Plentyndod, Addysg a Chymdeithas: Anghenion Addysg Ychwanegol (BA Anrh)
Mae BA (Anrh) Plentyndod, Addysg a Chymdeithas: Anghenion Dysgu Ychwanegol yn radd ryngddisgyblaethol nodedig sy’n cyfuno astudiaethau plentyndod cynnar, addysg a chymdeithaseg gydag arbenigedd ffocws mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’n cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu ac yn dysgu, tra’n rhoi cynhwysiant ac ymarfer teg wrth wraidd y cwricwlwm.
Byddwch yn archwilio sut mae cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yn siapio profiadau a chanlyniadau addysgol, gan roi sylw arbennig i hawliau, hunaniaethau a lleisiau dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Gan dynnu ar ddeddfwriaeth, ymchwil a fframweithiau proffesiynol cyfredol, mae’r rhaglen yn datblygu eich gwybodaeth am addysgeg gynhwysol, gweithio mewn partneriaeth ac arweinyddiaeth mewn lleoliadau amrywiol.
O’ch blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn datblygiad dynol, lles, diogelu a hunaniaeth broffesiynol. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn dyfnhau eich arbenigedd mewn meysydd fel gwahaniaethau dysgu penodol, niwroamrywioldeb a dulliau cydweithredol o gefnogi dysgwyr gydag ADY. Byddwch yn archwilio sut y gall addysgwyr, teuluoedd a thimau aml-asiantaeth weithio gyda’i gilydd i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad a chyflawniad.
Mae’r cwrs hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth o ddulliau ymchwil, gan eich galluogi i ymgysylltu’n feirniadol â thystiolaeth a’i chymhwyso i ymarfer. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol estynedig gyda ffocws ADY cryf, gan ddangos eich gallu i ymchwilio i faterion cymhleth a chyfrannu at ymarfer cynhwysol.
Mae dysgu yn cael ei wella trwy adnoddau arbenigol a thechnolegau arloesol, gan gynnwys cyfleusterau realiti rhithwir ymgolli sy’n cefnogi dysgu profiadol a myfyriol. Byddwch yn cael cyfleoedd i ymgymryd â lleoliad perthnasol i gryfhau eich profiad ymarferol a’ch rhwydweithiau proffesiynol, a gallwch hefyd ddewis astudio dramor am semester.
Mae graddedigion mewn sefyllfa dda ar gyfer rolau mewn ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, darpariaeth arbenigol, awdurdodau lleol a gwasanaethau cymunedol. Mae’r radd hefyd yn darparu llwybr cryf i astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys hyfforddiant athrawon, cydlynu ADY, gwaith cymdeithasol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar gynhwysiant a thegwch.
Manylion y cwrs
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch yn dysgu?
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o ddatblygiad dynol, ymarfer cynhwysol a’r fframweithiau deddfwriaethol a moesegol sy’n sail i’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’r cwrs yn eich paratoi i adnabod ac ymateb i broffiliau dysgu amrywiol, gan gynnwys gwahaniaethau dysgu penodol a niwroamrywiaeth.
Byddwch yn archwilio gweithio mewn partneriaeth gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol, arweinyddiaeth mewn lleoliadau cynhwysol a rôl amgylcheddau dysgu a thechnolegau digidol wrth gefnogi mynediad ac ymgysylltu. Trwy hyfforddiant ymchwil, byddwch yn dysgu gwerthuso tystiolaeth a’i chymhwyso’n feirniadol i ymarfer.
Bydd profiad lleoliad a’ch prosiect ymchwil blwyddyn olaf yn eich galluogi i arbenigo ymhellach mewn ADY, gan gryfhau eich hyder, eich sgiliau eiriolaeth a’ch hunaniaeth broffesiynol o fewn addysg gynhwysol.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini datblygiad a lles dynol, hawliau plant, a strategaethau dysgu cynhwysol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol allweddol, yn ymgysylltu ag addysgeg greadigol, ac yn deall egwyddorion diogelu ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r modiwlau hyn yn eich paratoi ar gyfer ymarfer myfyriol, cynhwysol a moesegol mewn blynyddoedd cynnar a lleoliadau addysgol.
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o addysg gynhwysol trwy fodiwlau ADY/AAA â ffocws, arweinyddiaeth, a rôl amgylcheddau a thechnolegau mewn dysgu. Byddwch yn archwilio dulliau ymchwil, cyfiawnder cymdeithasol, ac arferion cydweithredol, gan eich paratoi i arwain ac arloesi mewn lleoliadau addysgol amrywiol.
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i arbenigo ymhellach mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol/Anghenion Addysgol Arbennig (ADY/AAA). Byddwch yn ymgysylltu’n feirniadol â materion cyfoes mewn addysg, yn archwilio arweinyddiaeth mewn lleoliadau cynhwysol, ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth o amlieithrwydd, a niwroamrywiaeth. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol, gan eich paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol ac eiriolaeth mewn cyd-destunau addysgol amrywiol.
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
Ymwadiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
Graddfeydd a Safleoedd
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Cyfleusterau
Youth Work and Early Years Studies facilities
Straeon Myfyrwyr Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar
Archwiliwch deithiau ein myfyrwyr Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar, sy'n ymroddedig i gefnogi datblygiad plant a meithrin amgylcheddau cadarnhaol i bobl ifanc. Mae ein rhaglenni’n rhoi'r sgiliau iddyn nhw i gael effaith barhaol yn eu cymunedau.
Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.
Newyddion
Gwybodaeth allweddol
-
O dan 21 - 96-112 pwynt tariff UCAS
Dros 21 - Blynyddoedd Cynnar yn annog ac yn gwerthfawrogi ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd i addysg, gan y bydd ganddynt brofiadau a sgiliau bywyd a allai gefnogi eu mynediad i’r radd.
Efallai y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgelu uwch foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
-
Efallai y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, megis eich cefndir, eich profiadau a’ch amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ‘Derbyniadau Cyd-destunol’.
Os nad oes gan eich cymhwyster gyfwerthedd tariff UCAS, os nad oes gennych gymwysterau mynediad traddodiadol neu os oes gennych ddysgu blaenorol achrededig, cysylltwch â’n tîm ymholiadau gan ein bod yn seilio penderfyniadau ar ein hasesiad ein hunain o gymwysterau, gwybodaeth a phrofiad gwaith blaenorol.
-
-
Mae ein holl raglenni yn cael eu hasesu gan waith cwrs 100%. Nid oes arholiadau.
Rydym wedi canfod bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu yn cynyddu sgiliau cyflogadwyedd.
Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Mae asesiadau yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cael cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol wrth ddefnyddio ystod o ddulliau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol.
Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer profiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.
-
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Ddwyieithog
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo mewn bod yn Brifysgol ddwyieithog ac mae rhai modiwlau yn y cwrs hwn ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg naill ai’n llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch yn dewis astudio’ch cwrs naill ai’n llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Mae argaeledd modiwlau cyfrwng Cymraeg yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall amrywio bob blwyddyn yn dibynnu ar staffio, diddordebau ymchwil, amserlenni, galw myfyrwyr, ac isafswm niferoedd cofrestru, felly ni ellir gwarantu modiwlau penodol bob amser, cysylltwch â ni i drafod mwy.
Cyfleoedd Cymreig
Fel prifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth pwrpasol a neuaddau preswyl i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, gan annog yr ymdeimlad o gymuned a’r teimlad o gartref i ffwrdd o gartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi’ch astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae’r cwrs yn paratoi graddedigion ar gyfer gyrfaoedd mewn addysg, gofal cymdeithasol, polisi, a datblygiad cymunedol, neu ar gyfer astudiaethau pellach mewn addysgu, gwaith cymdeithasol, neu ymchwil ôl-raddedig.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliad perthnasol o’u dewis.
Bydd gan fyfyrwyr yr opsiwn o ymgymryd â semester dramor trwy symudedd rhyngwladol.