Skip page header and navigation

Rhowch eich troed ar y sbardun gyda’n rhaglenni Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol, lle mae dyluniad, datblygiad a gwaith cynnal a chadw cerbydau, peiriannau, a thechnolegau modern yn cael blaenoriaeth yn eich profiad dysgu. Mae’r rhaglenni hyn yn ffurfio clwstwr cynhwysfawr, a chewch ddewis rhaglen a fydd yn eich cludo i fyd o bosibiliadau ac yn eich galluogi i gymryd yr awenau o ran eich dyfodol chi. 

Byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol peirianneg yn ogystal â’r sgiliau arbenigol y byddwch chi eu hangen yn y sectorau traddodiadol a’r sectorau sy’n datblygu. Mae cydweithio yn rhan allweddol o’r diwydiant, a byddwch yn datblygu’r sgiliau hyn mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol.

Ein nod yw datblygu graddedigion cyflogadwy sy’n hyderus ac yn barod ar gyfer y gweithlu, ac sydd â sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau rhyngbersonol a fydd yn eu gosod ar ben ffordd mewn byd gwaith sy’n esblygu.

Rydym yn credu bod sgiliau peirianneg ddadansoddol a phrofiad ymarferol yn cyd-fynd law yn llaw. Pan fyddwch chi’n astudio unrhyw un o’n rhaglenni Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol, byddwch yn cael y profiad hwn trwy weithio a dysgu ar ein campws pwrpasol, modern a blaengar. 

Cewch gwrdd â siaradwyr gwadd o’r diwydiannau a’r cwmnïau hynny y mae ein myfyrwyr yn awyddus i weithio â hwy. Byddwn yn darparu adnoddau amhrisiadwy pan fyddwch yn astudio gyda ni, gan gyflwyno profiadau a gwybodaeth o’r byd go iawn yn yr ystafell ddosbarth. Cewch gyfleoedd i feithrin cysylltiadau â’r diwydiant, a dod i adnabod gweithwyr proffesiynol yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi.

Ar rai rhaglenni, bydd ein myfyrwyr yn gallu parhau i ddatblygu’r sgiliau a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth gyda chyfleoedd i weithio ar leoliadau ac interniaethau. Byddwch yn ennill mwy na chymhwyster gradd ar ddiwedd eich amser gyda ni; rydym yn grediniol y dylem helpu ein myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd. Yn ein dosbarthiadau bychain, rydym yn meithrin y sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol hynny a fydd yn hanfodol i’ch gyrfaoedd yn y dyfodol.

Pam astudio Peirianneg Chwaraeon Moduro, Fecanyddol a Thrydanol yn PCYDDS?

01
Cewch ddysgu ar raglen sydd wedi’i llunio mewn partneriaeth â’r Diwydiant. Byddwch yn ennill profiad ymarferol ac yn ymgysylltu â chyflogwyr.
02
Dewch i adnabod eich hun yn ein dosbarthiadau bychain, lle bydd y profiad prifysgol cefnogol yr ydych eisiau ar gael i chi.
03
Cyfle i ddod i adnabod ac i ddefnyddio technolegau modern, gan gynnwys meddalwedd a chaledwedd sy’n benodol i’r diwydiant.

Clearing

Students in Dynevor Cafe.

Mae Clirio ar Agor

Spotlights

Cerbyd rasio glas ac arno logo PCYDDS

Cyfleusterau

Cewch brofiad ymarferol yn ein Hardal Arloesi SA1 pwrpasol o’r radd flaenaf sy’n cynnwys gweithdai, labordai a thechnolegau diweddaraf y diwydiant gan eich galluogi i ragori yn eich astudiaethau.

Cewch fynediad i’r gwahanol feddalwedd a chaledwedd sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.

Straeon Myfyrwyr Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol
Mewn gweithdy, mae pum myfyriwr yng nghrysau t a chrysau chwys y PCYDDS yn sefyll, gyda’u cefnau i'r camera a char rasio o'u blaenau.

Timau Rasio Chwaraeon Moduro

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae ein rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro yn cynnig cyfuniad cyffrous o brofiad ymarferol, technoleg arloesol, a chystadleuaeth byd go iawn. Nid dim ond yn yr ystafell ddosbarth y mae ein myfyrwyr yn dysgu - maent yn cymhwyso eu sgiliau ar y trac rasio, gan weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr proffesiynol mewn amgylchedd chwaraeon moduro cystadleuol.