Skip page header and navigation

Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 (Rhan amser) (PGCert)

Abertawe
12 Mis Rhan amser

Mae Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 yn gymhwyster ôl-raddedig sy’n rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio technolegau clyfar mewn prosesau ac offer diwydiannol.

Bydd myfyrwyr yn archwilio effaith technolegau o’r fath ar ddiwydiant ynghyd â goblygiadau hyn ar ddyfodol y sector.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
12 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr profiadol yn y diwydiant sy’n deall yr heriau a wynebir gan weithgynhyrchwyr modern.
02
Archwilio technolegau newydd i wella eu timau a’u hadnoddau.
03
Gallwch barhau i weithio drwy gydol eich astudiaethau, gan brofi darlithoedd a deunydd y cwrs ar-lein wrth gymhwyso eich gwybodaeth newydd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r llwybrau Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 wedi’u cynllunio er mwyn roi dealltwriaeth o’r tueddiadau sy’n digwydd o fewn arferion diwydiannol modern. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn dysgu am sut y mae datrysiadau arloesol yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd mewn sector sy’n dod yn fwyfwy digidol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r sector er mwyn sicrhau bod ein harferion addysgu yn gyfredol ac yn adlewyrchu tirwedd newidiol y diwydiant.

Dewisol

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Diwydiant Uwch 4.0

(20 credydau)

Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0

(20 credydau)

Rheoli a Chynllunio Ariannol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0

(20 credydau)

Cyflwyniad i Reoli Arloesi

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

    • Rhaid bod â chymhwyster Lefel 3
    • Rhaid bod â rôl mewn Diwydiant ar hyn o bryd
  • Mae dull asesu’r cwrs yn adlewyrchu arferion y sector, gan amrywio o gynhyrchu adroddiadau technegol i ddefnyddio cyflwyniadau i gyfleu syniadau allweddol.

    Mae’r mathau o asesiadau wedi cael eu dewis yn ofalus er mwyn cefnogi galluoedd pob dysgwr ac er mwyn caniatáu iddynt ymarfer y tasgau real sy’n ofynnol mewn swyddi diwydiannol.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein myfyrwyr eisoes yn gweithio yn y Diwydiant ac yn awyddus i gael yr hyfforddiant a’r addysg a fydd yn ychwanegu at eu sgiliau ac yn cefnogi cynnydd eu gyrfa yn ogystal â pharatoi ar gyfer gofynion y sector yn y dyfodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau