Skip page header and navigation

Crefyddau Hynafol (Llawn amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r rhaglen Crefyddau Hynafol amlddisgyblaethol unigryw hon yn cyflwyno dadansoddiad cymharol o wahanol draddodiadau crefyddol ar draws yr hen fyd, y tu hwnt i Wlad Groeg a Rhufain ac mor bell i ffwrdd â’r hen Aifft, Prydain Geltaidd a Tsieina hynafol.

Cewch gyfle i drafod gwreiddiau arferion crefyddol trefniadol ac archwilio’r temlau cynharaf yn ne-orllewin Asia, ymgysylltu â chrefyddau Oes Efydd Môr y Canoldir, cwrdd â duwiau a duwiesau’r hen Aifft, ac archwilio tirweddau cysegredig gogledd orllewin Ewrop . Bydd modiwlau eraill yn eich cyflwyno i fythau’r hen Wlad Groeg a Rhufain, cosmoleg, hud a dewiniaeth yn y byd clasurol a thestunau’r Hen Destament.

Mae’r rhaglen yn hyblyg iawn i gyd-fynd gyda’ch diddordebau ymchwil.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs Crefyddau Hynafol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y maes hwn i astudio ar gyfer gradd uwch arbenigol sydd wedi’i theilwra i ymchwilio i dystiolaeth o arferion a chredoau crefyddol mewn cyd-destunau diwylliannol amrywiol: Oes Neolithig de-orllewin Asia, Oes Efydd Môr y Canoldir, y Celtiaid, yr Eifftiaid, yr Iddewon, Gwlad Groeg a Rhufain, a Tsieina hynafol.

Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o’r gydberthynas rhwng crefydd a chymdeithas o safbwynt trawsddiwylliannol ac felly’n eu galluogi i ddeall gwareiddiadau aml-grefyddol yn well. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth ehangach o’r grymoedd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol sy’n sail i’r byd hynafol a’r syniadau a’r arferion hynafol hyn yn benodol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o fethodolegau a safbwyntiau damcaniaethol a gymerwyd o faes Archaeoleg ac Anthropoleg yn ogystal ag o draddodiadau testunol Tsieina hynafol, y byd Clasurol ac astudiaethau’r Hen Destament. 

Mae’r cynllun yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth eang o fodiwlau sy’n cwmpasu ystod eang o grefyddau hynafol, gan roi dewis i chi lunio’r rhaglen yn unol â’ch diddordebau.

Mae ein holl fodiwlau ar y cwrs Crefyddau Hynafol yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac ymchwilwyr gweithredol o wahanol ddisgyblaethau, yn enwedig ym maes Archeoleg, y Clasuron, Eifftoleg, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Seryddiaeth Ddiwylliannol, Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Tsieineaidd. Mae dylanwad ein hymchwil ar ein haddysgu yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr ddysgu gan y goreuon yn y maes a dilyn y tueddiadau a’r darganfyddiadau ysgolheigaidd diweddaraf. 

Mae’r cwrs MA Crefyddau Hynafol ar gael i fyfyrwyr ar y campws a dysgwyr o bell. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn fforwm byw lle gall myfyrwyr a staff ryngweithio, a thrwy hynny mae myfyrwyr yn gallu adolygu ac archwilio pynciau anodd yn well a chael mynediad at yr adnoddau electronig sydd ar gael yn rhithiol. 

Gorfodol 

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Gofodau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Hynafol Môr y Canoldir

(30 credydau)

Crefydd yr Hen Aifft

(30 credydau)

Crefyddau yn Tsieina, 1500 CCC - 500 CC

(30 credydau)

Agweddau ar Grefydd a Chwlt Groegaidd a Rhufeinig

(30 credydau)

Daearyddiaeth Sanctaidd

(30 credydau)

Cosmoleg, Hud and Dewiniaeth

(30 credydau)

Efengyl Ioan
Y Beibl: Testun a Throsglwyddo
Y Beibl: Dulliau Cyfoes
O'r Patriarchiaid i'r Proffwydi: Darllen a Derbyn
Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

* Mae’r modiwlau hyn yn newid am yn ail bob blwyddyn. 

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Yn draddodiadol mae angen gradd israddedig dosbarth 2.1 neu ddosbarth 1af ar gyfer mynediad i raglen Lefel 7. Mae’r Gyfadran yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 

  • Mae ein gradd MA Crefyddau Hynafol yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. 

    Yn ogystal â thraethodau traddodiadol, cewch eich asesu trwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar a PowerPoint - creu crynodebau ac erthyglau ar gyfer gwyddoniadur, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, creu cynlluniau prosiect ac, wrth gwrs, y traethawd hir terfynol 15,000 o eiriau.

    Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.

    Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn apelio at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio oherwydd diddordeb personol.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau