Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (BEng, Mynediad Sylfaen)
Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes Peirianneg Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu
Mae cymhlethdod gweithgynhyrchu wedi cynhyrchu dro flynyddoedd diweddar, gyda mwy o bwyslais ar ddefnyddiau a phrosesau newydd, yn ogystal â’r angen i reoli cadwyni cyflenwi a rhwydweithiau integredig ar lefel fyd-eang. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddiweddaru’n unol â hynny, mewn ymateb i’r cymhlethdod hwn, i alluogi i fyfyrwyr fynd i mewn i’r amgylchedd hwn yn llwyddiannus.
Mae’r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yn darparu sylfaen trylwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol a chymhwyso’r wybodaeth hon i dechnoleg a defnyddiau gweithgynhyrchu. Byddwch hefyd yn astudio dylunio gyda chymorth cyfrifiadur a gweithgynhyrchu yn ogystal ag offer rhifiadol perthnasol.
Trwy’r cwrs astudio hwn, byddwch yn dysgu am greu mantais gystadleuol trwy gynllunio gweithgynhyrchu, strategaeth, ansawdd a rheoli a datblygu’r sgiliau i ddylunio prosesau gweithgynhyrchu sy’n arwain at gynhyrchion sy’n bodloni gofynion defnyddiau penodol a gofynion eraill.
Byddwch yn datblygu ymagwedd systematig at brosiectau, gan gymryd y camau rhesymegol ac ymarferol sydd eu hangen i wneud i gysyniadau cymhleth ddod yn realiti. Byddwch hefyd yn dysgu i fod yn ymwybodol o risgiau, costau a gwerth ac yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, a chyfrifoldebau proffesiynol ehangach o’r diwydiant mecanyddol a gweithgynhyrchu.
Mae Peirianneg Gweithgynhyrchu fodern yn digwydd mewn marchnad gystadleuol iawn, sy’n newid yn gyflym ac sy’n wahanol iawn i’r argraff draddodiadol o’r sector hwn.
Mae’r cwrs hwn ar gael i astudio’n rhan amser.
Mae’r graddau Baglor a ganlyn wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofyniad academaidd, yn rhannol, i gofrestru ar gyfer Peiriannwr Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer carfanau derbyn myfyrwyr o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:
- BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (Llawn Amser, 3 Blynedd; Rhan Amser 6 Blynedd; EngC cyf 15962)
- BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 Blynedd; EngC cyf 15963).
BEng | Rhaglen radd 3 blynedd
Cod UCAS: HH37
Gwnewch gais trwy UCAS
BEng | Rhaglen 4 Blynedd gyda Mynediad Sylfaen
Cod UCAS: HH3R
Gwnewch gais trwy UCAS
BEng rhan amser | Rhaglen radd 3 i 4 blynedd
Ar gyfer y cwrs rhan amser, gwnewch gais i’r Brifysgol yn uniongyrchol trwy ddilyn y botwm ‘Gwneud Cais’ ar ben y dudalen, neu trwy ddefnyddio ‘Ffeindio Eich Cwrs’ i chwilio am Beirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Interniaethau a blwyddyn mewn diwydiant gyda chwmnïau enwog.
- Prosiectau allgyrsiol fel ‘Peirianwyr heb Ffiniau’ a ‘Her Dylunio Peirianneg IMechE’.
- Campws o’r radd flaenaf a llawer o offer sydd ar gael i fyfyrwyr rhwng 9-5 bob diwrnod yn yr wythnos.
- Mynediad 24 awr i gyfleusterau CAD y campws a meddalwedd arall.
- Mae 98.4% o’n graddedigion o’r flwyddyn ddiwethaf mewn gwaith neu addysg amser llawn.
- Carfanau a grwpiau addysgu bach.
- Caiff y rhaglen ei llunio mewn partneriaeth â’r Diwydiant.
- Cyflwynir darlithoedd bob prynhawn Gwener, 1pm - 7pm, i gyd-fynd ag wythnos waith y diwydiant.
- Ar gyfer astudio’n rhan amser - blwyddyn academaidd estynedig i gwblhau’r BEng rhan amser mewn dim ond 3 blynedd os yw'r myfyriwr yn cyrraedd gyda HNC, 4 blynedd os yw'r myfyriwr yn dechrau ar Lefel 4.
- Mae gan yr Adran Beirianneg fwy na 20 blynedd o brofiad o gyflwyno rhaglenni rhan amser llwyddiannus.
- Astudiwch ar gampws blaengar gwerth £300m yng Nglannau Abertawe (SA1).
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Nod y rhaglenni Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu yw rhoi i fyfyrwyr sylfaen gadarn ym maes peirianneg fecanyddol, drydanol ac electronig.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a defnyddiau gweithgynhyrchu. Bydd y rhaglenni’n ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnegol ac yn galluogi i fyfyrwyr ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd gwaith.
Mae dealltwriaeth drylwyr o awtomatiaeth, roboteg, efelychu digidol a chysyniadau gweithgynhyrchu hefyd yn bwysig os yw peirianwyr yn mynd i ddefnyddio’r technolegau uwch hyn i’w potensial llawn. Caiff y pynciau hyn eu cwmpasu yn ein rhaglen.
Mae gan y brifysgol hanes hir a sefydledig o ddatblygu graddedigion sydd ag arbenigedd mewn disgyblaethau mecanyddol a gweithgynhyrchu.
Gan weithio’n agos gyda nifer o gwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i ddatblygu graddedigion sydd wedi’u paratoi i ymuno â chymuned fyd-eang o beirianwyr Mecanyddol a Gweithgynhyrchu.
Mae ein BEng(Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (Llawn Amser 3 Blynedd; Rhan Amser 6 Blynedd; EngC cyf 15962) a BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 blynedd; EngC cyf 15963) wedi’u hachredu i nodi eu bod yn bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig (CEng yn rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reolydd y DU, y Cyngor Peirianneg. Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn y DU, sef y Safon ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).
Bydd gradd achrededig yn rhoi i chi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn fwy tebygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cydsyniadau rhyngwladol.
Blwyddyn Sylfaen (TystAU STEM)
Mae’r flwyddyn sylfaen wedi’i llunio i ddatblygu eich sgiliau mathemategol, dadansoddol a astudio, i roi i chi’r sgiliau academaidd angenrheidiol sydd eu hangen i astudio peirianneg yn llwyddiannus ar lefel gradd.
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Bellach (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Integreiddio (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol).
- Gweithgynhyrchu a Defnyddiau (20 credyd; gorfodol)
Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BEng)
- Egwyddorion Trydanol ac Electronig (20 credyd; gorfodol).
- Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio (20 credyd; pas cydran)
- Dylunio Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddor Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Defnyddiau a Chyflwyniad i Brosesu (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BEng)
- Prosiect Grŵp (20 credyd; pas cydran)
- Rheol, Arloesi a Chynaliadwyedd (20 credyd; pas cydran)
- Dylunio a Thechnoleg Gweithgynhyrchu (20 credyd; craidd)
- Belt Gwyrdd Six Sigma (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi Straen a Dynameg (20 credyd; gorfodol)
- Thermohylif a Rheolaeth (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BEng)
- Prosesau Uwch a Defnyddiau (20 credyd; pas cydran)
- Dulliau Cyfrifiannol (20 credyd; pas cydran)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Peirianneg Peiriannau ac Asedau (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi Strwythurol a Hylif ( 20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Sylfaen
Mae gan fyfyrwyr y math yma o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw ennyn y diddordeb hwn fel bod myfyrwyr yn mwynhau dysgu a gwerthfawrogi’r manteision y gall gradd beirianneg eu hychwanegu i gefnogi eu meysydd diddordeb.
Bydd asesiadau’r rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd cyflwyniadau hefyd yn rhan o fodylau fel y prosiect grŵp a phrosiect Mawr lle cewch y cyfle i arddangos eich gwaith.
BEng
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.
Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiectau peirianneg mewn timau ac fel unigolion, gan roi’r cynnwys a ddysgir yn y modylau ar waith.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Fideo Peirianneg Fechanyddol a Gweithgynchyrchu
SA1 Glannau Abertawe
Gwybodaeth allweddol
- Kelvin Lake – Rheolwr Rhaglen Cwrs llawn amser
- Dr. Arnaud Marotin - Rheolwr Rhaglen Cwrs rhan-amser
- Andrew Thorn
- Dr Robert Andrew Hawksley Goodson
- Richard Morgan
- Dr Gregory Thomas Owen
- Richard Sutton
- Dr Stephen Mosey
BEng Pedair Blynedd Mynediad Sylfaen
Mae ein cynigion wedi’u seilio ar 32 pwynt UCAS (80 cynt) ar gyfer y mynediad sylfaen i’n graddau pedair blynedd. Ni fyddwn yn mynnu ar bynciau penodol. Byddwn yn derbyn cymwysterau Safon Uwch, Diplomau Cenedlaethol, Tystysgrifau, Dyfarniadau Cenedlaethol neu gyfwerth, gan gynnwys NVQ Lefel 3, Diploma 14-19 a chyrsiau mynediad. Ar yr amod y byddwch yn cyflawni’r pwyntiau gofynnol, byddai un Safon Uwch yn ddigonol. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C neu uwch.
Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
BEng
112 pwynt (280 cynt) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Gellir hefyd ystyried profiad diwydiannol wrth benderfynu a yw ymgeiswyr yn gymwys i gael eu derbyn.
Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Cymerwn eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd i ystyriaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
Trwy raddio o’r rhaglen Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu, fe gewch gyfleoedd dysgu, gwybodaeth a set sgiliau sydd eu hangen i ymuno â chymuned fyd-eang o beirianwyr gweithgynhyrchu. Byddwch mewn sefyllfa dda i fodloni anghenion a heriau’r sector hwn sy’n gynyddol technolegol .
Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniad gwerthfawr fel Peirianwyr a Rheolwyr mewn amrywiaeth eang o gwmnïau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ford Motor Company
- Tata Steel
- Perkin Elmer
- Caterpillar
- Mono Equipment
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
- British Rototherm
- KSR International
- Aston Martin Lagonda
Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr
Fel sefydliad, rydym yn gyson ceisio cyfoethogi profiad myfyrwyr. O ganlyniad, efallai y bydd rhaid i’r myfyrwyr dalu costau ychwanegol am weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth i’w haddysg. Lle bo’n bosibl, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, ac mae gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, ac mae’r rhain yn ddewisol. Fel arfer caiff myfyrwyr sy’n dewis ymgymryd ag interniaethau/lleoliadau gwaith gan y brifysgol (hyd at £1000) i dalu am gostau teithio a byw.
Nick Tanner, Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu / Peirianneg Fôr
“Y peth gorau am y cwrs oedd cefnogaeth y darlithydd.”
Sarah Chapman-Smith, BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu
“Mae gweithio gyda chwmni rhyngwladol wedi bod yn brofiad anhygoel. Freuddwydiais i fyth y buaswn i’n cael cyfle mor wych wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan y darlithwyr yn Y Drindod Dewi Sant a’r staff yn Perkin Elmer wedi bod yn anhygoel. Mae wedi addysgu sgiliau i mi a fydd yn siŵr o’m helpu ar ôl i mi raddio. Mae’r profiad wedi bod yn unigryw ac rwyf mor falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni hyd yma. Buaswn yn argymell y cwrs yma’n fawr iawn i ddarpar fyfyrwyr. Does ond rhaid i chi weld beth mae e wedi’i wneud i mi. Fy helpu i weithio ochr yn ochr â chwmni rhyngwladol, tri diwrnod yr wythnos, wrth i mi astudio.”
Ewch i'n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau i ddarganfod mwy.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Ewch i'r adran llety i ddysgu rhagor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.