Skip page header and navigation

Orla White - Patrwm Arwyneb a Thecstilau (BA)

Orla yn PCYDDS

Orla

Enw: Orla White

Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Tecstilau (Lefel A) / Gwleidyddiaeth (Lefel A) / Cymdeithaseg (Lefel A) 

Tref eich cartref: Faringdon, Oxfordshire

Profiad Orla ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Orla 1

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am astudio yn Abertawe oedd bod mor agos i’r tirweddau naturiol cyfagos fel Gwlypdiroedd Llanelli.  Roedd yr amgylcheddau hyn ynghyd â’r arfordiroedd yn ysbrydoliaeth gyson ar gyfer fy ngwaith dylunio, yn enwedig yn fy nefnydd o liw, gwead, ac awyrgylch.  Roeddwn i wedi gwerthfawrogi’r cyfleusterau ardderchog a oedd ar gael ar y campws yn fawr iawn.  Ar ôl cael ein hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r offer, roedden ni’n gallu gweithio’n annibynnol, a roddodd y rhyddid i mi arbrofi, datblygu fy sgiliau technegol a dod â fy syniadau’n fyw.  Cynigiodd Abertawe gydbwysedd, cyfleoedd creadigol, annibyniaeth a mynediad at natur, gan ei wneud yn lle ysbrydoledig i astudio.  

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS oherwydd ei henw da cryf am gyrsiau creadigol a’r cyfle i arbenigo mewn patrwm arwyneb a dylunio tecstilau.  Roedd y cyfuniad o brosesau traddodiadol a digidol, ynghyd â mynediad at gyfleusterau arbenigol wedi apelio ataf ac yn cyd-fynd â’r ffordd rwy’n hoffi gweithio.  Yn ogystal, cefais fy nhynnu at yr amgylchedd dysgu cefnogol a’r pwyslais ar ddatblygu hunaniaeth greadigol unigol.  Cynigiodd y cwrs nifer o frifiau byw a phrosiectau sy’n ffocysu ar ddiwydiant, gan ganiatáu i mi weithio i safon broffesiynol, adeiladu hyder, a gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant creadigol.  

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau, rwyf wedi mwynhau archwilio rhannau o Abertawe fel yr arfordiroedd nad oes gennyf fynediad mor hawdd iddynt gartref.  Rwyf hefyd wedi mwynhau meithrin cyfeillgarwch gyda myfyrwyr ar fy nghwrs a myfyrwyr eraill trwy ddiddordebau creadigol a rennir.   Mae byw yn Abertawe wedi caniatáu i mi gydbwyso bywyd yn y brifysgol â’r awyr agored, gan fy helpu i gynnal fy llesiant wrth brofi’r hyn sydd gan y ddinas i’w chynnig a chwrdd â phobl anhygoel newydd. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Yn ddiweddar rwyf wedi dechrau gweithio fel dylunydd print llawrydd i dŷ print, And So On, gan greu patrymau arwyneb a gwaith dylunio ar gyfer defnydd masnachol.  Llwyddais i gael y rôl hon trwy ddatblygu fy mhortffolio yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol ac ennill yr hyder i gysylltu â brandiau, yn ogystal â’r cymorth a gefais gan fy narlithwyr.  Mae fy nghwrs yn PCYDDS wedi bod yn allweddol, gan ddarparu mynediad at offer proffesiynol, meddalwedd o safon y diwydiant, ac arweiniad gan ddarlithwyr sy’n annog arfer yn y byd go iawn ac hyder.  Yn y dyfodol, rwy’n edrych ymlaen at arddangos yn New Designers 2026 diolch i fy narlithwyr ac rwy’n edrych ymlaen at gymryd unrhyw gyfleoedd a ddaw i mi.   

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am y cwrs Patrwm Arwyneb a Thecstilau yw printio sgrin.  Rwy’n dwlu ar ba mor ymarferol yw’r cwrs a sut mae’n caniatáu i mi arbrofi gyda lliw, gwead a haenu mewn ffordd gorfforol iawn.  Rwyf wedi mwynhau dysgu technegau gwahanol ac adeiladu hyder gan ddefnyddio offer proffesiynol yn y stiwdio.  Yn ogystal, mae’n rhoi rhyddid i mi ddatblygu fy arddull a’m syniadau fy hun.  Mae’r broses yn teimlo’n greadigol, ond hefyd yn dechnegol ac rwyf yn ei fwynhau’n fawr.  Yn bendant, printio sgrin yw’r rhan o’r cwrs sy’n fy nghyffroi mwyaf bob dydd.  

Orla  2

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i bendant yn argymell PCYDDS. Mae astudio yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwych, gydag amgylchedd creadigol a chefnogol sy’n ei gwneud hi’n haws i setlo a theimlo’n ysbrydoledig. Mae’r cyfleusterau’n wych, yn enwedig y gofodau print a stiwdio, ac ar ôl i’r darlithwyr ddangos sut i ddefnyddio’r offer, rwyt ti’n cael dy annog i weithio’n annibynnol ac arbrofi.  Rwyf wedi elwa o’r briffiau byw sy’n rhoi profiad diwydiant go iawn ac yn dy helpu i ddeall safonau proffesiynol  Yn ogystal, mae llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiau ac adeiladu portffolio.  Ar y cyfan, mae’n gwrs a gefnogodd ddatblygiad creadigol a chyflogadwyedd mewn ffordd ymarferol.  

News