd allweddol o arfer personol, arfer seiliedig ar drugaredd a diwylliant a chymunedau.  

Mae’n dechrau gyda’r unigolyn, yng nghyd-destun eu gweithle, yn ymestyn i ystyried ymagwedd seiliedig ar drugaredd ac yna’n ehangu i gynnwys diwylliant a chymunedau, gyda chynaliadwyedd yn ffocws drwyddi draw.

Mae’n ymgysylltu â’r arfer da ac unplygrwydd sy’n sail i ymagweddau at ymwybyddiaeth ofalgar, yn ogystal â’r agenda gwleidyddol ehangach lle bo ymwybyddiaeth ofalgar yn ceisio dylanwadu ar bolisi.

Mae’r rhaglen yn cysylltu theori, arfer ac ystyriaeth o effaith proffesiynol i gyfoethogi llesiant personol ac yn y gweithle.

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd.  

    Bydd cymwysterau galwedigaethau a phrofiad hefyd yn cael eu hystyried.

    Yn ogystal, rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau cwrs 8 wythnos o’r rhestr a ganlyn, (a all gael ei ddiweddaru):

    • Lleihau Straen yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR)
    • Mindfulness-based Cognitive Therapy (MBCT)
    • Sylfaeni Dotb
    • Ymwybyddiaeth Ofalgar  Tawelwch Meddwl mewn Byd Gorwyllt
    • Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Arweinwyr Addysg (MEL)
    • Y Presennol ar gyfer Oedolion

    Bydd rhaid bod ymgeiswyr sy’n ymgymryd â Modwl HBMW7001, Yr Ymarferydd Ystyriol (Ysgolion) hefyd wedi cael hyfforddiant mewn un o’r canlynol, (a allai gael ei ddiweddaru):

    • Addysgu dotb (Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion)
    • Addysgu pawsb (Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion)
    • Y Presennol
    • Ymwybyddiaeth Ofalgar i Bobl Ifanc
  • Nid oes dim arholiadau ar y rhaglen hon.  Llunnir asesiadau i alluogi myfyrwyr i arddangos eu dealltwriaeth academaidd yng nghyd-destun datblygiad personol a gweithgarwch proffesiynol.  Byddant yn cynnwys rhai o’r canlynol:

    • Astudiaeth Achos
    • Traethodau adfyfyriol
    • Aseiniad ysgrifenedig
    • Cyflwyniad
  • Bydd costau ychwanegol yn cynnwys prynu gwerslyfrau hanfodol a mynychu cynhadledd flynyddol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen hon yn galluogi i ymarferwyr proffesiynol ddyfnhau eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y maes hwn a’u cymhwyso i’r maes gwaith hwn.  Fel y cyfryw, gall gyfoethogi dilyniant gyrfaol ar adeg pan fo cynnydd yn y galw am arbenigedd mewn ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant mewn llawer o feysydd.

    Gall hyn gynnwys:

    • Addysg
    • Gwaith Ieuenctid
    • Y Sector Iechyd
    • Adnoddau Dynol
    • Cwnsela
    • Diwydiannau creadigol

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau