Skip page header and navigation

Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy (Rhan amser) (PGDip)

Llambed
24-60 Mis Rhan amser

Mae’r cwrs MA Dinasyddiaeth Fyd-eang ac Arweinyddiaeth Gynaliadwy yn rhaglen ryngddisgyblaethol a baratowyd i gynnig profiad dysgu unigryw i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau llythrennedd ac arweinyddiaeth rhyngddiwylliannol ac i fynd i’r afael â heriau allweddol yr 21ain ganrif.

Mae’r rhaglen arloesol hon, a ddatblygwyd rhwng Academi Fyd-eang Cymru a’r Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, yn defnyddio cyd-destun rhyngddisgyblaethol gwaith y Brifysgol i alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gymdeithasol o Ddinasyddiaeth Fyd-eang trwy ofyn cwestiynau am rymuso ac arwain, naratif hanesyddol a chymdeithasol a diwylliant, a hunaniaeth a deialog.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
24-60 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn ymwneud ag ystod eang o bynciau i wynebu’r heriau allweddol i gymdeithas yn ein byd cyfoes.
02
Byddwch yn archwilio heriau allweddol yr 21ain ganrif o sawl safbwynt, ac yn datblygu dealltwriaeth o sut i ryngweithio ac ymgysylltu â gwahanol ddiwylliannau o bob rhan o’r byd.
03
Byddwch yn cymryd rhan mewn dysgu cydweithredol gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fynd i’r afael yn feirniadol â nifer o broblemau’r 21ain ganrif, fel yr angen am Ddinasyddiaeth Fyd-eang wydn, Grymuso ac Arwain, Hanesion Dadleuol, ac Agweddau Beirniadol at Ddiwylliant.  Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, fel llythrennedd a sgiliau arwain rhyngddiwylliannol.

I raddau helaeth, mae’r modiwlau’n cymryd ymagwedd ddyniaethol feirniadol i faterion sy’n berthnasol i ddinasyddiaeth fyd-eang yn y byd cyfoes, gan archwilio a mabwysiadu nifer o fframweithiau beirniadol er mwyn archwilio pynciau fel gwaddol trais, gwladychu, dirywio amgylcheddol, a dadleoli cymdeithasol. Mae modiwlau unigol ac elfennau o’r prosiect yn ymsefydlu’r ymagwedd hon o fewn meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr.

Mae gogwydd beirniadol a dyniaethol y rhaglen yn cynnig agwedd unigryw ar yr hyn sy’n cael ei gynnig gan y Brifysgol yn y maes hwn, ac yn datblygu ymhellach y gwaith ymchwil ac addysgu cryf ar y lefel hon yn yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau. Mae’r radd hon yn mynd ati i geisio ymgysylltu â chymunedau/unigolion amrywiol i ddatblygu sylfaen ar gyfer gwaith rhyngddisgyblaethol sydd, yn ein barn ni, yn hanfodol ar gyfer y byd cynaliadwy a chytûn sydd ohoni ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y rhaglen hon yn denu myfyrwyr o gefndiroedd a diddordebau amrywiol ac sydd ag ystod o raddau israddedig, gan ganolbwyntio’n benodol ar alluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig gyda PCYDDS. Mae’r radd hon yn cynnig ateb i raddedigion a myfyrwyr aeddfed rhyngwladol sy’n ceisio datblygu dealltwriaeth fanwl o natur ryngddisgyblaethol Dinasyddiaeth Fyd-eang a materion cysylltiedig, ac sy’n ceisio deall sut mae gwahanol agweddau ar eu profiad bywyd yn gysylltiedig ac yn rhyng-gysylltiedig.

Mae’r rhaglen hon yn defnyddio ymrwymiadau’r Brifysgol i wireddu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (2015), i wreiddio Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â bod yn gydnaws â Strategaeth Weithredol UNESCO ar gyfer Ieuenctid (2021-27) a’r Strategaeth Tymor Canolig (2022-29) o ran darpariaeth a chynnwys y rhaglen.

Wrth gyflawni’r ymrwymiadau hyn, mae’r rhaglen yn gwneud defnydd helaeth o gyd-destun rhyngddisgyblaethol yr hyn a gynigir gan yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ar hyn o bryd, gan sicrhau ei bod yn gydnaws â datblygiadau yn y Sefydliad ar gyfer Deialog Rhyng-ffydd a Rhyngddiwylliannol, Clymblaid Gwyddoniaeth Cynaliadwyedd Bridges UNESCO, Canolfan Tir Glas a Chanolfan Cydnerthedd a Harmoni Cymru, a Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch sydd newydd ei ddatblygu. Yn ogystal â’r canolfannau rhagoriaeth newydd hyn, mae’r rhaglen yn gwneud defnydd o gryfderau ymchwil presennol ym maes y Dyniaethau, gan gynnwys mewn meysydd yn ymwneud â chynaliadwyedd, arweinyddiaeth, heddwch byd-eang, a deialog rhyngddiwylliannol a rhyng-ffydd.

Gorfodol

Dinasyddiaeth Fyd-eang

(30 credydau)

Grymuso ac Arwain

(30 credydau)

Dewisol

Trafod Naratifau Cymdeithasol a Hanesyddol

(30 credydau)

Diwylliant, Hunaniaeth, a Deialog

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch); er hynny, mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Bydd asesiadau o fewn modiwlau yn darparu ar gyfer ystod o allbynnau gan gynnwys traethodau traddodiadol, ond hefyd datblygiad methodoleg prosiect ymchwil, cyflwyniadau seminar, portffolios a gwaith ysgrifenedig o genres eraill.  Yn ogystal, bydd ffocws cryf ar waith grŵp, naill ai fel deunydd ffurfiannol neu ddeunydd wedi’i asesu, yn sicrhau craidd cryf a chydlynus wrth gyflwyno’r rhaglen.

  • Gallai myfyrwyr wario hyd at £200 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Nod y rhaglen hon yw datblygu annibyniaeth ddeallusol ac ymgysylltiad beirniadol myfyrwyr mewn perthynas â dinasyddiaeth fyd-eang ac arweinyddiaeth gynaliadwy.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau