Prentisiaeth mewn Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (OME) (BEng Anrh)
Mae gyrfa mewn Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (OME) yn heriol, ysgogol a dynamig.
Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth OME mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa mewn diwydiant sy’n ganolog i gynnal a chadw diogelwch gwladol yn awr ac yn y dyfodol.
Bydd y rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith.
Lluniwyd y rhaglen i sicrhau y gall y Technegydd neu’r Gweithiwr Proffesiynol hollol gymwys ym maes Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron weithio mewn ystod eang o sefydliadau mawr neu fach, cyhoeddus neu breifat yn y sector hwn gan gynnwys sefydliadau amddiffyn, cemegol, masnachol, milwrol, diogelwch, dadansoddol neu ymchwil.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gallwch feithrin gyrfa i’r dyfodol mewn un o bum llwybr OME a gynigir yn Y Drindod Dewi Sant:
- Technegol, Ymchwil a Datblygu
- Diogelwch
- Gweithgynhyrchu a Phrosesu
- Torri i lawr a Gwaredu
- Profi a Gwerthuso
Cewch eich annog i gofrestru yn aelod-fyfyrwyr o’r IExpE a bydd cwblhau’r Brentisiaeth yn ffactor o bwys wrth gael cofrestru’n broffesiynol gydag IExpE neu sefydliadau peirianneg a gwyddonol eraill.
Mae’n cymryd 5 mlynedd i gwblhau’r Radd-brentisiaeth lawn, gyda chyfnodau bloc o hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith yn cael eu cynnal yn Adeilad IQ y Brifysgol ar y campws newydd yn SA1, Abertawe.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Lefel 4
(20 credydau)
(20 credydau)
Lefel 5
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Asesir modylau mewn ffyrdd amrywiol gan gynnwys arholiadau traddodiadol, gwaith cwrs, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau grŵp ac unigol, y mae pob un wedi’u cynllunio i roi’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.