Skip page header and navigation

Moeseg – Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid (Rhan amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Rhan amser

Mae ein Tyst. Ôl-radd Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid wedi’i hanelu at bobl sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol ar hyn o bryd, boed hynny ym maes cadwraeth, rheolaeth adnoddau, gwyddoniaeth filfeddygol, neu’r sectorau elusen a chodi arian.

P’un a ydych am gymryd diddordeb personol mewn athroniaeth foesol i lefel arall, ddiweddaru eich sgiliau a gwybodaeth i ymgyfarwyddo â dimensiwn moesol eich proffesiwn, neu’n gobeithio cael eich herio, gall y cwrs ar-lein, rhan amser hwn ffitio o gwmpas eich bywyd.

Mae’r rhaglen hon yn gynnig unigryw sy’n manteisio ar gryfderau sefydledig wrth ddarparu athroniaeth ôl-raddedig ac arbenigedd staff presennol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Meithrin eich gwybodaeth am faterion moesegol pwysig sy’n berthnasol i’r gweithle modern.
02
Elwa o draddodiad hir y Brifysgol o addysgu ac ymchwil ym maes athroniaeth a moeseg.
03
Cyfoethogi eich sgiliau trosglwyddadwy.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y rhaglen yn manteisio ar staff sy’n weithgar ym maes ymchwil athroniaeth a moeseg, gan gynnwys eu profiad proffesiynol o ystyried moeseg gwasanaethau cyhoeddus a newid deddfwriaeth a pholisi, yn ogystal â datblygu cynnig Dyniaethau Llambed mewn cyfeiriad sy’n troi o gwmpas gwaith a sgiliau.

Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu’n feirniadol â phrif heriau gweithle’r 21ain ganrif, ochr yn ochr â datblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall gwybodaeth academaidd am foeseg fod yn sail i arfer proffesiynol bob dydd. Mae’r datblygiad hwn o sgiliau allweddol ac ymwybyddiaeth yn y gweithle’n datblygu sgiliau a medrau gweithleoedd i gyfrannu at wybodaeth newydd am drawsnewid cymdeithasol ac ymddygiad gwaith proffesiynol.

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd israddedig neu gyfwerth.

  • Caiff y rhaglen hon ei hasesu trwy gyfuniad o asesiadau addysgu.

  • Bydd pob llyfr craidd ar gael drwy’r llyfrgell, ond efallai yr hoffech brynu eich copi eich hun, neu brynu adnoddau dewisol.

    Bydd angen i chi fod â mynediad at liniadur neu gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall sy’n eich galluogi i ddefnyddio systemau e-ddysgu’r Brifysgol.

    Os hoffech gael mynediad i’r cwrs ar y campws neu ymweld â’r campws, mae rhwydd hynt i chi ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell, ond yn ddysgwr o bell, bydd angen i chi gael mynediad o bell.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau