Skip page header and navigation

Astudio Crefyddau (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
4 Blynedd Rhan amser

Mae gan Astudio Crefyddau (MA) bwyslais methodolegol penodol sy’n manteisio ar arbenigedd y staff. Nod y rhaglen yw peidio â chanolbwyntio ar unrhyw draddodiad penodol, ond ei gwneud yn bosibl ymgysylltu â gwahanol draddodiadau mewn modd sy’n rhydd, sy’n deg, sy’n gywir ac sy’n agored i’w gywiro.

Mae i’r rhaglen hon ffocws penodol ar grefyddau cyfoes. Mae amrywiaeth ei fodylau, sy’n archwilio gwahanol agweddau ar grefydd heddiw, wedi ei llunio gan aelodau staff sydd â chefndir mewn cymdeithaseg, anthropoleg ac astudiaethau crefyddol. Mae’r modylau yn galluogi myfyrwyr i archwilio nid yn unig yr agweddau damcaniaethol, ond hefyd yr agweddau byw ymarferol ar ffydd ac ymarfer mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae’r MA Astudio Crefyddau yn Y Drindod Dewi Sant yn rhaglen unigryw sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil ar gyfer y posibilrwydd yr hoffent barhau ar PhD ond hefyd yn eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn Addysg Grefyddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Pwyslais methodolegol penodol sy’n manteisio ar arbenigedd y staff.
02
Mae pob un o’n staff yn weithgar ym maes ymchwil, ac wrth law gydol yr amser i’ch arwain yn y cyfeiriad cywir.
03
Cyfle i astudio amrywiaeth eang o wahanol draddodiadau crefyddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Fel arfer, bydd myfyrwyr yn dechrau’r MA Astudio Crefyddau gyda’r modwl gorfodol ar Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau. Bydd yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth iddynt o’r meysydd allweddol wrth astudio crefyddau. Wedyn caiff y myfyrwyr ddewis eu tri modwl arall o restr o fodylau dewisol. Bydd y modylau hyn yn galluogi myfyrwyr i arbenigo ar agweddau penodol ar grefydd ac ar fethodolegau penodol. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu diddordeb ymchwil eu hunain oddi mewn i Astudio Crefyddau o’r dechrau.

Mae gan fyfyrwyr ddewis o astudio agwedd ar Fwdhaeth yn fanwl (Athroniaeth Fwdhaidd), Tsieina (Crefyddau Tsieina ar lawr gwlad) a / neu Ysbrydolrwydd Celtaidd (Ysbrydolrwydd Celtaidd, Sancteiddrwydd a Hagiograffeg). Mae modylau ychwanegol ar gael ym maes Astudiaethau Islamaidd (Islam Heddiw) ac agweddau ar ysbrydolrwydd amgen (e.e. yn y modylau Daearyddiaeth Gysegredig ac Esoteriaeth Orllewinol). Mae rhai modylau’n gadael i fyfyrwyr ystyried crefydd o safbwynt cymharol megis Crefydd a’r Amgylchedd a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol. Gall myfyrwyr hefyd archwilio ffenomenon profiad crefyddol ac ysbrydol (Profiad Crefyddol Heddiw) – sef maes pwnc y mae’r Athrofa yn ei ystyried yn bwysig o ystyried lleoliad Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol ar gampws Llambed.

Wrth ddewis eu hopsiynau, dylai myfyrwyr ystyried y modylau sydd fwyaf perthnasol i bwnc eu traethawd hir a bydd yr arbenigwr pwnc yn rhoi cyngor iddynt yn hyn o beth.

Mae Rhan II yn cynnwys traethawd hir 60-credyd o 15,000 o eiriau. Bydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd yn Rhan I wrth gyflawni’r darn estynedig hwn o ymchwil personol.

Gorfodol

Traethawd Hir MA (Crefydd)
Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau

Dewisol

Daearyddiaeth Sanctaidd

(30 credydau)

Crefyddau Tsieina ar Lawr Gwlad
Y Traddodiad Deallusol Islamaidd: Datblygiadau Canoloesol, Modern a Chyfoes

(30 credydau)

Profiad Crefyddol Heddiw
Islam Heddiw
Cyfarfyddiadau Rhyng-ffydd: Rhyngweithio Crefyddol mewn Byd Cymhleth

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Fel arfer, gradd israddedig dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch yw’r gofyniad mynediad ar gyfer y radd hon. Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr a chanddynt gymhwyster proffesiynol cyfwerth a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol. Os nad ydych yn sicr a fyddech yn cael eich derbyn ar yr MA, fe ddylech gysylltu â Chydlynydd y Rhaglen am sgwrs anffurfiol. Caiff pob cais ei asesu ar ei rinweddau ei hun.

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau hir (fel arfer 4,000 o eiriau), adolygiadau beirniadol byrrach, cynigion ymchwil, a thasgau byrrach eraill. Nid oes arholiadau. Mae’r traethawd hir yn un darn o waith 15,000 o eiriau.

  • Gwneir amcangyfrifon ar y dybiaeth y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy craidd mewn dealltwriaeth grefyddol, sensitifrwydd rhyngddiwylliannol, a hunanadfyfyrio sydd o werth i  gyflogwyr. Fel arfer, mae myfyrwyr yn mynd yn eu blaen i weithio mewn nifer o broffesiynau, gan gynnwys addysgu, bancio a busnes ariannol, marchnata a hysbysebu, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, iechyd a gofal cymdeithasol, cwnsela, a gwasanaeth cwsmeriaid.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau