
Dechreuodd PCYDDS Abertawe gynnig un o’r cyrsiau gradd Peirianneg Fodurol cyntaf yn yr 1990au, ac maen nhw wedi datblygu enw arbennig o dda yn y diwydiant.
Bydd astudio gradd PGCert ym maes Peirianneg Fodurol yn datblygu’r arbenigedd penodol sydd ei angen arnoch wrth ddylunio, datblygu, peiriannu, gweithgynhyrchu ac optimeiddio cerbydau.
Mae’r cwrs yn cynnig cyfuniad da o elfennau damcaniaethol ac ymarferol dan arweiniad athro yn ogystal â chyfleoedd prosiect rhagorol sy’n ymwneud yn benodol â Moduro, aseiniadau sy’n ymwneud yn benodol â Moduro, a modiwlau ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n gysylltiedig â Moduro, ac mae’r cwrs yn dal i alluogi’r myfyrwyr i deilwra eu hastudiaethau er mwyn bodloni eu hanghenion a’u dyheadau gyrfa eu hunain.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ddatblygiad naturiol o lwyddiant y rhaglenni israddedig Peirianneg Fodurol a gynigir gan PCYDDS, nod y rhaglen Meistr ddiweddaraf yw datblygu eich dealltwriaeth ymhellach, gan ddefnyddio’r cysylltiadau cryf rhwng y Brifysgol a’r Diwydiant fel sylfaen.
Mae’r cynlluniau gradd Modurol yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr gael profiad o’r byd peirianneg a datblygiad modurol gyda chyfuniad o ddysgu cymhwysol a damcaniaethol.
Yn seiliedig ar egwyddorion peirianneg fecanyddol, mae myfyrwyr yn datblygu’r themâu hyn gyda ffocws penodol ar beirianneg a gweithgynhyrchu cerbydau trwy brosiectau ac enghreifftiau cymhwysol.
Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau modurol fel McLaren Automotive, Jaguar Land Rover, Ford, Honda R&D, Ricardo, MAHLE a llawer mwy.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2.1 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Mae natur y rhaglen yn golygu y bydd ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu hystyried.
Cymwysterau cyfwerth
Byddwn yn ystyried y rhain wrth gynnig lle ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai ymgeisydd sydd â HND da ac o leiaf pum mlynedd o brofiad perthnasol yn cael ei ystyried. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Byddwn yn ystyried eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol er mwyn asesu gallu unigolion i fodloni gofynion y rhaglen.
-
Mae sawl fformat yn cael ei ddefnyddio er mwyn asesu, gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs arferol yn ogystal â dulliau asesu eraill sy’n fwy ‘diwydiannol’, fel gwaith maes wrth ymyl y trac, tasgau yn y gweithdy, asesiadau sy’n defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, ac arholiadau llafar a seminarau grŵp.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion llwybrau Peirianneg Fodurol PCYDDS wedi cael gwaith mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau peirianneg o fewn y Diwydiant Peirianneg Fodurol a thu hwnt.
Mae myfyrwyr wedi cael gwaith gyda chwmnïau modurol fel McLaren Automotive, Jaguar Land Rover, Ford, Honda R&D, Ricardo, MAHLE a llawer o rolau peirianneg eraill o safon uchel.