Blossom yn PCYDDS
Enw: Emmi Joy
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Celfyddydau Cynhyrchu a Thecstilau Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd
Tref eich cartref: Glyn-nedd
Profiad Emmi ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff bethau ar y campws oedd y gofod stiwdio ardderchog y cawsom ni weithio ag e a’r ystod eang o offer oedd ar gael i ni ar y cwrs hwn a’r gofod llyfrgell ardderchog ar y campws arall a oedd yn wych ar gyfer astudio ac ymchwil modylau.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewises i PCYDDS oherwydd nad oes llawer o fersiynau o’r cwrs hwn yn y wlad, hwn oedd yr un mwyaf hygyrch i mi, ac roeddwn i wedi gweld rhywfaint o’r gwaith i ddod allan o’r cwrs a oedd yn ddiddorol dros ben. Roeddwn i’n teimlo y byddai’n fy ngosod i gydag ystod eang o sgiliau y gallwn ni eu defnyddio yn unrhyw weithle lle bydda i’n glanio.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Yn ystod fy astudiaethau, roeddwn i’n mwynhau mynd am dro o amgylch llwybrau lleol a’r traethau a chwarae gemau bwrdd yn y siop gemau leol gyda fy ffrindiau, yn ogystal â gwerthfawrogi bywyd nos Abertawe ar Stryd y Gwynt o bryd i’w gilydd.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Rwy’n gobeithio sefydlu fy musnes llawrydd bach fy hun gan weithio yn fy ardal leol i greu printiau a chynhyrchion tecstilau eraill, er mwyn helpu i danio’r economi leol. Rwy am ymsefydlu gyda bywyd syml a chreadigol a mwynhau mwy o gerdded a theithiau o amgylch y byd.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs yw’r amrywiaeth eang o sgiliau ac offer rydych chi’n dysgu amdanyn nhw. Mae sgiliau mewn sgrin-brintio i weldio smotiau wedi rhoi ystod eang o bosibiliadau i mi ar gyfer fy ngwaith a chyfeiriad gyrfa posibl, gan roi’r rhyddid i mi wneud fy ngwaith yn unigryw ac yn wahanol i eraill. Ar ben hynny, mae’r gallu i weithio gyda brandiau go iawn yn ystod y profiadau briffiau byw ar y cwrs yn rhoi cyfle gwych i ni brofi rolau bywyd go iawn ac yn ein hagor i gysylltiadau â’r brandiau hyn yn y dyfodol.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS gan fod ganddyn nhw ystod ardderchog o aelodau staff sydd bob amser yn hapus i helpu a bod ganddyn nhw ystod wych o bosibiliadau a chyrsiau sy’n addas ar gyfer ehangder o ddiddordebau a gofynion pobl.