CIPD - Arfer Pobl (Prentisiaeth) Tystysgrif Sylfaen (Foundation Certificate)
Mae Tystysgrif Sylfaen CIPD mewn Arfer Pobl (Prentisiaeth) yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd eisiau adeiladu gyrfa yn y proffesiwn pobl. P’un a ydych eisoes yn gweithio ym maes AD neu newydd ddechrau, bydd ycymhwyster lefel mynediad hwn yn rhoi i chi’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau hanfodol sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich sefydliad.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n gobeithio cael eu rôl gyntaf yn y proffesiwn pobl, p’un a yw hynny’n golygu AD, recriwtio, neu swyddi eraill sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae’n darparu sylfaen gadarn mewn Arfer Pobl, gan eich helpu i ddeall sut mae pobl a sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi i chi’r sgiliau i gyflawni tasgau allweddol sydd o fudd i’ch sefydliad ar lefel weithredol, gan eich galluogi i gefnogi a chyfrannu at redeg swyddogaethau Adnoddau Dynol bob dydd yn ddidrafferth.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu dealltwriaeth glir o gysyniadau pwysig ym maes Arfer Pobl, megis sut i gefnogi cydweithwyr, gwella amgylcheddau gwaith, a sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei nodau. Erbyn diwedd y cymhwyster, bydd gennych yr hyder i ysgogi newid cadarnhaol o fewn eich sefydliad. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi eich cydweithwyr yn y gweithle, rheoli perthnasoedd yn effeithiol, a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n gwella arferion gwaith i bawb.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Prentisiaethau
- Saesneg
£1700 – efallai bod cyllid llawn ar gael i fyfyrwyr cymwys
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio pedair uned graidd: Diwylliant Busnes, Ymddygiad Craidd, Dadansoddeg, a Hanfodion Arfer Pobl. Mae’r unedau hyn yn darparu sylfaen gadarn, gan eich helpu i ddeall egwyddorion allweddol rheolaeth pobl a sut maent yn berthnasol mewn gwahanol leoliadau sefydliadol. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi newid yn effeithiol a chael effaith barhaol ar eich gweithle.
(5 credydau)
(4 credydau)
(4 credydau)
(11 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed ac yn hŷn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, er bod disgwyl i chi ddangos y gallu i ysgrifennu’n academaidd ar lefel 3.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Does dim arholiadau. Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ysgrifenedig.
-
Bydd y costau ychwanegol yn cynnwys aelodaeth myfyriwr CIPD gorfodol ac opsiwn i brynu gwerslyfrau.
Cost Aelodaeth Myfyriwr o CIPD yw £109 y flwyddyn, yn ogystal â ffi ymuno o £40 (Awst 2024). -
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Bydd cyflawni Tystysgrif Sylfaen mewn Arfer Pobl* Lefel 3 CIPD yn caniatáu dilyniant i Ddiploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD. Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws CIPD lefel 3.