Skip page header and navigation

Blossom Evans - Patrwm Arwyneb a Thecstilau (BA)

Blossom yn PCYDDS

Blossom Evans 2

Enw: Blossom Evans

Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Diploma Sylfaen mewn Celf, Dylunio ac Ymarfer y Cyfryngau yn KEVICC, Totnes

Tref eich cartref: Teignmouth

Profiad Blossom ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Blossom Evans

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am gampws Coleg Celf Abertawe yw ein gofod stiwdio lle gallwn ni weld ein gilydd yn gweithio a siarad â’n gilydd am syniadau, a pha mor agos a hygyrch yw gwahanol weithdai.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS oherwydd yr ystod eang o gyfleoedd a briffiau byw sydd ar gael i fyfyrwyr.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Rwy wedi mwynhau teithio i draethau a threfi cyfagos, hwn yw’r tro cyntaf i mi dreulio amser yn ne Cymru felly bu llawer i’w archwilio.   

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gobeithio y galla i wneud cysylltiadau trwy ddylunwyr newydd a dod o hyd i swydd yn ddylunydd ar gyfer brand waliau mewnol a thecstilau. 

Bydda i ar interniaeth un mis yn y grŵp dylunio IG ym mis Gorffennaf, a gobeithio y bydd hon yn rhoi dechrau da i mi yn y diwydiant, lle galla i ennill profiad a dealltwriaeth.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am y cwrs yw’r briffiau byw gan eu bod nhw wedi caniatáu i mi greu casgliadau ar gyfer ystod o gyd-destunau gwahanol ac wedi fy nysgu i ddilyn briff.

Blossom Evans 1

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i’n argymell PCYDDS ar gyfer y cyfleoedd sydd ar gael a’i maint gan fod yna bob amser rhywun o gwmpas i helpu.

News