Skip page header and navigation

Peirianneg Drydanol ac Electronig (Rhan amser) (DipAU)

Abertawe
4 Blynedd Rhan amser
80 o Bwyntiau UCAS

Wrth i dechnoleg ddatblygu, mae peirianneg drydanol ac electronig yn dod yn hynod bwysig ac yn cael lle amlwg ym mhob maes, gan gynnwys - ond heb fod yn gyfyngedig i - gerbydau trydan, gweithgynhyrchu, cynhyrchu pŵer, rhwydweithiau trawsyrru a dosbarthu, dyfeisiau clyfar, systemau cyfathrebu a gwybodaeth. Er mwyn cefnogi’r angen i leihau allyriadau carbon, rhaid i’r genhedlaeth newydd o beirianwyr allu deall y technolegau presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.

Mae cynaliadwyedd bywyd modern yn dibynnu ar leihau allyriadau carbon trwy gynyddu effeithlonrwydd ynni dyfeisiau trydanol a defnyddio cerbydau trydan. Trwy’r rhaglen radd hon, byddwch yn dod i ddeall agweddau allweddol ar ystod o gysyniadau, egwyddorion, a thechnolegau sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig, y mae gan rai ohonynt le blaenllaw yn y ddisgyblaeth.

Byddwch yn dysgu cymhwyso technolegau, technegau ac offer priodol i ddatrys problemau neu i fodloni set o ofynion a nodi problemau neu dasgau, a dylunio atebion gyda dogfennaeth briodol, sy’n dangos y gallu i ddefnyddio tystiolaeth ategol ac i gyfathrebu’n effeithiol.

Bydd y rhaglen hon hefyd yn meithrin trafodaeth ar gymwysiadau, cysyniadau, egwyddorion, technegau a damcaniaeth ac yn datblygu eich dealltwriaeth o’r dulliau meintiol a’r egwyddorion mathemategol sy’n gysylltiedig â pheirianneg drydanol ac electronig. Byddwch hefyd yn dysgu am integreiddio agweddau dylunio, technoleg a masnachol priodol er mwyn datblygu a thargedu atebion amgylcheddol gynaliadwy ac arloesol i broblemau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Tybir bod gan y myfyrwyr sy'n dymuno astudio'r rhaglen Peirianneg Drydanol ac Electronig ddiddordeb mewn datblygiad trydanol neu electronig, er y gall eu cefndiroedd gynnwys astudio ffiseg a mathemateg.
02
Mae’r cynllun gradd hwn wedi’i gynllunio i greu graddedigion sydd â’r medrau addas i weithio yn y diwydiant peirianneg drydanol ac electronig yn y DU.
03
Caiff myfyrwyr gyswllt eang â thechnolegau modern gan gynnwys electroneg pŵer a gyriannau, prosesyddion signal digidol, systemau cyfathrebu digidol uwch, C, C++, Java, PLCs a systemau rheoli.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu gwybodaeth o’r peirianneg trydanol ac electronig sydd eu hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern.  

Bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion trydanol ac electronig, microbroseswyr a mathemateg. Mathemateg, dylunio cylched, prosesu signalau digidol, electroneg pŵer a dylunio system electronig.

Mae’r rhaglen hefyd yn cwmpasu cysyniadau electronig fel damcaniaeth egwyddorion trydanol, a pheiriannau a gyrwyr trydanol. Is-set o’r thema electroneg yw datblygu systemau wedi’i fewnblannu a chaiff hyn ei gefnogi gan gyflwyniad i raglennu cyfrifiadurol, peirianneg cyfrifiadurol a microbroseswyr. Hefyd, ymdrinnir â offeryniaeth a rheolaeth offer trydanol hefyd.

Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab, Xilinx, Mentor Graffics a Visual Development Studio Microsoft.

Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signal digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf ac mae hyn yn bosibl o ganlyniad i roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o’r dechnoleg orau a ddefnyddir yn y diwydiant ar hyn o bryd.

Nod cyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw cryf am y rhaglen hon yn y diwydiant. Mae gan gyflogwyr feddwl mawr o’r arbenigedd a’r sgiliau a ddatblygir gennych, o ddylunio a gweithredu datrysiadau i broblemau diffiniedig yn rhan o dîm.

Gorfodol

Microgyfrifiaduron, Perifferolion a Rhyngwynebu

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Sgiliau Astudio ar gyfer Electroneg

(10 credydau)

Sgiliau Gweithdy ar gyfer Electroneg

(10 Credydau)

Gorfodol

Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol

(10 credydau)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Signalau a Systemau

(10 credydau)

C Mewnblanedig

(20 credydau)

Electroneg I

(20 credydau)

Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau

(20 credydau)

Peirianneg a Rheoli Prosiectau

(20 Credydau)

Peirianneg Drydanol

(20 credydau)

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Dosbarthedig

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Cynnig Safon Uwch Arferol ar gyfer y BEng (Anrh):

    • 104 pwynt tariff UCAS i gynnwys:
    • Dwy radd C Safon Uwch/TAAU; neu
    • Diploma Cenedlaethol BTEC gyda graddau Teilyngdod/Teilyngdod/Teilyngdod; neu
    • Tystysgrif Genedlaethol BTEC gyda graddau Teilyngdod, Llwyddo; neu
    • NVQ Lefel 3 - Llwyddo
    • Sylwch y dylai/gall pynciau Lefel Uwch gynnwys Mathemateg, TGCh, Ffiseg neu debyg. Byddai’n well pe bai gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg.

    Cynnig Bagloriaeth Ryngwladol Arferol:

    • Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
  • Nod yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol yw cynhyrchu graddedigion sy’n helpu i siapio dyfodol cyfrifiadura ac electroneg. Mae cynnwys y cwrs yn gyfoes ac wedi’i lunio er mwyn annog cyflogadwyedd drwy gysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

    Caiff myfyrwyr eu hasesu trwy gyfuniad o asesiadau ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau ac arholiadau. Yn aml, caiff modylau eu hasesu drwy aseiniadau, neu aseiniadau ac arholiadau. Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modylau gynnwys gosod a chwblhau un neu fwy darn o waith cwrs yn ystod y modwl. Caiff gwaith prosiect ei asesu gan adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.

    Anogir myfyrwyr i ddefnyddio ein cysylltiadau gyda Chynghrair Meddalwedd Cymru a Go Wales i weithio ar gynlluniau masnachol ar gyfer eu modwl Prosiect Mawr. Mae Go Wales yn darparu’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith â chyflog gyda busnesau lleol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Teithiau astudio (Dewisol) – Ymweliadau diwydiannol wedi’u trefnu gan ysgolion yn y DU neu yn Ewrop.

    (Tua £50 ar gyfer teithiau o fewn y DU / Tua £200 ar gyfer teithiau o fewn Ewrop)

    Cydnabyddir, er enghraifft, y gallai’r union gostau’n gysylltiedig â thaith maes amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Dylai fod gan ymgeiswyr i’r rhaglen hon feddwl technegol ac efallai y byddant wedi astudio peirianneg, cyfrifiadureg neu’r gwyddorau o’r blaen.

    Byddant yn ceisio dod yn arbenigwyr a all ddeall agweddau caledwedd, meddalwedd a chyfathrebu systemau trydanol ac electronig. Byddai disgwyl i raddedigion y rhaglen hon chwilio am waith fel peirianwyr trydanol, peirianwyr electronig, peirianwyr cynnal a chadw trydanol, ac ati.

    Yn y rolau hyn, gallent ddisgwyl gael eu cyflogi mewn nifer o sectorau diwydiant gan gynnwys awyrofod, modurol, dosbarthu, gweithgynhyrchu, ac ati.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau