Skip page header and navigation

Islam yn y Byd Modern (Llawn amser) (MRes)

Dysgu o Bell
2 Flynedd Llawn amser

Mae’r rhaglen yn annog myfyrwyr i archwilio’n fanwl ystod o bynciau yn ymwneud ag Islam a Mwslimiaid o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol.


Mae Astudiaethau Islamaidd yn ddisgyblaeth sydd wedi’i hen sefydlu yn y brifysgol, ac mae ein tîm academaidd wedi cyfrannu at y maes trwy gyhoeddiadau, ymchwil arbenigol, a chymryd rhan mewn cynadleddau rhyngwladol. 


Mae’r cwrs MRes yn cynnig profiad myfyriwr o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn - neu’n gysylltiedig â - chymunedau Mwslimaidd, mewn cyd-destunau lleiafrifol a mwyafrifol, yn enwedig y rhai sy’n dymuno datblygu gwell dealltwriaeth o’r bobl, y diwylliannau a’r safbwyntiau crefyddol y maent yn ymwneud â hwy.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae Astudiaethau Islamaidd yn ddisgyblaeth sydd wedi’i hen sefydlu yn y brifysgol
02
Tîm academaidd sy'n cyfrannu at gyhoeddiadau, ymchwil arbenigol, ac yn cymryd rhan mewn cynadleddau rhyngwladol
03
Datblygiad Proffesiynol Parhaus rhagorol i’r rhai sy'n gweithio ym maes Islam neu gyda chymunedau Mwslimaidd mwyafrifol a lleiafrifol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu gan arbenigwyr sydd â diddordebau amrywiol mewn Astudiaethau Islamaidd, gan annog myfyrwyr i archwilio’n fanwl amrywiaeth o bynciau sy’n ymwneud ag Islam a’r Mwslimiaid o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol.  Mae Astudiaethau Islamaidd yn ddisgyblaeth sydd wedi’i hen sefydlu yn y brifysgol, ac mae ein tîm academaidd wedi cyfrannu at y maes trwy gyhoeddiadau, ymchwil arbenigol, a chymryd rhan mewn cynadleddau rhyngwladol. 


Mae’r cwrs MRes yn cynnig profiad myfyriwr o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn - neu’n gysylltiedig â- chymunedau Mwslimaidd, mewn cyd-destunau lleiafrifol a mwyafrifol, yn enwedig y rhai sy’n dymuno datblygu gwell dealltwriaeth o’r bobl, y diwylliannau a’r safbwyntiau crefyddol y maent yn gweithio gyda nhw.


Cyflwynir y rhaglen fel rhaglen astudio dysgu o bell yn llawn-amser ac yn rhan-amser.  Mae holl gynnwys y modiwlau ar gael trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol a bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau trwy gyswllt rheolaidd gyda’u tiwtoriaid modiwl, naill ai un i un (trwy e-bost, Skype, ffôn), mewn grwpiau (gan ddefnyddio cyfryngau megis Skype), neu drwy fforymau trafod modiwlau’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir neu wikis.


Bydd pob myfyriwr yn cael ei gefnogi trwy gydol eu hastudiaethau yn enwedig yn ystod cyfnod Ymchwil eu rhaglen sydd gyfystyr â 120 credyd. Ym mis Gorffennaf, cynhelir ysgol haf breswyl flynyddol i raddedigion ar gyfer yr holl fyfyrwyr lle cânt fwynhau darlithoedd a seminarau sy’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â dysgu cyffredinol a gwybodaeth sy’n benodol i’r pwnc a chyfle i ymgysylltu â nifer o’n myfyrwyr ymchwil.

Gorfodol

Traethawd Hir Mhres (Crefydd)
Islam Heddiw

Dewisol

Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau
Y Traddodiad Deallusol Islamaidd: Datblygiadau Canoloesol, Modern a Chyfoes

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol. 

  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu o draethodau a gwerthusiad ysgrifenedig byr, a darnau myfyriol. Mae’r traethawd hir rhwng 25,000 a 30,000 o eiriau. 

  • Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Cynlluniwyd y rhaglen i ddenu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau cyffredinol yn ogystal â’u sgiliau sy’n benodol i’r pwnc. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar symud ymlaen i weithio ar lefel 7 yn eu maes astudio arbenigol ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym myd addysg, y weinidogaeth ac ymchwil.


    Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus rhagorol i athrawon ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa, gweinidogion sydd â gofal bugeiliol ar hyn o bryd sy’n ceisio datblygiad proffesiynol pellach a phobl eraill sydd â diddordeb. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn apelio at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio oherwydd diddordeb personol neu ymrwymiad i’w ffydd.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau