Prentisiaeth mewn Peirianneg Systemau Electronig Mewnblanedig (BEng Anrh)
Lluniwyd y rhaglen hon i gyfoethogi perthnasedd diwydiannol drwy ganolbwyntio ar gymhwyso theori’n ymarferol wrth gynnal trylwyredd academaidd.
Bydd y cwrs BEng hwn yn datblygu’r wybodaeth am beirianneg drydanol ac electronig sydd ei hangen ar gyfer sefydliadau diwydiannol modern.
Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel MATLAB, Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft.
Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a fu’n bosibl drwy roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol gyda’r dechnoleg orau sy’n cael ei defnyddio mewn diwydiant ar hyn o bryd.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y cwrs Systemau Electronig Mewnblanedig hwn yn datblygu gwybodaeth am y systemau caledwedd a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer cyfrifiaduron modern. Hefyd, mae’n canolbwyntio ar electroneg analog, electroneg ddigidol, microbroseswyr a phrosesu signalau digidol a chyfathrebu.
Rhoddir pwyslais ar ymarferion ymarferol i atgyfnerthu’r cysyniadau damcaniaethol a drafodir mewn darlithoedd. Gwneir defnydd helaeth o becynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol, fel Matlab , Xilinx, Mentor Graphics a Visual Development Studio Microsoft.
Mae gan yr Ysgol systemau prosesu signalau digidol a systemau datblygu synthesis digidol o’r radd flaenaf, a wnaed yn bosibl drwy roddion offer gan Xilinx a Texas Instruments. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o’r dechnoleg orau a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn diwydiant.
Nod gyffredinol y rhaglen hon yw datblygu myfyrwyr sydd â’r sgiliau i weithio yn y diwydiannau systemau cyfrifiadurol ac electroneg. Trwy nifer o gysylltiadau diwydiannol, mae’r ysgol wedi sefydlu galw diwydiannol cryf am y rhaglen hon.
Mae gan gyflogwyr feddwl mawr o’r arbenigedd a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu drwy greu a rheoli datrysiadau meddalwedd a chaledwedd yn rhan o dîm.
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau labordy a sesiynau ymarferol. Asesir cynnydd drwy gyfuniad o waith ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Yn aml asesir modylau drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gallai marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modwl. Asesir gwaith prosiect drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a adeiladwyd drwy’r cwrs i ddatrys problem beirianneg go iawn yn y gweithle.