Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd
Lefel 3

Bwriad y rhaglen BEng Peirianneg Fecanyddol yw rhoi sylfaen drylwyr i fyfyrwyr mewn gwyddor peirianneg fecanyddol a’i chymhwyso wrth ddylunio a datrys amrywiaeth o broblemau peirianyddol.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a deunyddiau gweithgynhyrchu.

Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol wedi’i hachredu’n un sy’n bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestriad Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reoleiddydd y DU, sef y Cyngor Peirianneg.

Mae achredu yn arwydd o sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennwyd gan y Cyngor Peirianneg yn Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Broffesiynol (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol i chi ar gyfer cofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Beiriannydd Siartredig (CEng).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
Lefel 3

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £12,000 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu dylunio a deall y gofynion ynghylch y deunyddiau gorau ar gyfer cynhyrchion newydd ynghyd â datblygu deunyddiau newydd, i fodloni gofynion technoleg fodern.

Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol

(10 credydau)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig

(20 credydau)

Mathemateg

(20 credydau)

Signalau a Systemau

(10 credydau)

C Mewnblanedig

(20 credydau)

Sgiliau Astudio

(10 credydau)

Micros Perifferolion a Rhyngwynebau

(20 credydau)

Sgiliau Gweithdy ar gyfer Electroneg

(10 Credydau)

Peirianneg Drydanol

(20 credydau)

Electroneg I

(20 credydau)

Trawsddygiaduron a Chyflyru Signalau

(20 credydau)

Ymbelydredd Electromagnetig

(20 credydau)

Systemau Gwybodaeth Dosbarthedig

(20 credydau)

Peirianneg a Rheoli Prosiectau

(20 Credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy Cymhwysol

(20 credydau)

Electroneg II

(20 credydau)

Dylunio Systemau Electronig

(20 credydau)

Electroneg a Gyriannau Ynni

(20 credydau)

testimonial

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol. 

  • Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg a bydd yn galluogi myfyrwyr i ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

    Rydym wedi paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth mewn cwmnïau bach a mawr. Enghreifftiau o gwmnïau sydd wedi cyflogi graddedigion blaenorol yw Corus, Ford, Schaeffler, Robert Bosch a Visteon.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau