Skip page header and navigation

Ecoleg ac Ysbrydolrwydd (Rhan amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
24 Mis Rhan amser

Ar yr adeg hon yn hanes dyn, mae llawer o academyddion, ymgyrchwyr, arweinwyr a meddylwyr yn galw am ailystyried y naratifau diwylliannol a’r gwerthoedd ysbrydol sy’n cynnal ein bodolaeth ar y blaned ar frys.

Mewn ymgais i ddargyfeirio’r trywydd presennol o ‘gynnydd’ a ‘datblygiad’ tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a theg, mae hyn yn gofyn am ystyriaeth wrthrychol a beirniadol o’n perthynas a’n cysylltiad â’r byd naturiol, â’r bobl a’r cymunedau o’n cwmpas ac â’r union gredoau a gwerthoedd sy’n llywio ein gweithredoedd unigol a chyfunol.

Mae’r rhaglen hon mewn Ecoleg ac Ysbrydolrwydd yn archwilio’r berthynas rhwng ysbrydolrwydd, crefydd, athroniaeth ar y naill law, ac ecoleg ar y llaw arall. Gallwn ofyn ai ysbrydolrwydd a chrefydd sy’n achosi’r argyfyngau ecolegol presennol, neu gallwn gynnig datrysiadau i’r argyfyngau ecolegol systemig sydd ohoni.

Rydym yn archwilio’r defnydd ysbrydol o ecoleg — ac yn gofyn a oes dimensiwn ysbrydol iddi.  Fel rhaglen o astudiaethau ôl-raddedig, gan ddibynnu ar y modiwlau yr ydych chi’n eu dewis, mae’r cwrs hwn yn cynnig taith bersonol drwy brofiad — cyfle i chi archwilio eich ysbryd mewnol eich hun yn fanwl a sut mae’n berthnasol i’ch gweithredoedd yn y byd allanol.

Byddwch yn cyfuno meddwl beirniadol a chywirdeb academaidd gydag archwiliad o’ch gwerthoedd, eich credoau a’ch naratifau personol eich hun a sut mae’r rhain yn cyd-fynd ac yn canfod ymdeimlad o le a dilysrwydd yn eich bywyd a’ch gwaith.

Dyma gyfle i chi ystyried eich perthynas gyda’n planed — ac wrth wneud hynny archwilio’r datrysiadau ar y cyd a phersonol i fyw mewn byd mwy cynaliadwy, gwydn, cysylltiedig, hardd a chytûn.

Un nodwedd unigryw o’r rhaglen hon yw ei bod yn ymestyn y cysyniad o’r amgylchedd i amgylchedd cosmig ehangach, gan gynnig y cyfle i astudio modiwlau sy’n ein cysylltu â’r awyr, y planedau a’r sêr.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
24 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Fel myfyriwr llwyddiannus, byddwch wedi dod i ddeall y berthynas rhwng ecoleg ac ysbrydolrwydd mewn cymdeithas, drwy hanes ac mewn amrywiaeth o ddiwylliannau.
02
Fel myfyriwr llwyddiannus, byddwch wedi meithrin sgiliau ymchwil ansoddol.
03
Fel myfyriwr llwyddiannus, byddwch wedi datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a’r gallu i ffurfio dadleuon sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes pwnc.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Fel myfyriwr ar y cwrs Ecoleg ac Ysbrydolrwydd (MA), byddwch yn:

  • Astudio ar gyfer gradd Meistr achrededig a gydnabyddir yn rhyngwladol.
  • Rhan o un o brifysgolion mwyaf anrhydeddus y DU.
  • Cael y cyfle i weithio gartref heb yr angen i ymweld â’r DU.
  • Cael mynediad at filoedd o bapurau academaidd a llyfrau ar-lein.
  • Rhan o gymuned ryngwladol o fyfyrwyr o’r un anian.
  • Astudio gyda thiwtoriaid arbenigol sydd i gyd yn meddu ar PhD yn y maes pwnc, neu sy’n gweithio tuag ato.
  • Cymryd rhan mewn dadleuon ynghylch byd natur a rôl ddiwylliannol ecoleg ac ysbrydolrwydd.
  • Dewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol: Athroniaeth Amgylcheddol, Crefydd a’r Amgylchedd, Daearyddiaeth Sanctaidd, Awyrluniau, Cosmoleg ac Archeoleg, Crefydd Serol, Disgwrs Nefol, Yr Awyr a’r Seice, a Cosmoleg, Hud and Dewiniaeth. 
  • Mynd i’r afael â chysyniadau fel gofod cysegredig. 
  • Meithrin data cyfoes a fydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ysgolheigaidd o’n safle ni ar ein planed.
  • Cael cyfle i fynd ar drywydd eich ymchwil annibynnol eich hun o dan oruchwyliaeth arbenigol.

Gorfodol

Ecoleg ac Ysbrydolrwydd

(30 credydau)

Dewisol

Daearyddiaeth Sanctaidd

(30 credydau)

Cosmoleg, Hud and Dewiniaeth

(30 credydau)

Awyr Sanctaidd

(30 credydau)

Athroniaeth Amgylcheddol
Profiad Crefyddol Heddiw
Ymchwilio Cosmolegau Cyfoes

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Dylid anfon ymholiadau cychwynnol at Gyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Nicholas Campion (n.campion@pcydds.ac.uk). Rhowch wybod i ni am eich cefndir, gan gynnwys unrhyw gymwysterau academaidd.

    Fel arfer mae angen gradd gyntaf dda (2:1 neu gyfwerth i raddau’r DU) mewn maes priodol yn y celfyddydau/y dyniaethau/gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys Hanes, Astudiaethau Diwylliannol, Cymdeithaseg, Seicoleg, Athroniaeth, Anthropoleg, Diwinyddiaeth a/neu Astudiaethau Crefyddol.

    Fodd bynnag, gan fod ymchwil i Ecoleg ac Ysbrydolrwydd o reidrwydd yn rhyngddisgyblaethol, rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd eraill, yn enwedig y gwyddorau, ar yr amod eich bod yn gallu dangos bod gennych y sgiliau ysgrifennu angenrheidiol. Yn yr achos hwn, byddai bod ag adnabyddiaeth gyffredinol ynglŷn ag athroniaeth a/neu ddamcaniaeth feirniadol yn fanteisiol, er nad yw’n hanfodol.  Dylech gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen a all ofyn am gael gweld sampl o’ch gwaith ysgrifenedig.

    Bydd ymgeiswyr sydd â gradd 2:2 (system raddio’r DU) fel arfer yn cael eu hystyried ar gyfer cwrs Diploma Ôl-raddedig a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer symud ymlaen i’r MA ar ôl cwblhau’r chwe modiwl a addysgir yn llwyddiannus. Fodd bynnag, bydd unrhyw gymwysterau neu brofiad proffesiynol perthnasol yn cael eu hystyried, felly cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

    Fel rhan o ddull cynhwysol o ddysgu rydym yn annog ceisiadau o bwyntiau mynediad anhraddodiadol neu gan rai heb gefndir addysgol cydnabyddedig ond sydd â chymwysterau proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol perthnasol sylweddol. Mewn achos fel hyn, gall Cyfarwyddwr y Rhaglen ofyn am sgwrs dros y ffôn / Skype neu ofyn am sampl o waith ysgrifenedig er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni ei botensial ar y cwrs.

    Dylai myfyrwyr sydd â gradd o brifysgolion y tu allan i’r DU, nad ydynt yn defnyddio system raddio’r DU, gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

  • Traethodau yw’r prif ddull asesu yn Rhan I (dau i bob modiwl). Caiff modiwl Rhan II ei asesu drwy draethawd hir 15,000 o eiriau.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • TBC

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau