Skip page header and navigation

Peirianneg Ddiwydiannol (Llawn amser) (PGDip)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyfoethogi eu gwybodaeth o Beirianneg Ddiwydiannol.

Gall myfyrwyr gael amrywiaeth o gymwysterau gradd israddedig yn dod gefndir peirianneg fecanyddol, ddylunio, sifil neu weithgynhyrchu. Yn ogystal, mae’n helpu rheolwyr profiadol i ychwanegu at eu gwybodaeth gyda chymwysterau addysgol.

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar y sgiliau sydd eu hangen ar beirianwyr diwydiannol. Yn ogystal â datblygu ystod ehangach o sgiliau y dylai bod Peiriannydd Diwydiannol cymwys a chrefftus feddu arnynt. Mae’r set sgiliau hwn yn cynnwys: methodoleg darbodus ac ystwyth, ‘six sigma’, rheoli ansawdd, rheoli’r gadwyn gyflenwi a chaffael.

Bydd myfyrwyr yn cael set sgiliau y mae galw mawr amdani gan gyflogwyr.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r diwydiant.
02
Dewch i astudio yn ein Campws arloesol gwerth £350m ar Lannau Abertawe.
03
Cysylltiadau diwydiannol helaeth a phrosiectau diwydiannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu’r galw cynyddol am arbenigwyr peirianneg ddiwydiannol. Mae’r raglen yn archwilio’r meysydd pwnc allweddol o fewn amgylchedd peirianneg ddiwydiannol.

Mae’r rhaglen  yn datblygu sgiliau myfyrwyr mewn rheolaeth gweithrediadau mewn amgylcheddau gweithgynhyrchu, cydosod a gwasanaeth, gan ddatblygu’n gynhwysfawr sgiliau ‘six sigma’ darbodus a sgiliau rheoli prosiect.

Mae’r ddisgyblaeth yn cofleidio meysydd fel rheoli ansawdd a rheoli’r gadwyn gyflenwi ynghyd â sgiliau dylunio sydd eu hangen ar beirianwyr diwydiannol.

Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu

(20 credydau)

Rheoli Prosiectau Peirianneg

(20 credydau)

Rheoli Ansawdd mewn Amgylchedd Gweithredol

(20 credydau)

Systemau Darbodus ac Ystwyth

(20 credydau)

Rheoli Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd dosbarth 2.2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol. Sgôr GPA o 2.5 neu uwch.

    Oherwydd natur y rhaglen caiff ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd eu hystyried.

    Cymwysterau cyfwerth

    Caiff cymwysterau cyfwerth eu hystyried i gael lle ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r alwedigaeth yn ystyried ymgeisydd â HND da, ynghyd ag o leiaf pum mlynedd  brofiad perthnasol. Byddai disgwyl i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu cais.

    Sgiliau eraill a ystyrir

    • Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig; byddwn hefyd yn cymryd eich sgiliau, cyrhaeddiad a phrofiad bywyd i ystyriaeth.
    • Bydd angen tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.
  • Caiff myfyrwyr eu hasesu ar y rhaglen gradd PGDip drwy gymysgedd o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gall asesiad nodweddiadol ofyn i chi ymchwilio i broblem ddiwydiannol ei natur a gwneud argymhellion ar welliannau drwy ddefnyddio offer a thechnegau rydych wedi’u dysgu mewn modwl penodol neu ar draws y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs heb orfod talu unrhyw gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl gorfod talu am gostau a gyfyd drwy gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn rhoi i raddedigion ystod eang o sgiliau proffesiynol a medrau sy’n drosglwyddadwy o fewn y sector busnes ac o sector i sector. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i fagu hyder trwy’r raglen astudio.

    Ymhlith y cyfleoedd gyrfa nodweddiadol mae rheolwr shifft, goruchwylydd cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, rheolwr cynllunio a rhestru, rheolwr/cyfarwyddwr gweithrediadau.

    Mae ein holl raddedigion sydd wedi astudio gradd meistr rhan amser debyg wedi cael dyrchafiad wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac maent wedi dweud bod hyn o ganlyniad i’w cymhwyster.

    Elwodd graddedigion iau o ragolygon cyflogaeth uwch a gwelsant eu bod yn gallu cael gwaith fel peiriannydd llinell, peiriannydd ansawdd ac arbenigwr y gadwyn gyflenwi.

    Mae nifer o gwmnïau bellach wedi cydnabod y cwrs hwn yn anhepgor er mwyn cael dyrchafiad neu feddu ar rôl benodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau