Skip page header and navigation

Peirianneg Chwaraeon Moduro (Rhan amser) (PGCert)

Abertawe
2-3 Blynedd Rhan amser

Mae PCYDDS Abertawe wedi bod yn cynnig Graddau Peirianneg Chwaraeon Moduro ers mis 1998, ac wedi datblygu enw arbennig o dda yn y diwydiant.

Trwy astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro byddwch yn datblygu’r arbenigedd y byddwch ei angen i ddylunio, i ddatblygu, i beiriannu, ac i optimeiddio cerbydau rasio.

Mae’r cwrs yn cynnig cymysgedd dda o elfennau damcaniaethol ac ymarferol a ddysgir yn ogystal â chyfleoedd prosiect rhagorol sy’n ymwneud yn benodol â Chwaraeon Moduro, aseiniadau sy’n ymwneud yn benodol â Chwaraeon Moduro, a modiwlau ar ystod eang o bynciau sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Moduro a’r byd Modurol, ac mae’r cwrs yn galluogi’r myfyriwr i deilwra eu hastudiaethau er mwyn bodloni eu hanghenion a’u dyheadau gyrfa eu hunain. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2-3 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyrsiau Peirianneg Chwaraeon Moduro PCYDDS yw’r rhai hynaf y wlad.
02
Adeilad campws newydd sbon gyda'r holl dechnoleg ddiweddaraf a chyfleusterau gweithdy pwrpasol.
03
Staff sy’n arbenigo mewn Chwaraeon Moduro a’r Modurol ac sydd â phrofiad ac arbenigedd o’r diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Roedd datblygu rhaglen gradd Meistr yn gam naturiol yn sgil llwyddiant y rhaglenni israddedig Peirianneg Chwaraeon Moduro a gynigir gan PCYDDS, a’i nod yw parhau i ddatblygu eich dealltwriaeth, gan ddefnyddio’r cysylltiadau cryf rhwng y Brifysgol a’r Diwydiant fel sylfaen.

Mae’r rhaglenni gradd mewn Chwaraeon Moduro yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o beirianneg a datblygiad ym maes Chwaraeon Moduro, gyda chymysgedd o ddysgu cymhwysol a damcaniaethol.

Gyda sylfaen mewn egwyddorion peirianneg fecanyddol, bydd myfyrwyr yn datblygu’r themâu hyn ac yn canolbwyntio’n benodol ar beirianneg a pherfformiad cerbydau trwy gymhwyso enghreifftiau a chyflawni prosiectau. 

Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau Chwaraeon Moduro a Modurol fel McLaren, Red Bull, Renault F1, Mercedes AMG, Honda R&D, Ricardo, Mahle, JLR, MIRA a llawer o rai eraill.

Perfformiad ac Allyriadau Peiriannau

(20 credydau)

Mecanweithiau Methiant Deunyddiau

(20 credydau)

Deinameg Chwaraeon Moduro Uwch

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd dosbarth 2:1 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Mae natur y rhaglen yn golygu y byddwn yn ystyried ymgeiswyr o amrywiaeth eang o wahanol gefndiroedd.

    Cymwysterau Cyfwerth

    Byddwn yn ystyried y rhain wrth wneud cynigion. Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael eu hystyried. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu cais.

    Nid ar sail canlyniadau academaidd yn unig y byddwn yn gwneud cynigion. Byddwn yn ystyried eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad gwaith. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen.

  • Rydym yn defnyddio sawl fformat er mwyn asesu, gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs mwy arferol yn ogystal â dulliau asesu eraill sy’n fwy ‘diwydiannol’, megis gwaith maes ymyl y trac, tasgau gweithdy, asesiadau sy’n defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, ac arholiadau llafar a seminarau grŵp.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion llwybrau peirianneg Chwaraeon Moduro PCYDDS wedi cael gwaith mewn ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg o fewn y Diwydiant Peirianneg Chwaraeon Moduro a thu hwnt. 

    Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau Chwaraeon Moduro a Modurol fel McLaren, Red Bull, Renault F1, Mercedes AMG, Honda R&D, Ricardo, Mahle, JLR, MIRA a llawer o swyddi peirianneg uchel eu parch eraill.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau