Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (Rhan amser) (BEng Anrh)
Mae’r rhaglen BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu Rhan-amser wedi’i datblygu’n agos iawn gyda chwmnïau gweithgynhyrchu lleol er mwyn bodloni eu hanghenion penodol.
Nod y cwrs gweithgynhyrchu hwn yw datblygu myfyrwyr sydd â gwybodaeth gadarn am ddeunyddiau technoleg gweithgynhyrchu a’r egwyddorion peirianneg sylfaenol sy’n llywio dulliau diwydiannol ar hyn o bryd. Hefyd, byddwch yn dysgu rheolaeth ddiweddaraf systemau ansawdd a gweithgynhyrchu.
Mae’r graddau Baglor canlynol wedi’u hachredu fel rhai sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) ar gyfer y carfannau a dderbynnwyd o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gyd-fynd ag wythnos waith, felly mae dosbarthiadau wedi’u hamserlennu ar brynhawn dydd Gwener yn natblygiad newydd Glannau SA1 Abertawe rhwng 1pm a 7pm. Mae’r ffaith fod y cwrs dros flwyddyn academaidd estynedig, gydag astudiaethau 42 wythnos y flwyddyn, yn golygu bod myfyrwyr yn gwneud y gorau o’u hamser yn y gwaith ac yn y Brifysgol.
Bwriad ein cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y diwydiant yw cynhyrchu arweinwyr diwydiant peirianneg y dyfodol.
Mae ein cwrs BEng(Anrh) Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (Rhan-amser 4 Blynedd; EngC cyf 15960) wedi’i achredu fel un sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gyda Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, y Cyngor Peirianneg. Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).
Bydd gradd achrededig yn rhoi rhywfaint neu’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith rhai sydd â graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn fwy tebygol o gael
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Safon Uwch Mathemateg a phwnc gwyddonol addas, Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg neu flwyddyn sylfaen mewn peirianneg yw’r gofynion traddodiadol. Byddwn yn ystyried amrywiaeth o gymwysterau neu brofiadau eraill.
Mae myfyrwyr sydd â Thystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch neu gyfwerth yn cael mynediad uniongyrchol i lefel 5. Mae pob cais a phrofiad gwaith proffesiynol yn cael ei ystyried yn unigol. Byddwn hefyd am weld eich bod yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddilyn y cwrs hwn a bod gennych y potensial i elwa o astudiaethau rhan-amser, a allai gefnogi datblygiad eich gyrfa.
-
Mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol ac mewn labordai. Mae cynnydd yn cael ei fesur drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Un o brif agweddau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Dyma brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd trwy gydol y cwrs i ddatrys problem peirianneg sy’n bodoli go iawn yn y gweithle.
-
Dim costau ychwanegol.
-
Ewch i’n hadran Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau i gael mwy o wybodaeth.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciad/ bwrsariaeth ffioedd dysgu, am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru a chysylltwch â’n Swyddog Cyllid Myfyrwyr, Ms Sharon Alexander – sharon.alexander@uwtsd.ac.uk.
-
Mae’r Ysgol Beirianneg wedi darparu rhaglenni BEng rhan-amser llwyddiannus iawn ers bron i 20 mlynedd. Ar hyn o bryd mae’r portffolio yn cynnwys tair rhaglen - BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu a BEng Gwyddor Deunyddiau.
Un o’r effeithiau mwyaf nodedig ar gyflogadwyedd myfyrwyr sy’n astudio rhaglenni BEng rhan-amser yr ysgol yw’r gwelliant amlwg yn eu gyrfaoedd sydd wedi deillio o hynny. Mae cyfran uchel o’r myfyrwyr wedi cael dyrchafiad yn eu swydd o leiaf unwaith yn ystod eu hamser yn astudio ar y rhaglenni ac maen nhw’n aml yn cael dyrchafiad eto ar ôl graddio.