Skip page header and navigation

Astudiaethau Heddwch (Rhan amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
24 - 60 Mis Rhan amser

Mae’r rhaglen hon ymhlith yr ychydig iawn o gyrsiau lefel meistr sydd ar gael yn y byd Saesneg ei iaith sy’n cyfeirio astudiaethau heddwch byd-eang at rinweddau heddychlondeb, cyfiawnder cymdeithasol, lles cyfannol, llywodraethu da, ac uniondeb ecolegol.

Mae’r cwrs yn diwallu’r angen cynyddol am gysyniadau cadarnhaol o heddwch, ac i ddeall natur fyd-eang meithrin heddwch mewn cyd-destunau cymhleth a deinamig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
24 - 60 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwricwlwm yn rhyngddisgyblaethol ac mae’n annog myfyrwyr i feddwl y tu hwnt i ystyried heddwch yn nhermau absenoldeb trais a gwrthdaro yn unig.  Ei nod yw ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o’r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i heddwch cadarnhaol a phennu cwestiynau da ar gyfer ymchwiliadau sy’n ymwneud â phrosesau cymunedol, arferion sefydliadol, polisïau cyhoeddus, ac amodau strwythurol a all gyfrannu at fyd mwy heddychlon.

Mae’r rhaglen yn sicrhau bod y ffocws o ran dysgu’r myfyrwyr wedi’i wreiddio yn eu diddordebau personol a phroffesiynol ac yn ceisio hwyluso ymchwil empirig o fewn disgyblaethau lluosog, megis astudiaethau deialog, lles, trawma hanesyddol ac iacháu ar y cyd, trawsnewid gwrthdaro, ysbrydolrwydd, cytgord, ecoleg, a dinasyddiaeth fyd-eang.

Mae’r rhaglen yn fwriadol yn creu cymuned ddysgu ymhlith y myfyrwyr, ac yn ymgorffori dulliau addysgegol allweddol sy’n ymwneud â chysyniadau cadarnhaol o heddwch, megis deialog, gwrando, cyfoethogi perthynol, ac arferion lles, yn y broses o addysgu a dysgu. Mae hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a galluoedd ymchwil sy’n cyfrannu at wybodaeth am heddwch strwythurol, trawsnewid cymdeithasol, ac adfywio cymunedol.

Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch (GHfP) sy’n gweinyddu’r cwrs MA mewn Astudiaethau Heddwch. Mae Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn ymroddedig i heddwch cadarnhaol ac mae gan y tîm craidd flynyddoedd lawer o brofiad mewn dulliau arloesol o feithrin heddwch mewn gwahanol rannau o’r byd. Mae Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch hefyd wedi’i ddynodi gan Sector Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol UNESCO i weithredu Menter Iacháu ar y Cyd UNESCO, gan gynnwys cyflwyno deialog rhwng cenedlaethau, gweithdai iacháu ar y cyd ac Academi Arweinwyr y Dyfodol.

Mae’r rhaglen felly yn elwa o ymchwil, gwybodaeth a chyhoeddiadau Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch ar heddwch cadarnhaol, lles, deialog rhyngddiwylliannol a rhyng-grefyddol, iacháu ar y cyd, adfywio cymunedol a llywodraethu da.

Drwy gydol y rhaglen, bydd Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn gallu arddangos gwaith allweddol y Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau, ymdrechion ei Athrawon Ymarfer i feithrin heddwch ar draws y byd, a darparu cyfleoedd i raddedigion fynd i’r afael â heriau cymhleth yr 21ain Ganrif yn feirniadol. 

Gorfodol

Heddwch Cadarnhaol: Damcaniaeth ac Arfer

(30 credydau)

Heddwch o Safbwyntiau Lles: Damcaniaeth ac Arfer

(30 credydau)

Dewisol

Ecoleg ac Ysbrydolrwydd

(30 credydau)

Cytgord: Theori ac Arfer

(30 credydau)

Grymuso ac Arwain

(30 credydau)

Trafod Naratifau Cymdeithasol a Hanesyddol

(30 credydau)

Diwylliant, Hunaniaeth, a Deialog

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir; cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

    • Traethodau
    • Prosiectau Grŵp
    • Traethawd Hir 
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau