Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch (Rhan amser) (HNC)
Holl bwrpas y cwrs hwn yw datblygu gweithwyr mewn maes o fewn gweithrediadau gweithgynhyrchu lle mae prinder.
Mae’r rhaglen wedi’i llunio wrth ochr cyflogwyr ar gyfer y gofynion gweithgynhyrchu allweddol o safbwynt cynnwys a dulliau cyflwyno. O’i chwblhau’n llwyddiannus, bydd yr holl raddedigion yn arddangos gwybodaeth a sgiliau a fydd yn caniatáu iddynt gyfoethogi a gwella eu harfer er mwyn llunio diwydiant y dyfodol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Lluniwyd y rhaglen i weddu i’ch wythnos waith, felly trefnir y dosbarthiadau ar brynhawn Gwener yn y Datblygiad newydd ar y Glannau o 1yp i 7yp. Gan fod y cwrs dros flwyddyn academaidd estynedig, gyda’r astudio am 42 wythnos y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn gwneud yn fawr o’u hamser yn y gwaith a’r Brifysgol.
Bwriad ein cwricwlwm, sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, yw cynhyrchu arweinwyr yfory ar gyfer y diwydiant peirianneg.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mathemateg Safon Uwch (Lefel A) a phwnc gwyddoniaeth addas, Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg neu flwyddyn sylfaen mewn peirianneg yw’r gofynion traddodiadol.
Byddwn yn ystyried ystod o gymwysterau neu brofiadau amgen. Rhoddir mynediad uniongyrchol i lefel 5 i fyfyrwyr sy’n meddu ar HNC, HND neu’r cyfwerth.
Ystyrir pob cais a phrofiad gwaith proffesiynol fesul unigolyn. Hoffem hefyd weld eich bod yn frwdfrydig ac â chymhelliant i wneud y cwrs a bod gennych y potensial i elwa o astudiaethau rhan amser, sy’n gallu cefnogi datblygiad eich gyrfa.
-
Addysgir myfyrwyr trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
-
Dim cost ychwanegol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Ysgol Beirianneg wedi darparu rhaglenni BEng rhan amser llwyddiannus iawn am bron iawn 19 o flynyddoedd. Ar hyn o bryd mae’r portffolio’n cynnwys tair rhaglen - BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu a BEng Gwyddorau Defnyddiau.
Un o’r effeithiau mwyaf nodedig ar gyflogadwyedd myfyrwyr sydd ar raglenni BEng rhan amser yr Ysgol yw’r gwelliant sylweddol o ran gyrfa a ddaw yn eu sgil. Mae canran uchel o’r myfyrwyr wedi cael dyrchafiad o leiaf unwaith yn ystod eu hamser ar y rhaglenni ac yn aml unwaith eto ar ôl graddio.