Skip page header and navigation

Diwinyddiaeth Gristnogol (Rhan amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Rhan amser

Diwinyddiaeth yw un o’r meysydd mwyaf cynhwysfawr ac eang y gellir eu hastudio. Er bod rhai yn tybio mai disgyblaeth ar gyfer clerigwyr yn unig yw diwinyddiaeth, mewn gwirionedd, mae’n mynd i’r afael â chwestiynau sydd o ddiddordeb i bawb yn y pen draw.  Pam rydyn ni’n bodoli? Beth yw bywyd da, a sut gallwn ni fyw bywyd da? A oes Duw? Ac os oes Duw, sut un yw Duw?


Mae diwinyddiaeth yn gofyn cwestiynau mawr dynoliaeth er mwyn deall ein bywydau bob dydd yn well. Mae diwinyddiaeth yn ddisgyblaeth unigryw gan ei bod yn drafodaeth ar bopeth. A bydd myfyrwyr sy’n astudio diwinyddiaeth yn PCYDDS yn cael y cyfle i astudio popeth – o hanes ac athroniaeth i theori a chymdeithaseg hermeniwtaidd, i ddiwylliant a moeseg.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
PCYDDS yw cartref y gyfadran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1822.
02
Mae gan y Brifysgol ddiwylliant ymchwil ôl-raddedig bywiog a gweithgar, yn enwedig ym maes Diwinyddiaeth a Chrefydd.
03
Cyflwynir y cwrs MTh mewn Diwinyddiaeth Gristnogol fel rhaglen astudio lawn-amser a rhan-amser ar gyfer dysgwyr o bell.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r MTh mewn Diwinyddiaeth Gristnogol yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio cwestiynau mawr dynoliaeth trwy fynd i’r afael â dysgeidiaeth a thraddodiadau’r eglwys Gristnogol. Ond mae’r rhaglen yn gyffredinol yn eangfrydig ac yn agored i bobl o bob cefndir crefyddol.


Cyflwynir y cwrs MTh fel rhaglen astudio dysgu o bell yn llawn amser ac yn rhan-amser.  Mae holl gynnwys y modiwlau ar gael trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol a bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau â chyswllt rheolaidd gyda’u tiwtoriaid modiwl, naill ai un i un (trwy e-bost, Skype, ffôn), mewn grwpiau (gan ddefnyddio cyfryngau megis Skype), neu drwy fforymau trafod modiwlau yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir neu wikis. 


Yn Rhan I, mae myfyrwyr yn astudio un modiwl gorfodol 30 credyd a thri modiwl dewisol 30 credyd (cyfanswm o 120 credyd). 


Yn Rhan II, mae myfyrwyr yn ymgymryd â thraethawd hir 15,000 o eiriau o dan arweiniad academydd profiadol sydd â phrofiad blaenorol o waith ymchwil ym maes diwinyddiaeth Gristnogol. P’un ai eich bod yn awyddus i ddatblygu a gosod sylfaen ar gyfer ymchwil ddoethurol bellach, neu ddim ond eisiau porthi eich chwilfrydedd, mae’r traethawd hir yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ac archwilio eich diddordebau ymchwil eich hun.
 

Gorfodol

Astudio Diwinyddiaeth

Dewisol

Profiad Crefyddol Heddiw
Islam Heddiw
Efengyl Ioan
Y Beibl: Testun a Throsglwyddo
O'r Patriarchiaid i'r Proffwydi: Darllen a Derbyn
Athrawiaeth y Drindod
Diwinyddiaeth Wleidyddol
Cysylltiadau Cristnogol-Mwslimaidd: Testunau'r Gorffennol a'r Presennol
Mynachlogydd a'r Byd: Astudiaethau Hanes Sistersaidd yr Oesoedd Canol

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol.


    Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 
     

  • Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byr (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), dadansoddiadau cymharol, adolygiadau a gwerthfawrogiad llenyddol, aseiniadau byr, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.

  • Gwneir amcangyfrifon ar y dybiaeth y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Cynlluniwyd y rhaglen i ddenu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau cyffredinol a’u sgiliau sy’n benodol i’r pwnc. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar i symud ymlaen i weithio ar lefel 7 yn eu maes astudio arbenigol ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym myd addysg, y weinidogaeth ac ymchwil.


    Cyfleoedd Gyrfa:
    •    Unrhyw yrfa sy’n ymwneud ag astudiaethau Cristnogol neu Ddiwinyddiaeth
    •    Addysgwyr hanes neu addysg grefyddol
    •    Hyfforddi gweinidogion ac arweinwyr yn yr Eglwys Gristnogol
    •    Darpar academyddion ac ymchwilwyr proffesiynol

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau