Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn rhai o’r meysydd technoleg mwyaf cyffrous sy’n newid yn gyflym. Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a Gwyddor Data barhau i lunio’r dyfodol, mae’r cwrs hwn yn cynnig yr offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y meysydd hyn sy’n tyfu.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn archwilio pynciau allweddol fel Rhaglennu ar gyfer AI, Dysgu Peirianyddol a Data Mawr. Mae’r rhain yn feysydd pwysig mewn technoleg fodern ac fe’u defnyddir i ddatrys problemau byd go iawn ar draws gwahanol ddiwydiannau. Byddwch hefyd yn dysgu am Algorithmau, sef blociau adeiladu systemau AI, a sut i ddefnyddio Mathemateg ar gyfer AI i wneud synnwyr o ddata a chreu datrysiadau clyfrach.
Un o fanteision mawr y cwrs hwn yw ei fod wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd ddim yn raddedigion mewn cyfrifiadureg, sy’n golygu nad oes angen cefndir mewn cyfrifiadura arnoch i ymuno. Mae’r rhaglen yn cynnig cyflwyniad cadarn i’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa mewn AI a Gwyddor Data. O raglennu i weithio gyda setiau data mawr, mae’r cwrs yn eich paratoi i gamu’n hyderus i’r byd technoleg, waeth beth rydych chi wedi’i astudio o’r blaen.
Mae’r rhaglen hon hefyd yn canolbwyntio ar gymwysiadau ymarferol, gan eich helpu i ddeall sut y mae AI ar gyfer busnes yn galllu ysgogi arloesedd a datrys heriau mewn sectorau fel gofal iechyd, cyllid a manwerthu. Mae galw cynyddol am arbenigwyr sy’n gallu defnyddio AI i wella’r ffordd y mae busnesau’n gweithio. Byddwch yn archwilio cyfleoedd gyrfa AI ar draws meysydd amrywiol, gyda phwyslais ar gael y wybodaeth ddiweddaraf am y technolegau diweddaraf. Bydd y sgiliau a ddatblygwch yn werthfawr drwy gydol eich gyrfa, gan fod y cwrs yn annog dysgu gydol oes.
Mae profiad diwydiant yn rhan fawr o’r rhaglen hon, gyda chyfleoedd i ddysgu o gydweithrediad gyda diwydiant yn y byd go iawn. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn AI a Gwyddor Data ac yn rhoi syniad clir i chi o gyfeiriad y dechnoleg.
Byddwch hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio AI ar gyfer cynnydd cymdeithasol i fynd i’r afael â heriau byd-eang, fel gwella AI gofal iechyd neu ddatblygu datrysiadau sy’n cael eu hysgogi gan AI ar gyfer materion amgylcheddol. Mae’r cwrs yn dangos sut y gall AI wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymdeithas, nid yn y byd busnes yn unig.
Mae’r rhaglen hon yn cynnig addysg sy’n diogelu eich hun ar gyfer y dyfodol mewn maes sy’n tyfu’n gyflym. Mae’n darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i fanteisio’n llawn ar y posibiliadau cyffrous mewn AI a Gwyddor Data.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth addysgu yn cyfuno theori a phrofiad ymarferol, gan eich paratoi i ragori ym meysydd prysur Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Gwyddor Data. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau meddwl beirniadol a datrys problemau i chi sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gyrfa ddeinamig mewn AI.
Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn astudio ystod o fodiwlau allweddol sy’n darparu sylfaen gynhwysfawr mewn Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial. Byddwch yn dysgu technegau uwch mewn Cloddio a Delweddu Data, Rhaglennu Ystadegol Uwch, Diogelwch Data, Llywodraethu a Chydymffurfiaeth. Byddwch hefyd yn archwilio’r defnydd o Ddysgu Peirianyddol ac algorithmau Deallusrwydd Artiffisial mewn gwahanol gyd-destunau. Bydd y rhaglen yn gwella eich sgiliau ymchwil drwy fodiwl â ffocws ar Ddulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol. Daw’r flwyddyn i ben gyda Phrosiect Meistr sylweddol, lle byddwch yn defnyddio’ch arbenigedd i ddatrys problem AI neu broblem sy’n cael ei achosi gan ddata yn y byd go iawn, gan eich paratoi ar gyfer cyfleoedd gyrfa AI yn y dyfodol mewn diwydiant neu ymchwil.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
tysteb
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier+, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier+, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Caiff gwaith myfyrwyr ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, portffolio, arholiadau ymarferol mewn labordy ac arholiadau ysgrifenedig.
Gall y marc terfynol ar gyfer rhai modiwlau gynnwys un neu fwy o ddarnau asesu a gaiff eu gosod a’u cwblhau yn ystod y modiwl.
Mae gwaith prosiect yn cael ei asesu trwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar. Mae’n ofynnol i’r myfyriwr ymchwilio a pharatoi prosiect unigol sylweddol ar gyfer Rhan 2.
Gall myfyrwyr prifysgol sydd ddim yn gallu cwblhau pob agwedd ar Ran 1 yn llwyddiannus fod yn gymwys i gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd).
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Mawr ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn datblygu ystod eang o sgiliau technegol a byddant yn astudio nifer o bynciau sy’n ymwneud â systemau gwybodaeth.
Mae’r rhaglen yn ymdrin â thair thema yn y sector cyfrifiadura - Rheoli Data, Profiad y Defnyddiwr a Thechnolegau yn y sector cyfrifiadura.
Rhoddir pwyslais sylweddol ar reoli data a gweithredu cymwysiadau ar gyfer trin gwybodaeth, gan gynnwys systemau cronfa ddata a chymwysiadau gwe. Yn ogystal â hynny, byddai graddedigion yn gallu arwain timau a rheoli prosiectau.
Mae’n debygol y byddai graddedigion yn chwilio am swyddi fel:
- Rheolwr prosiect (ym maes Cyfrifiadura)
- Dadansoddwr data
- Gweinyddwr cronfa ddata
- Datblygwr rhaglen
- Datblygwr gwefannau